Orthopaedeg ydy’r arbenigedd sy’n ymwneud â diagnosis a thrin anhwylderau, cyflyrau ac anafiadau i’r system sgerbydol a’r cyhyrau, y cymalau a’r gewynnau sy’n gysylltiedig.
Mae’r Llawfeddygon Orthopaedeg Ymgynghorol yn cynnal amrywiaeth eang o lawdriniaethau brys a dewisol i gleifion yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys gosod cymal (clun neu ben-glin)newydd, trin torasgwrn, arthritis, anafiadau chwaraeon a phoen cefn, ymhlith llawer mwy.
Yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Abergele y rhoir y llawdriniaeth ac mae clinigau i gleifion allanol ar hyd a lled Gogledd Cymru.