Ein Cynllun Cyhoeddi

Cyflwyniad

Yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, (y Ddeddf), mae’n ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadau a chynnal Cynllun Cyhoeddi.  Mae’r Ddeddf yn mynnu y bydd holl awdurdodau cyhoeddus yn broactif wrth ryddhau gwybodaeth i'r cyhoedd ac mae'n cydnabod bod gan y cyhoedd yr hawl i wybod sut y rheolir gwasanaethau, gan gynnwys eu cost ac mae'n mynnu fod holl awdurdodau cyhoeddus yn broactif i sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn rhwydd.
 
Mae ein Cynllun Cyhoeddi yn Canllaw i’r Wybodaeth cyflawn i'r wybodaeth a gyhoeddir fel arfer gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd), mae'n manylu sut y cyhoeddir yr wybodaeth ac os oes unrhyw Gostau yn daladwy am fynediad i'r wybodaeth honno.  Mae’n egluro’r math o wybodaeth a lunnir gan y Bwrdd Iechyd a’r prosesau gwneud penderfyniadau cysylltiedig sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae'r Canllaw i’r Wybodaethyn dilyn ffurf y saith dosbarth gwybodaeth cyffredinol a gyfeirir atynt yn y Cynllun Cyhoeddi Model a'r Ddogfen Diffinio ar gyfer Cyrff Iechyd yng Nghymru.  O fewn y dosbarthiadau hyn, mae’r categorïau gwybodaeth sy’n ffurfio ein cynllun cyhoeddi yn cael eu diffinio.  
 
Mae'n bwysig i'r Bwrdd Iechyd bod ein Cynllun Cyhoeddi yn diwallu anghenion y cyhoedd ac felly fe'i dyluniwyd i fod yn drywydd i alluogi unigolion i ddarganfod gwybodaeth yn hawdd am y Bwrdd Iechyd.  Mae Fersiwn Argraffadwy o’r Cynllun Cyhoeddi ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  Mae copi caled ar gael ar gais trwy Gysylltu â Ni.
 
Os na fedrwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych ei hangen yn y Cynllun Cyhoeddi hwn neu ar ein Gwefan, Cysylltwch â Ni os gwelwch yn dda.  Os yw’r wybodaeth gennym, byddwn yn ei ddarparu i chi gynted â phosibl.
 
Bydd ein Cynllun Cyhoeddi’n cael ei adolygu’n rheolaidd a bydd ei weithrediad yn cael ei fonitro.
 

Hawliau Mynediad i Wybodaeth

Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau fod mwy o wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus ar gael i'r cyhoedd. Pwrpas y Ddeddf yw sicrhau fod holl feysydd cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn agored a chlir.
 
Gall y cyhoedd gael mynediad i wybodaeth a gofnodwyd drwy ddwy brif ffynhonnell; Cynllun Cyhoeddi’r Bwrdd Iechyd a drwy hawliau mynediad cyffredinol.  Mae’r hawl i wneud cais a chael mynediad i'r wybodaeth hon yn amodol ar rai eithriadau y mae angen i'r Bwrdd Iechyd eu hystyried cyn penderfynu pa wybodaeth y gellir ei ryddhau.

Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi hawl i unigolion gael mynediad i Wybodaeth Amgylcheddol sydd yng ngafael awdurdodau cyhoeddus.  Gall y cyhoedd gael mynediad i wybodaeth a gofnodwyd drwy Gynllun Cyhoeddi’r Bwrdd Iechyd a drwy hawliau mynediad cyffredinol.  Gall y cyhoedd gael mynediad i holl Wybodaeth Amgylcheddol oni bai bod y Bwrdd Iechyd yn ystyried bod eithriad yn berthnasol i'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Cod Ymarfer ar Onestrwydd

Yn ogystal â gallu cael mynediad i'r wybodaeth a ddynodwyd yn y Cynllun Cyhoeddi, mae gan y cyhoedd hawl i wneud cais am wybodaeth am y Bwrdd Iechyd hefyd o dan y Cod Ymarfer ar Onestrwydd yn y GIG.  

