Gwasanaethau Allan o Oriau a dros Gwyliau Cyhoeddus

Gwasanaethau Iechyd dros Gwyliau Cyhoeddus
 
Bydd y wybodaeth ar y dudalen hon yn eich helpu i gael mynediad at y gwasanaethau iechyd pe bai gennych argyfwng neu broblem frys tra mae'r gwasanaethau iechyd lleol arferol ynghau neu yn ystod y gwyliau.
 
Darperir gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd ar draws Gogledd Cymru. Defnyddiwch y cysylltiadau Gwybodaeth Leol isod i gael gwybod am wasanaethau iechyd yn eich ardal chi:
 
 
Os nad ydych yn sicr pa wasanaeth iechyd sydd ei angen arnoch, ewch i’r dudalen Dewis Doeth am gyngor.
 
 
Os oes gennych achos brys fel mygu, poen yn y frest, pasio allan, colli gwaed, anaf difrifol neu amheuaeth o strôc, ffoniwch 999 a gofyn am Ambiwlans ar unwaith, neu ewch yn syth i’ch Adran Achosion Brys agosaf.
 

 
 
O 1 Ebrill 2011 fydd y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu Gogledd Cymru yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ni fydd y gwasanaethau na’r lleoliadau lle mae’r gofal yn cael ei ddarparu yn newid.
 
Bydd rhif ffôn newydd ar gyfer y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ar gael rhwng 6.30pm ac 8.00am o ddydd Llun i ddydd Gwener a thrwy'r dydd a’r nos ar benwythnosau a gwyliau banc.  Os oes angen gweld meddyg arnoch yn ystod yr amseroedd hyn ffoniwch
 

0300 123 55 66

 
Os fyddwch yn cysylltu'r gwasanaeth, byddwch yn cael eich asesu dros y ffôn a’ch cynghori ynghylch y gofal mwyaf addas i chi.  Gall hyn fod yn gyngor dros y ffôn gan feddyg neu nyrs neu efallai y byddwch yn cael apwyntiad i weld meddyg mewn Canolfan Driniaeth y Tu Allan i Oriau yn lleol.
 
Nid canolfannau galw heibio neu gerdded i mewn mo’r Canolfannau Triniaeth y Tu Allan i Oriau hyn; rhaid i gleifion drefnu apwyntiad cyn cael eu gweld drwy ffonio’r Rhif y Tu Allan i Oriau 0300 123 55 66.
 
Ffoniwch 999 neu ewch i’ch Adran Achosion Brys (A&E) agosaf ar gyfer argyfyngau fel colli ymwybyddiaeth, poen difrifol yn y frest, damweiniau difrifol neu golli gwaed difrifol.  
 
Am gyngor iechyd cyffredinol, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ewch ar eu gwefan.
 

 
Os ydych wedi’ch cofrestru gyda deintydd, dylech gysylltu â’ch deintyddfa i weld pa drefniadau Allan o Oriau sydd ganddynt. Os nad oes gennych ddeintydd, dylech ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 i gael gwybod am glinigau deintyddol brys yn eich ardal chi.
 

 
Os ydych yn cael ail bresgripsiynau gan ei Meddyg Teulu, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu harchebu ymlaen llaw fel bod gennych ddigon dros gyfnod y gwyliau.
 
A wyddech chi y gallai’ch fferyllfa leol eich helpu gyda:
  • chyngor am fân salwch megis y ddannoedd, haint llygaid neu broblemau’r croen
  • dulliau atal cenhedlu brys (y ‘Bilsen Bore Wedyn’) mewn rhai ardaloedd
  • meddyginiaethau ail bresgripsiwn os byddwch yn mynd heb ddim
  • cyngor cyffredinol am eich meddyginiaeth
Mae amseroedd agor fferyllfeydd lleol dan Gwybodaeth Leol ar frig y dudalen hon.
 
 
 
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 18 Rhagfyr 2012