
|
| Ysbyty Penrhos Stanley Prif Nurse: Ffôn: +44 (0) 1407 766000 |
Mewn car: Gadewch yr A55 ar gyffordd 3. Ar y cylchfan, cymerwch y 4ydd allanfa am yr A5. Mae'r ysbyty ar yr A5, y tu allan i ganol tref Caergybi. Mae digon o leoedd parcio am ddim yn yr ysbyty ac mae lleoedd parcio i bobl anabl yn agos at y fynedfa.
Ar drên: Mae'r ysbyty lai na 1 milltir o Orsaf Caergybi. Am wybodaeth ar deithio ar y rheilffordd, ewch i: www.traveline-cymru.info
Ar fws: Mae gwasanaethau rheolaidd bob dydd. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.traveline-cymru.info
Bob dydd
1.30 pm - 2.30 pm
6.30 pm - 7.30 pm
- Dim mwy na dau ymwelydd wrth ochr gwely'r claf ar unrhyw adeg
- Dylai plant gael eu goruchwylio'n ofalus - gofynnwch i'r Brif Nyrs cyn mynd â phlant ar y ward
- Rydym yn pwyso ar ymwelwyr i beidio dod â babanod bach i'r ysbyty
- Ni chaniateir ymweld yn ystod amseroedd bwyd oni bai eich bod yn helpu'r claf i fwyta. Mae Polisi Amseroedd Bwyd wedi'u Neilltuo yn cael ei weithredu. Gweler posteri ar y ward am fanylion.
Amseroedd Bwyd wedi'u Neilltuo
Rydym yn cyflwyno Amseroedd Bwyd wedi'u Neilltuo sy'n gyfnodau dros amser cinio ac amser swper pan fydd gweithgaredd ar y ward yn stopio a'r nyrsys ar gael i helpu gweini bwyd a rhoi cymorth i gleifion sydd angen help.
Os ydych yn ymweld â ward sy'n arddangos Poster Amseroedd Bwyd wedi'u Neilltuo, cofiwch barchu hyn. Ond os ydych wedi arfer ymweld yn ystod prydau bwyd er mwyn helpu eich pethynas / cyfaill i fwyta, rydym yn fodlon i chi ddal i wneud hyn.
- Gall perthnasau a ffrindiau holi am y claf drwy ffonio'r ysbyty
- Er mwyn cyfyngu ar nifer y galwadau, rydym yn awgrynu fod un aelod o'r teulu'n cysylltu â'r ysbyty ac yn dweud wrth y gweddill
- Fe fyddwn yn dweud wrth ffrindiau agos a pherthnasau am gynnydd cyffredinol y claf oni bai ei fod yn dweud yn benodol nad yw'n dymuno i'r wybodaeth yma gael ei rhannu
Mae gel alcohol ar gael i'w ddefnyddio i lanhau a diheintio dwylo. Mae ar gael wrth fynedfa pob ward a chaiff ymwelwyr eu hannog i'w ddefnyddio cyn ar ar ôl ymweld.
Er mwyn helpu'r ysbyty i leihau heintiau:
- Dylai ymwelwyr ddefnyddio'r gel alcohol wrth fynedfa pob ward bob amser cyn ac ar ôl ymweld
- Dylai ymwelwyr ddefnyddio cadeiriau bob amser a pheidio ag eistedd ar welyâu
- Golchwch eich dwylo bob amser ar ôl defnyddio'r toiled
Mae'r Uned Mân Anafiadau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae'r arbenigeddau i gleifion mewnol yn cynnwys Gofal yr Henoed a Cleifion Meddygol Meddygon Teulu. Mae'r adran adsefydlu yn darparu Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Therapi Iaith a Lleferydd, a Chiropodi i gleifion allanol a mewnol.
Cynhelir clinigau cleifion allanol gan Ymgynghorwyr a chlinigau cymuned a darperir gwasanaethau deintyddol a phelydr-X. Mae gan yr Uned Mân Anafiadau ystafelloedd ar wahân gyda dwy ystafell driniaeth.
Mae'r Tîm Datblygiad Plant yn defnyddio ystafelloedd sy'n edrych dros y môr ac mae digon o le i gadw offer, cymhorthion ac i ddarparu lle aml-synhwyraidd gyda golau opteg ffeibrau.
Yn Chwefror 1996 dechreuodd ysbyty cymuned newydd Caergybi weithredu, yn lle Ysbyty Fali a hen Ysbyty Morwyr Stanley. Ar gost o £7.3 miliwn, mae gan yr ysbyty nifer o nodweddion sy'n darparu pob agwedd therapiwtig mewn awyrgylch cyfeillgar.
Cymerwyd y fantais fwyaf posib o'r safle, sydd â'r rhan fwyaf o'r lleoedd i gleifion yn wynebu'r môr. Mae gweddill y lle'n edrych allan dros sawl cowt mewnol, sy'n cael eu defnyddio ar gyfer ymlacio a therapi. Rhoddwyd pwyslais drwy gydol yr amser ar lefel uchel o breifatrwydd ac ar greu lle heb straen.
