Bob gaeaf mae straeon am wardiau ysbytai ac adrannau brys sy'n llawn i orlawn oherwydd 'pwysau'r gaeaf' bondigrybwyll. Mae hyn yn tarfu ar waith yr ysbyty ac yn golygu bod yn rhaid i gleifion aros yn hirach am driniaethau ac apwyntiadau, ac mae'n cynyddu'r pwysau sydd ar staff, yn arbennig ar yr adegau mwyaf prysur.Mae modd trin llawer o afiechydon gartref drwy ddefnyddio meddyginiaethau sydd ar gael dros y cownter, drwy yfed digonedd o ddiodydd a chael digon o orffwys.
Gofalu amdanoch eich hun ydy'r dewis gorau ar gyfer trin afiechydon ac anafiadau mân iawn.
Cofiwch ddarllen pob label ar y meddyginiaethau, a pheidiwch â chymryd dos mwy na'r un a nodir ar unrhyw feddyginiaeth. Er enghraifft, mae paracetamol mewn nifer o wahanol feddyginiaethau at y ffliw ac mewn tabledi paracetamol cyffredin. Ddylech chi ddim rhoi aspirin i blant o dan 16 mlwydd oed oni bai fod meddyg wedi dweud wrthych.
Cofiwch dweud wrth eich fferyllydd os ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaethau eraill neu os oes gennych chi gyflwr meddygol e.e. asthma, pwysedd gwaed uchel, er mwyn bod yn siŵr eich bod yn cael y feddyginiaeth fwyaf addas.
Yn aml y fferyllydd ydy'r pwynt cyswllt cyntaf i gleifion ofyn cwestiynau am iechyd. Gall unrhyw un weld fferyllydd am gyngor heb apwyntiad ac mae gan amryw o fferyllwyr ystafelloedd ymgynghori sy'n fwy preifat a chyfrinachol.
Hefyd, gallwch gael cyngor ar fân gyflyrau dros y cownter yn y fferyllfa leol. Mae mwy o feddyginiaethau ar gael heb bresgripsiwn erbyn hyn, felly cyn trefnu apwyntiad gyda'r meddyg, gallwch alw yn y fferyllfa leol a gweld a allant awgrymu triniaeth.
Mae'r rhan fwyaf o anwydau'n para am ryw bythefnos ac yn diweddu gyda peswch a phoer lliw. Ond os ydy'ch peswch yn para am fwy na thair wythnos, neu os ydych chi'n fyr o wynt neu'n cael poenau yn eich brest neu os oes gennych chi glefyd ar y frest, mae angen i chi weld eich meddyg. Dylech hefyd weld eich meddyg os ydych chi'n poeni am eich symptomau neu'ch cyflwr. Dylech bob amser ffonio 999 mewn achos brys sy'n bygwth bywyd pan fo rhywun yn ddifrifol wael neu wedi ei anafu'n ddrwg a'i fywyd mewn perygl.
| Cadwch stoc o feddyginiaethau'r gaeaf yn eich cwpwrdd:
|
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y driniaeth orau os ydych chi'n wael neu wedi eich anafu, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eich annog i Ddewis yn Ddoeth - am ragor o wybodaeth ewch i wefan Dewis Doeth Llywodraeth Cymru http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/dewisdoeth neu am gopi o'r daflen Dewis Doeth, ffoniwch 01248 384183.