Yn ystod 2012 daw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru i rym. Darn o gyfraith sy’n cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw mesur.
Mae’r Mesur Iechyd Meddwl yn gwneud nifer o newidiadau pwysig i’r ffordd gall pobl â phroblemau iechyd meddwl gyrchu gwasanaethau a’u derbyn.
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn gosod y gyfraith iechyd meddwl bresennol. Mae’n rhoi fframwaith ar gyfer cyfnodau yn yr ysbyty a thriniaeth orfodol rhai pobl ag anhwylder meddyliol. Fodd bynnag, lleiafrif bach iawn o bobl â phroblemau iechyd meddwl sydd angen y driniaeth orfodol hon. Mae’r rhain fwyaf o bobl â phroblemau iechyd meddwl yn ceisio triniaeth yn wirfoddol.
Mae’r Mesur newydd yn delio â chyrchu a derbyn gofal a thriniaeth o fewn gwasanaethau iechyd meddwl cychwynnol ac eilaidd. Bydd yn berthnasol i bawb, o bob oed, sy’n derbyn gofal a thriniaeth o fewn y gwasanaethau hyn yng Nghymru yn wirfoddol; mae eiriolaeth, triniaeth a derbyniad gorfodol yn dal i fod yn faterion ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Dyma bedwar bwriad bras y Mesur:
- Darparu asesiad o iechyd meddwl unigolyn a, lle bo’n briodol, darparu triniaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl o fewn gofal cychwynnol. Mae’r Mesur yn rhoi dyletswydd statudol ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol i ddatblygu a darparu gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl cychwynnol lleol ar draws Cymru.
- Gwella effeithiolrwydd a chyd-drefniant gwasanaethau iechyd meddwl trwy greu gofynion statudol o ran cynllunio gofal a thriniaeth a chydlynu gofal
- Rhoi gofyniad ar wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i gael trefniadau ar waith i alluogi pobl maent wedi’u rhyddhau i gyfeirio eu hunain yn ôl i’r gwasanaeth yn uniongyrchol os byddant yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio yn sylweddol, heb orfod mynd i’w meddyg teulu neu rywle arall yn gyntaf i gael eu cyfeirio.
- Ymestyn darpariaeth cefnogaeth Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA), sydd ar hyn o bryd dim ond yn ofynnol ar gyfer cleifion sy’n destun i adrannau mwy tymor hir y Ddeddf Iechyd Meddwl, fel ei bod ar gael i’r holl gleifion sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf a’r rheiny sy’n cael eu derbyn i ysbyty yn wirfoddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu ffeithlen sy’n cynnwys esboniad mwy manwl o’r Mesur. Sylwch fod y dyddiadau gweithredu a nodwyd ar y ffeithlen wedi cael eu hadolygu a bellach mae’r dyddiadau isod ar gyfer 2012 yn gywir.
Dyddiadau Dechrau
Mae yna nifer o ddyddiadau allweddol yn ystod 2012 pan fydd angen i bob un o’r elfennau hyn fod ar waith:
- Ionawr - Gwasanaethau Eiriolaeth i fod ar gael i bob claf sy’n destun i’r Ddeddf Iechyd Meddwl
- Ebrill - Gwasanaethau Eiriolaeth i fod ar gael i bob claf mewnol gwirfoddol (anffurfiol)
- Mehefin - Cynllunio Asesiad, Gofal a Thriniaeth a chyd-drefniant gofal o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, gan gynnwys trefniadau hunan gyfeirio uniongyrchol ar gyfer cyn gleifion
- Hydref - Gwasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl Cychwynnol Lleol
Newyddlen Gweithredu
Gwybodaeth bellach
Edrychwch ar y dolennau ar y chwith i weld dogfennaeth gyfarwyddyd a gwybodaeth bellach am y prosiect rhoi ar waith yng Ngogledd Cymru.
