Agenda ar Gyfer Newid

Beth yw’r Agenda ar Gyfer Newid?

Mae’r Agenda ar Gyfer Newid yn system dalu newydd ar gyfer mwy na miliwn o bobl sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yn y DU, ac eithrio rhai rheolwyr uwch iawn a’r rhai sy’n cael eu cwmpasu gan y corff sy’n adolygu cyflogau meddygon a deintyddion.
 
Daethpwyd i gytundeb gydag undebau’r GIG yng Nghyngor Staff y GIG ar 23 Tachwedd 2004, ar ôl gorffen ail broses bleidleisio gan rai undebau.  Mae’r Agenda ar Gyfer Newid yn cael ei estyn allan yn genedlaethol o 1 Rhagfyr 2004, a bydd cyflogau a’r rhan fwyaf o delerau ac amodau’n cael eu hôl-ddyddio i 1 Hydref.  Beth yw’r buddion?
 

System Dalu Newydd

  • System dalu newydd, yn seiliedig ar werthuso swyddi.  Mewn geiriau eraill, bydd y tâl sylfaenol y bydd staff yn ei dderbyn yn deg a bydd yn adlewyrchu’r wybodaeth, cyfrifoldeb, sgiliau a’r ymdrech sydd eu hangen ar gyfer y swydd, yn hytrach na’r teitl swydd neu grŵp galwedigaethol hanesyddol.  Er mwyn symud trwy’r system dalu newydd, rhaid i staff ddangos eu bod yn gweithio ar lefel o gymhwysedd sy’n briodol i lefel eu cyfrifoldebau 
  • Bydd effaith y system dalu newydd ar grwpiau staff ac unigolion penodol yn dibynnu ar bwysau swydd, patrymau gweithio a lwfansau

Arferion Gwaith Newydd

  • Mae cael mwy o gyfrifoldeb yn golygu mwy o dâl, felly bydd staff yn cael eu hannog a’u hyfforddi i ennill sgiliau newydd ac ymgymryd â rolau newydd.  Bydd hyn yn diwygio arferion gwaith ac yn cael gwared ar hen ddiffiniadau fel bod cleifion yn gallu cael gofal cyflymach a gwell.  Er enghraifft, gallai Cynorthwyydd Gofal Iechyd, sy’n ennill cymhwyster CGC a sgiliau gofal cleifion pellach, weithio fel ymarferydd cynorthwyol yn gweithio mewn clinig cleifion allanol, yn trin briwiau, gwneud profion a chymryd gwaed, er enghraifft

Rhannu Llafur yn Gallach 

  • Bydd diwygio cyflogau yn galluogi’r GIG i greu Grisiau Sgiliau i staff.  Bydd yn golygu cynnydd cyflymach wrth ddatblygu rolau newydd a gynlluniwyd o gwmpas anghenion cleifion.  Wrth i staff ddatblygu mewn rolau newydd, bydd cleifion yn cael budd o hyn

Gwobrau Cliriach am Weithio Oriau Anghymdeithasol

  • Mae’n ein galluogi i wobrwyo staff sy’n gweithio’n hyblyg tu allan i oriau traddodiadol ac yn helpu darparu gwasanaethau estynedig i gleifion neu waith estynedig adeg argyfyngau.  Caiff hyn ei wneud mewn ffordd sy’n cadw gweithio’n hyblyg, sy’n gydnaws â bywyd teuluol

Rhyddid a Hyblygrwydd i’r Bwrdd Iechyd

  • Hyblygrwydd i gynllunio swyddi o gwmpas anghenion y cleifion, yn hytrach nag o gwmpas diffiniadau graddau  
  • Hyblygrwydd i ddiffinio’r sgiliau craidd a’r wybodaeth y dymunant i staff eu datblygu ym mhob swydd
  • Hyblygrwydd i dalu mwy lle byddwn yn wynebu pwysau recriwtio a chadw staff  
  • Hyblygrwydd i lunio cynlluniau gwobrwyo perfformiad ychwanegol
 
Am fwy o wybodaeth am yr Agenda ar Gyfer Newid, ewch i wefan Moderneiddio Cyflogau GIG Cymru: www.wales.nhs.uk/sites3/home.cfm?orgid=433
 
 
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 22 Chwefror 2011