Profiad Gwaith

Sylwer: Ni allwn dderbyn ceisiadau am brofiad gwaith dim ond ym meysydd Nyrsio neu Feddygol, ni ellir derbyn ceisiadau ar gyfer unrhyw faes arall ar hyn o bryd. Diolch yn fawr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn credu fod lleoliadau profiad gwaith yn bwysig i helpu denu gweithwyr fydd yn arwain ac yn darparu gwasanaethau iechyd yn y dyfodol.
Gall lleoliadau i fyfyrwyr fod yn gyfle i ddarganfod mwy am gleifion, y sefydliad a'r gwahanol adrannau a phroffesiynau ym maes iechyd.
Mae nifer y lleoliadau yn gyfyngedig ac yn ddibynnol ar ba mor addas yw'r ymgeisydd (ffurflen gais a chyfweliad os bydd angen), y polisi ynghylch profiad gwaith a beth sydd ar gael ar yr adeg y gwneir y cais.  Rhoddir ystyriaeth i fyfyrwyr Blwyddyn 10 neu hyn, yn ôl maes yr ymgeisir amdano.  Rydym yn adolygu ein polisi ar hyn o bryd ac nid ydym yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr neu ymgeiswyr dan 16 oed.
Er mwyn cael eich ystyried am brofiad gwaith, yn gyntaf rhaid i chi wybod i sicrwydd pa adran(nau) yn y Gwasanaeth Iechyd sydd o ddiddordeb i chi.  Ni dderbynnir ceisiadau sydd heb enwi'r adran o'u dewis.

Nyrsio

Os hoffech gael profiad gwaith Nyrsio yn BIPBC, bydd arnoch angen cwblhau pob un o’r 3 ffurflen (yn llawn). Gellir cael gafael arnynt a’u llawrlwytho drwy ddefnyddio’r ddolen isod.
 
Rhaid i bob ymgeisydd fod dros 18 oed. Yn anffodus, ni allwn gynnig profiad gwaith mewn Paediatreg, Mamolaeth, Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a’r Adran Achosion Brys.
 
Rhaid cyflwyno’r ceisiadau cyn 13 Mehefin 2013. Ni fydd ceisiadau a gawn wedi’r dyddiad hwn yn cael eu prosesu (na cheisiadau anghyflawn na cheisiadau heb eirda).   
 
Bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd am gyfweliad byr i asesu pa mor addas ydynt (wythnos yn cychwyn 29 Gorffennaf 2013) – sylwer y bydd y ceisiadau’n cael eu hadolygu gan y tîm addysg, a dim ond y rhai sy’n cael eu hystyried yn addas fydd yn cael eu galw am gyfweliad.   
 
Bydd profiad gwaith yn cael ei gynnig i’r ymgeiswyr y mae’r panel yn eu hystyried sydd fwyaf addas yn dilyn y drefn gyfweld.
 
Bydd profiad gwaith yn cychwyn (un wythnos yn unig) rhwng 24 Awst 2013 hyd at 15 Medi 2013.
 
Dylid anfon unrhyw ymholiadau at Neirian.jennings@wales.nhs.uk
 
Dylid dychwelyd y tair ffurflen (yn cynnwys geirda ar bapur pennawd) at:
 
Mrs Neirian Jennings
Ystafell 1132,
Ysgol Nyrsio,
Ysbyty Glan Clwyd
Bodelwyddan
LL18 5UJ
 
 

Meddygol

 
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio meddygaeth, dyma sut i wneud cais:
 
Ysbyty Gwynedd
 
Ar gyfer lleoliadau meddygol yn Ysbyty Gwynedd, anfonwch lythyr cyflwyno a CV (yn cynnwys manylion graddau TGAU unigol) at: Mrs Kim Thomas, Rheolwr Israddedigion, Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd. LL57 2PW.  Mae'r lleoliadau hyn yn agored i fyfyrwyr ym mlwyddyn 12 yn unig, a'r dyddiad cau yw 31 Mawrth bob blwyddyn.  Bydd ymgeiswyr sy'n meddu ar raddau TGAU addas yn cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad cyn cael eu lleoli.
 
Ysbyty Glan Clwyd
 
Ar gyfer lleoliadau meddygol yn Ysbyty Glan Clwyd, anfonwch eich CV, llungopi o'ch canlyniadau TGAU a llythyr cyflwyno at: Mrs Jayne McCall, Rheolwr Israddedigion, Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan cyn gynted â'ch bod yn cael eich marciau.  Bydd lleoliadau yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i'r felin, cyn belled â bod eich canlyniadau yn debyg o roi gobaith realistig o gael lle mewn ysgol feddygol.
 
Ysbyty Maelor Wrecsam
 
Ar gyfer lleoliadau meddygol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, rhowch gais trwy diwtor gyrfaoedd yr ysgol.
 

Mae'r daflen Mwy o wybodaeth am y ddogfen ganlynol  Trefnu Profiad Gwaith Yn Y Sector Iechyd Yng Nghymru (GIG Cymru) yn rhoi gwybodaeth defnyddiol iawn ar brofiad gwaith mewn lleoliad iechyd.
 
Am wybodaeth a chyngor gyrfaoedd am ddim i bobl ifanc, oedolion, rhieni, cyflowyr a phobl broffesiynol yng Nghymru, ewch i wefan Gyrfa Cymru.
 

Pob Maes Arall

 
Nid ydym yn gallu derbyn unrhyw geisiadau ar hyn o bryd. Pan fydd hyn yn newid, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon. Cofion cynnes

Diolch i chi am eich diddordeb yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 20 Mai 2013