Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn amgylchedd di-fwg. Peidiwch ag ysmygu unrhyw le ar ein safleoedd

Bydd y Bwrdd Iechyd yn gwrando am fwy o amser

Dydd Gwener, 2 Mawrth 2012
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ymestyn hyd a lled ei ymarfer gwrando, sef Eich Iechyd, Eich Dyfodol.
 
Cafodd y Bwrdd Iechyd gyfarfod heddiw (dydd Iau 1 Mawrth) â chynrychiolwyr gwahoddedig o’r Cyngor Iechyd Cymuned a’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid, er mwyn adolygu cynnydd yr ymarfer gwrando hyd yma.
 
Bydd staff, rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd yn cael cyfle i fynegi eu barn a rhoi adborth am fis ychwanegol, hyd ddiwedd mis Ebrill.
 
Bydd rhagor o ddigwyddiadau ‘Cwrdd â’r Bwrdd Iechyd’ hefyd yn cael eu cynnal yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Bydd y dyddiadau'r cael eu cynllunio a’u hysbysebu’n eang, ac yn cael eu cynnal yng Nghaerfyrddin, Llanymddyfri, Dinbych-y-pysgod/Saundersfoot a De Ceredigion. Caiff y rhain eu cynnal yn ystod y prynhawn a’r noswaith gynnar er mwyn cyd-fynd ag ymrwymiadau pobl sy’n gweithio rhwng 9am a 5pm.
 
Dywedwyd diolch wrth aelodau staff y Bwrdd Iechyd am y gwaith gwrando ac ymgysylltu eang sydd eisoes wedi’i wneud, er y cydnabuwyd y gellid gwneud mwy er mwyn cryfhau’r ymarfer, er enghraifft cynnal digwyddiadau gyda’r hwyr.
 
Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd: “Mae wedi bod i’r amlwg bod pobl yn ei chael yn anodd gwahaniaethu rhwng ‘ymgynghori’ a ‘gwrando ac ymgysylltu’. Mae pobl am wybod beth sy’n mynd i ddigwydd i’w hysbyty lleol, ac rydym yn deall y rhwystredigaeth, ond cyfnod o wrando yw hwn fel y gallwn ganfod barn pawb, a'i defnyddio er mwyn eu cynnwys mewn unrhyw gynigion a fyddai'n cael eu cynnig mewn ymgynghoriad ffurfiol yn hwyrach eleni.
 
“Rydym am i’n staff, ein rhanddeiliaid a’r cyhoedd achub ar y cyfle hwn i ddarparu gwasanaeth iechyd cynaliadwy sydd gyda’r gorau yn y byd ar gyfer y dyfodol."
 
Hyd yma, mae’r gweithgareddau wedi cynnwys (er nad hynny yw’r cyfan):
  • Dosbarthu pamffled a DVD ‘yr achos dros newid’ i bob cartref
  • Wyth digwyddiad ‘Cwrdd â’r Bwrdd Iechyd’ a fynychwyd gan dros 1,100 o bobl
  • Chwe phrif sioe deithiol i staff, a fynychwyd gan dros 650 o staff  
  • Dros 10,000 o drawiadau ar yr adnodd ar-lein
  • Anfon dros 1,100 set o ddogfennau at randdeiliaid allweddol a sicrhau eu bod ar gael mewn lleoliadau cymunedol fel meddygfeydd a llyfrgelloedd
  • Cyfarfodydd â Chyngor Llawn pob awdurdod lleol a threfnu consortia sirol â Chynghorau Tref a Chymuned  
  • Cyfarfodydd wedi’u cynnal, neu’u trefnu, â’r tri phrif grŵp ymgyrchu
  • Cefnogodd y Bwrdd Iechyd ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ym Mhorthmadog ddoe (dydd Mercher 29 Chwefror)
  • Bydd y Bwrdd hefyd yn cefnogi digwyddiadau pellach y mae Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn eu trefni ym Machynlleth a Llanidloes ddydd Llun 5 Mawrth.*
Dywedodd Aelod Annibynnol o’r Bwrdd, Jane Jeffs: “Mae’r ymarfer gwrando ac ymgysylltu wedi bod mor dda â’r disgwyl ac yn well nag unrhyw beth rwyf wedi’i weld o’r blaen.”
 
*Cynhelir digwyddiad Machynlleth yn Y Plas rhwng 3.30pm a 5pm ddydd Llun 5 Mawrth. Cynhelir digwyddiad Llanidloes yng Nghanolfan Gymunedol y dref rhwng 7pm ac 8.30 ddydd Llun 5 Mawrth
 
Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com