Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon, a gallai fod rhai wedi cael eu gosod eisoes.
Os fyddwch yn parhau i ddefnyddio’r safle heb newid eich gosodiadau, byddwn yn tybio eich bod yn cytuno â hyn.
Darganfyddwch fwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio a pham

Cuddio'r neges hon

Therapi Celf

Beth yw Therapi Celf?

Mathau o therapi mynegiannol sy’n defnyddio’r broses greadigol i wella lles emosiynol a chorfforol yr unigolyn yw Therapi Celf. Ceir pedwar proffesiwn:

  • Therapydd Celf/Seicotherapydd Celf
  • Therapydd Cerdd
  • Therapydd Drama
  • Therapydd Symudiad Dawns

Mae Therapyddion Celf yn ymarferwyr profiadol a chymwysedig yn eu celfyddyd ddewisedig ac wedi’u hyfforddi i lefel Meistr ôl-raddedig. Maent wedi cofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd y DU (HPC).

Ynglŷn â Therapi Celf:

Y defnydd therapiwtig o gelf, cerddoriaeth, drama neu ddawns o fewn perthynas broffesiynol yw Therapi Celf, i bobl sy’n profi salwch, trawma neu heriau bywyd, a’r rheiny sy’n awyddus i ddatblygu’n bersonol. Trwy greu celf, ymgysylltu â cherddoriaeth a myfyrio ar y cynnyrch a’r prosesau, gall pobl ddod yn fwy ymwybodol ohonynt eu hunain ac eraill, ymdopi â symptomau, straen a phrofiadau trawmatig a gwella galluoedd gwybyddol.

Ynglŷn â’r therapydd:

Gweithwyr proffesiynol a hyfforddwyd yn y celfyddydau ac mewn seicotherapi yw therapyddion celf. Maent yn gwybod llawer am ddatblygiad dynol, damcaniaethau seicolegol, arfer clinigol, traddodiadau artistig, a photensial creadigedd i iachau. Maent yn defnyddio’r cyfrwng creadigol i asesu, trin ac ymchwilio.

Lle maent yn gweithio:

Bydd therapyddion celf yn gweithio gyda phobl o bob oed: unigolion, cyplau, teuluoedd, grwpiau a chymunedau.
 
Maent i’w canfod yn bennaf yn y GIG, y Gwasanaethau Cymdeithasol a lleoliadau eraill dan adain y llywodraeth fel Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi.
 
Gallant ddarparu gwasanaethau, yn unigol ac fel rhan o dimau clinigol, mewn lleoliadau sy’n cynnwys iechyd meddwl; anableddau dysgu; datblygiad ac iechyd plant; meddygaeth gorfforol a sefydliadau fforensig.
 
Y tu hwnt i leoliadau clinigol, byddant yn ymarfer mewn rhaglenni allgymorth yn y gymuned; ysgolion, cynlluniau byw â gofal ychwanegol; cartrefi nyrsio; stiwdios agored a chymorthfeydd annibynnol yn y sector annibynnol, elusennol a gwirfoddol.

Mae therapyddion Celf a Cherddoriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio i’r gwasanaethau canlynol:


• Iechyd Meddwl Oedolion (gofal eilaidd a chychwynnol)
• Iechyd Meddwl Fforensig Oedolion (Uned Gadarn Ganolig)
• Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

 Y Celfyddydau ym maes Iechyd a Lles:


Bydd Therapyddion Celf yn gweithio law yn llaw â phrosiectau celf ehangach, sefydliadau, orielau ac amgueddfeydd, sy’n rhannu’r nod o ddefnyddio celf i hyrwyddo lles cyffredinol, cydlyniad cymunedol, a gwella’r amgylchedd. Adran Celfyddydau ym Maes Iechyd
 
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Therapi Celf ac Celfyddydau mewn Iechyd a Lles, cysylltwch ag Elizabeth Aylett, Pennaeth Therapïau Celf BIPBC ar 01248 682567 neu drwy e-bost elizabeth.aylett@wales.nhs.uk
 

Dolenni Defnyddiol 

 
 
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 10 Chwefror 2012