Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2011
Mae cynnydd yn nifer yr achosion o’r pas yng Nghymru wedi arwain Iechyd Cyhoeddus Cymru i alw ar rieni i sicrhau bod eu plant yn cael pob un o’u brechiadau.
Rhwng Ionawr a 23 Hydref eleni, cofnodwyd 37 o achosion o’r pas gan feddygon ar hyd a lled Cymru. Mae hyn yn cymharu â chyfanswm o 14 o achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru yn ystod 2010.
Brechu yw’r dull pwysicaf o atal y clefyd hwn.
Mae’r pas, sydd hefyd yn cael ei alw’n bertwsis, yn salwch difrifol, yn arbennig ymysg plant ifanc iawn. Y prif symptomau yw pyliau o beswch sydd, ymysg babanod a phlant, yn mynd law yn llaw â sŵn ‘hŵp’ wrth i’r plentyn geisio cael ei anadl ar ôl pesychu. Fel arfer mae’r symptomau hyn yn parhau am ryw chwe wythnos.
Cynigir brechlyn y pas i blant pan fyddant yn ddau, tri a phedwar mis oed fel rhan o’r brechlyn 5 mewn 1. Dylent gael pigiad atgyfnerthu pan fyddant yn dair a phedwar mis oed cyn iddynt ddechrau’r ysgol. Mae’n bwysig bod plant yn cael pob dos er mwyn iddynt allu meithrin imiwnedd cryf i’r clefyd.
Meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal Drwy Frechlyn, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r pas fel pe bai yn ei anterth bob tair i bedair blynedd, a’r tro diwethaf oedd 2008. Mae sicrhau bod plant yn cael eu holl frechiadau’n bwysig iawn.
“Mae brechu yn ffordd effeithiol iawn o atal y clefyd difrifol hwn. Yn ogystal ag atal plant ifanc rhag dal y clefyd mae hefyd yn eu hatal rhag ei drosglwyddo i’w brodyr a’u chwiorydd iau, a allai fod yn rhy ifanc i fod wedi cael cwrs llawn o frechiadau. Mae’r pas yn ddifrifol iawn ymysg babanod ifanc felly mae’n bwysig iddynt gael eu brechu mewn pryd.”
Dylai unrhyw un sy’n pryderu am eu hiechyd gysylltu â’u meddyg teulu neu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.
Mae mwy o wybodaeth ar gael am Pertwsis ar gael ar gael ar ein gwefan.
Ffynhonnell:
Iechyd Cyhoeddus Cymru