Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus swyddogol yn 2007, daeth yr Adolygiad Gofal Eilaidd ‘
Cynllun Gogledd Cymru’ i’r casgliad nad oedd Ysbyty HM Stanley yn addas i’r diben. Argymhellwyd y dylid symud gwasanaethau presennol yr ysbyty - Offthalmoleg, Gwasanaethau Ailsefydlu yn dilyn Strôc, a rhai clinigau allanol - i well cyfleusterau. Cadarnhawyd hyn eto yn 2009 fel rhan o adolygiad Gwasanaethau Clinigol y Bwrdd Iechyd newydd a oedd yn cynnwys dros 500 o fudd-ddeiliaid allweddol.
Mae cyflwr yr adeiladau ar safle H.M. Stanley yn wael iawn ac mae’r Bwrdd wedi cytuno, fel rhan o’i Gynllun 5 mlynedd (dogfen Saesneg), i flaenoriaethu symud gwasanaethau oddi ar safle H.M. Stanley erbyn Mawrth 2011. Caiff yr holl wasanaethau hyn eu symud i gyfleusterau mwy addas er mwyn i gleifion fod yn fwy cyfforddus a chael mwy o urddas wrth dderbyn gwasanaethau.
Bydd Tîm Prosiect amlddisgyblaethol yn arwain y gwaith hwn a bydd y tîm hefyd yn gweithio gyda defnyddwyr eraill ar y safle - Hospis St. Kentigern a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – i sicrhau y caiff eu gwasanaethau nhw eu cynnal.
Bydd diweddariad ar y prosiect yn cael ei roi ar y wefan hon bob chwarter.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â
Barbara Lloyd, Tel: (01978) 346548; mailto:barbara.lloyd@wales.nhs.uk
Barbara Lloyd, Tel: (01978) 346548; mailto:barbara.lloyd@wales.nhs.uk
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr yn awyddus i gael eich barn am y cynigion yn ymwneud ag Ysbyty HM Stanley . Am fwy o wybodaeth, ewch ar ein gwefan ar y ffôn 01341 422236 neu e-bost pat@nwwaleschc.org.uk