Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2011
Mae data a gesglir gan Google Analytics ar sut mae ymwelwyr wedi rhyngweithio â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod mis Tachwedd 2011 bellach ar gael.
Rhwng 1-30 Tachwedd 2011 cofnodwyd 9,561 o ymweliadau â’r wefan Saesneg gan 6,417 o wahanol ymwelwyr a edrychodd ar gyfanswm o 31,701 o dudalennau. O blith yr ymweliadau hyn, roedd 52 y cant yn ymweliadau newydd h.y. gan ymwelwyr nad oeddent wedi ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r blaen. Ar gyfartaledd roedd ymwelwyr yn edrych ar ychydig dros dair tudalen yn ystod pob ymweliad ac yn treulio dau funud a hanner ar y wefan.
Ffigur 1: Ymweliadau wythnosol â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: 01/11/2011-30/11/2011 [glas] a 01/11/2010-30/11/2010 [oren]

Ar gyfer fersiwn Cymraeg y wefan, cofnodwyd 303 o ymweliadau gan 197 o wahanol ymwelwyr a edrychodd ar gyfanswm o 830 o dudalennau. Roedd 50 y cant o’r ymweliadau’n rhai newydd, ac ar gyfartaledd treuliodd yr ymwelwyr dri munud ar y wefan gan edrych ar oddeutu dair tudalen yn ystod pob ymweliad.
Rhestrir y pymtheg tudalen yr ymwelwyd â hwy amlaf yn y tabl isod:
|
Safle
|
Teitl y Dudalen (y wefan Saesneg)
|
Teitl y Dudalen (y wefan Gymraeg)
|
|
1
|
Hafan (Home)
|
|
|
2
|
Search
|
Chwilio (Search)
|
|
3
|
Bwyta, gweithgaredd corfforol a gordewdra (Eating, Physical Activity and Obesity)
|
|
|
4
|
Achosion o E. coli O157 yng Ngogledd Cymru (E. coli O157 outbreak in North Wales)
|
|
|
5
|
Newyddion (News Index)
|
|
|
6
|
Llyfrgell Hanson Cement (Library Hanson Cement)
|
|
|
7
|
Amdanom ni (About us)
|
|
|
8
|
Gordewdra (Obesity)
|
|
|
9
|
Gwasanaethau a Thimau (Services and Teams)
|
|
|
10
|
Ysmygu (Smoking)
|
|
|
11
|
Bwyta’n Iach (Healthy eating)
|
|
|
12
|
Manylion Cyswllt y Byrddau Iechyd Newydd (Health Boards Contact Details)
|
|
|
13
|
Prosiect Pennu Trywydd Iechyd Atgenhedlol a’r Blynyddoedd Cynnar (Reproductive and Early Years Health Pathfinder Project)
|
|
|
14
|
Pynciau Iechyd (Health Topics)
|
|
|
15
|
Diogelu Mewn Ymarfer Deintyddol (Safeguarding in Dental Practice)
|
Yn ôl y disgwyl, mae’r rhan fwyaf o’r tudalennau cynnwys mwyaf poblogaidd yn dudalennau gwelywio ac mae chwe tudalen yn ymddangos yn y pymtheg uchaf ar gyfer dwy fersiwn y wefan.
Tudalen lanio yw’r dudalen y mae ymwelydd yn ei defnyddio i gael mynediad i’r wefan. Mae’n ddiddorol nodi bod wyth clefyd/pwnc iechyd yn ymddangos ar y rhestr hon ac mae’n debygol bod ymwelwyr wedi glanio ar y tudalennau hyn drwy gynnal chwiliad ar Google (neu beiriant chwilio arall) o’r cyflyrau hyn.
|
Safle
|
Teitl y Dudalen (Saesneg)
|
|
1
|
|
|
2
|
|
|
3
|
|
|
4
|
|
|
5
|
|
|
6
|
|
|
7
|
|
|
8
|
|
|
9
|
|
|
10
|
Ar gyfer fersiwn Cymraeg y wefan, yr hafan oedd y dudalen lanio a gofnodwyd amlaf, gan gyfrif am 60 y cant o ymwelwyr ond roedd 10 y cant o’r ymwelwyr yn cyrraedd y wefan drwy’r tudalennau ‘Gordewdra’ a ‘Bwyta, Gweithgaredd Corfforol a Gordewdra’.
Mae ein Polisi Preifatrwydd, y ceir dolen iddo ar waelod pob un o dudalennau gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn berthnasol i bob gwybodaeth a gesglir neu a gyflwynir i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i’r defnydd o Google Analytics i fonitro gweithgaredd defnyddwyr. Gellir darllen ein Polisi Preifatrwydd yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/47461
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru