Mae Bwrdd Prosiect wedi cael ei sefydlu i oruchwylio gweithrediad y Mesur yng Ngogledd Cymru, dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Cychwynnol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl. Mae hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Grwpiau Rhaglen Glinigol, Meddygon Teulu, Awdurdodau Lleol a’r sector gwirfoddol yn ogystal â chynrychiolwyr defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr.
Mae tri grŵp gweithredu’r prosiect yn mynd rhagddo â’r cynllunio a gweithredu manwl, un yn edrych ar drefniadau eiriolaeth, un yn edrych ar gefnogaeth gofal cychwynnol, cynllunio gofal a threfniadau cyd-drefnu ac ailgyfeirio ar gyfer plant a phobl ifanc, ac un yn edrych ar yr un meysydd ar gyfer oedolion..
I gael gwybodaeth bellach am y Prosiect Rhoi ar Waith, cysylltwch â Wyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Datblygu Partneriaethau Cymunedol: Wyn.Thomas@wales.nhs.uk