Deddf Amddiffyn Data

Nid yw’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn newid hawl unigolyn i ddisgwyl i’w gwybodaeth bersonol gael ei gadw’n gyfrinachol yn unol ag Erthygl 8 o’r Ddeddf Hawliau Dynol 1998, y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a chyfraith gwlad. 
 
O dan y Ddeddf Amddiffyn Data, mae gan unigolion yr hawl i gael mynediad i bob math o wybodaeth bersonol sydd yng ngafael Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys cofnodion ar gyfrifiadur a phapur, systemau delweddu gan gynnwys cofnodion clywedol a gweledol, ffotograffau, CCTV ac unrhyw gyfrwng arall sy’n cofnodi gwybodaeth olrheiniadwy i unigolyn.
 
Mae cynnal yr hawl i gyfrinachedd claf yn parhau i fod yn ymrwymiad pwysig ar ran y Bwrdd Iechyd.  Er mwyn cynorthwyo â hyn, mae'r Bwrdd Iechyd wedi penodi Ceidwad Caldicott; Mr Mark Scriven - Cyfarwyddwr Meddygol a Gwasanaethau Clinigol Gweithredol sydd â’r cyfrifoldeb i sicrhau diogelwch cyfrinachedd cleifion ar draws y sefydliad, yn unol â hawliau cleifion.
 
I wneud cais am fynediad i’ch cofnodion meddygol neu wybodaeth bersonol arall sydd efallai yng ngofal y Bwrdd Iechyd, gallwch wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth.

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymrwymo i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws holl fusnes y sefydliad. hyw gymorth.

Rheolaeth Gwybodaeth

Bydd gwybodaeth sy’n disgyn i’r saith Dosbarth yn cael eu cadw’n unol â pholisi Rheoli Cofnodion Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn amlinellu amserlenni cadw a gwaredu'r sefydliad, sy'n cydymffurfio â Chylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 'WHC (2000) 71 – For the Record' a yr Adran Iechyd 'Records Management - NHS Code of Practice’.

Hawlfraint

Mae’r deunydd sydd ar gael drwy’r Cynllun Cyhoeddi hwn yn amodol i hawlfraint Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr oni bai y nodir yn wahanol.  Oni bai y nodir yn ffurfiol i’r gwrthwyneb, gellir ei ailgynhyrchu am ddim mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng, cyn belled â’i hailgynhyrchir yn gywir ac ni chaiff ei ddefnyddio mewn modd camarweiniol. 
 
Ble bydd unrhyw eitemau hawlfraint yn y Cynllun Cyhoeddi yn cael eu hail-gyhoeddi neu gopïo i eraill, dylech ddynodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.  Nid yw caniatâd i ailgynhyrchu deunydd yn ymestyn i unrhyw ddeunydd a gafwyd drwy’r Cynllun Cyhoeddi sy’n hawlfraint trydydd parti.  Dylid cael awdurdod i ailgynhyrchu deunydd o’r fath gan y deilwyr hawlfraint dan sylw.  Mae gan 'Office of Public Sector Information' (OPSI) ganllawiau ar ystod o faterion hawlfraint ar eu gwefan. 

Adborth

Os hoffech wneud sylw am unrhyw ran o'r Cynllun Cyhoeddi, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion am y Cynllun, Cysylltwch â Ni os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth bellach

 
Os na fedrwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych ei hangen yn y Cynllun Cyhoeddi hwn neu ar ein Gwefan, Cysylltwch â Ni os gwelwch yn dda.  Os yw’r wybodaeth gennym, byddwn yn ei ddarparu i chi cyn gynted â phosibl.
 
  
Sylwer os gwelwch yn dda: Ffurfiwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 1 Hydref 2009 drwy uno Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru gynt), Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a chwe Bwrdd Iechyd Lleol Gogledd Cymru.
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 18 Hydref 2012