Er gwaetha’r term “cyffredinol”, mae llawfeddygon sy’n gweithio mewn llawfeddygaeth gyffredinol yn llawfeddygon medrus iawn sy’n trin cyflyrau cyffredin yn yr abdomen fel llid y pendics, hernia, materion yn ymwneud â choden y bustl, y stumog a’r perfedd.
Dros y degawd diwethaf, mae llawfeddygaeth gyffredinol wedi cael ei rhannu yn nifer cynyddol o is-arbenigeddau. Y rheswm am hyn yw bod natur pob llawfeddygaeth yn mynd yn fwy a mwy arbenigol, a’r angen i lawfeddygon unigol ddatblygu eu sgiliau yn y meysydd arbenigol yma.
Mae’r gwasanaeth llawfeddygol cyffredinol yn trin cleifion â phroblemau brys. Mae’r cyflyrau brys sy’n cael eu trin gan y gwasanaeth llawfeddygol cyffredinol yn amrywio o boen amhenodol yn yr abdomen a chasgliad i gyflyrau sy’n peryglu bywyd fel gwaedu difrifol yn yr abdomen a dueg sydd wedi rhwygo.
Mae’r is-arbenigeddau hyn yn rhan o lawfeddygaeth gyffredinol:
- Llawfeddygaeth y Fron
- Llawfeddygaeth Golorectol
- Llawfeddygaeth Endocrinaidd