Dyma’r saith dosbarth cyffredinol o gategorïau gwybodaeth a gyhoeddir gennym fel arfer.
Dosbarth Un: Pwy ydyn ni a beth ydyn ni'n ei wneud
Yma bydd manylion ein Bwrdd Iechyd, ein hatebolrwydd, strwythur y sefydliad a 'Pwy yw Pwy' yn y sefydliad (gweler Dosbarth 7 hefyd).
Dosbarth Dau: Faint a wariwn a sut y byddwn yn ei wario
Dylech weld fod yr amrywiol gategorïau’n hunan esboniadol. Maent yn cynnwys manylion am faterion ariannol y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys cyfrifon, adroddiadau archwilio, costau uwch bersonél a'r prosesau tendro.
Dosbarth Tri: Beth yw ein blaenoriaethau a sut ydyn ni’n gwneud
Yn yr adran hon, gellir dod o hyd i strategaethau a chynlluniau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer darparu gofal iechyd safonol, ynghyd ag archwiliadau, adroddiadau ac adolygiadau perthnasol a gwblhawyd gan sefydliadau allanol.
Dosbarth Pedwar: Sut y gwnawn benderfyniadau
Mae’n bwysig i ni eich bod yn gwybod sut y gwnawn benderfyniadau. Felly, byddwch yn dod o hyd i ddogfennau yn yr adran hon sy'n ymwneud â'r penderfyniadau mwy diweddar a wnaed yn cynnwys ystod eang o destunau.
Dosbarth Pump: Ein polisïau a gweithdrefnau
Ffurfiwyd y Bwrdd Iechyd ar 1 Hydref 2009. Am y rheswm hwn, mae angen adolygu a/neu gyfuno nifer fawr o bolisïau dros y misoedd nesaf. Byddwn yn cyhoeddi polisïau newydd yn yr adran hon fel y byddant ar gael, yn ogystal â’r polisïau presennol y teimlwn sydd â pherthnasedd penodol i’r cyhoedd. Gallwch barhau i ofyn am unrhyw bolisi y mae’r Bwrdd Iechyd yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd, fel y disgrifir yn 'Gwybodaeth Bellach' isod.
Dosbarth Chwech: Rhestrau a chofrestrau
Nid yw’r Bwrdd Iechyd yn paratoi llawer o restrau ond bydd dogfennau pwysig (megis Cofrestrau Diddordeb) ar gael yma.
Dosbarth Saith: Y gwasanaethau a gynigir gennym
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth sy’n ychwanegiad at Ddosbarth 1.
Gwybodaeth Bellach
Mae ymrwymiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi gwybodaeth yn eithrio unrhyw wybodaeth y gellir ei atal yn gyfreithiol o dan yr eithriadau a osodwyd yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Cod Ymarfer ar Onestrwydd yn y GIG ac eithriadau sy'n cael eu hatal o dan y Ddeddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Ble mae Dosbarthiadau unigol yn amodol i eithriadau, mae'r prif resymau'n ymwneud â diogelu diddordebau masnachol a gwybodaeth bersonol o dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998. Mae hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o Ddosbarthiadau o fewn y Cynllun Cyhoeddi.
Mae’r Cynllun Cyhoeddi yn nodi pa mor aml y gellir cael yr wybodaeth a amlinellir o fewn pob un o'r saith Dosbarth cyffredinol a pha un a oes cyfieithiad Cymraeg ar gael. Mae’r Cynllun Cyhoeddi ar gael drwy ein Gwefan, mae Fersiwn Argraffadwy ar gael a mae copi caled ar gael ar gais. Bydd yr wybodaeth am ddim fel arfer oni bai y dangosir yn wahanol. Os bydd arnoch angen gwybodaeth mewn ffurf arall, er enghraifft; print bras, Braille neu ar CD, Cysylltwch â Ni os gwelwch yn dda.
Sut i gael Mynediad i Wybodaeth nad yw wedi’i gynnwys o fewn y Cynllun Cyhoeddi
Mae ein cyfleuster chwiliad yn eich galluogi i edrych am wybodaeth ychwanegol ar ein Gwefan nad ydynt efallai wedi’u cysylltu drwy’r Cynllun Cyhoeddi. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd y geiriau rydych yn chwilio amdanynt yn union yr un fath â'r rhai a ddefnyddir gan y Bwrdd Iechyd, felly efallai na fydd eich chwiliad yn datgelu unrhyw wybodaeth bellach.
Os na fedrwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych ei hangen yn y Cynllun Cyhoeddi hwn neu ar ein Gwefan, Cysylltwch â Ni os gwelwch yn dda. Os yw’r wybodaeth gennym, byddwn yn ei ddarparu i chi cyn gynted â phosibl. Fel arall, os dymunwch gael mynediad i’ch cofnodion meddygol neu unrhyw wybodaeth bersonol arall, gallwch wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth.
Gwybodaeth bellach
Sylwer os gwelwch yn dda: ffurfiwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 1 Hydref 2009 drwy uno Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru gynt), Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a chwe Bwrdd Iechyd Lleol Gogledd Cymru (gweler y cysylltiadau isod).
Gan hynny, mae’n bosibl na fydd rhywfaint o wybodaeth “lefel uchel” ynglŷn â’r Bwrdd Iechyd newydd (er enghraifft, Strwythurau Adrannol, Dogfennau Strategaeth a Chynlluniau Pum Mlynedd) ar gael yn syth drwy'r Cynllun Cyhoeddi. Am ragor o wybodaeth, Cysylltwch â Ni.