Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, (y Rheoliadau) yn rhoi hawl i unigolion ofyn am wybodaeth amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus ynglŷn â'r elfennau a'r ffactorau sy'n effeithio ar sut mae pobl yn byw ac yn gweithio, er enghraifft, gwybodaeth am aer, dŵr, pridd a'r ffactorau a all effeithio’r rhain megis ynni, sŵn neu wastraff.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi mynediad i'r camau a gymerwyd gan awdurdod cyhoeddus, megis polisïau, deddfwriaeth neu gytundebau amgylcheddol.  
 

Diffiniad o Wybodaeth Amgylcheddol

Unrhyw wybodaeth mewn ffurf ysgrifenedig, weledol, clywedol, electroneg neu unrhyw ddeunydd arall ar;
 

(a)   Gyflwr elfennau’r amgylchedd, megis aer a’r atmosffer, dŵr, pridd, tir, tirlun a safleoedd naturiol gan gynnwys ardaloedd corstir, arfordirol a morol, amrywiaeth biolegol a'i elfennau, gan gynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, a'r rhyngweithiadau ymysg yr elfennau hyn;

 

 (b)   Ffactorau megis sylweddau, ynni, sŵn, pelydriad neu wastraff, gan gynnwys gwastraff ymbelydrol, lledaeniadau, arllwysiadau a gollyngiadau eraill i mewn i’r amgylchedd, gan effeithio neu’n debygol o effeithio elfennau'r amgylchedd a gyfeiriwyd atynt uchod;

 

 (c)   Camau (gan gynnwys camau gweinyddu), megis polisïau, deddfwriaeth, cynlluniau, rhaglenni, cytundebau amgylcheddol, a Gweithgareddau sy’n effeithio neu’n debygol o effeithio'r elfennau a’r ffactorau a gyfeiriwyd atynt yn (a) a (b) yn ogystal â chamau neu weithgareddau a ddyluniwyd i ddiogelu’r elfennau hynny;
 
(d)   Adroddiadau am weithredu’r ddeddfwriaeth amgylcheddol;
 
(e)   Cost-elw a dadansoddiad a rhagdybiaethau economaidd eraill a ddefnyddir o fewn fframwaith y camau a'r gweithgareddau a gyfeiriwyd atynt yn (c); a
 
(f)    Chyflwr iechyd a diogelwch pobl, gan gynnwys heintio’r gadwyn fwyd, ble’n berthnasol, amodau bywyd pobl, safleoedd diwylliannol ac adeiladau yn yr ystyr eu bod neu gallant gael eu heffeithio gan gyflwr elfennau'r amgylchedd a gyfeiriwyd atynt yn (a) neu, drwy’r elfennau hynny, gan unrhyw un o’r materion a gyfeiriwyd atynt yn (b) ac (c).
 
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y canllawiau a baratowyd gan DEFRA.
 

Cynllun Cyhoeddi

I gynorthwyo’r cyhoedd i gael mynediad i wybodaeth o’r fath ac i gydymffurfio â’r Rheoliadau a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’r Bwrdd Iechyd wedi llunio Cynllun Cyhoeddi. Mae hwn yn ganllaw cyflawn i’r wybodaeth; gan gynnwys gwybodaeth amgylcheddol y mae’r Bwrdd Iechyd yn ei gyhoeddi’n arferol, i gydymffurfio â'r Cynllun Cyhoeddi Model a baratowyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth.  Mae'r Canllaw i’r wybodaeth sydd gennym yn dilyn ffurf y saith dosbarth gwybodaeth cyffredinol a gyfeirir atynt yn y Cynllun Cyhoeddi Model a'r Ddogfen Diffinio ar gyfer Cyrff Iechyd yng Nghymru. 
 

Hawl Mynediad Cyffredinol

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn rhoi hawl i’r cyhoedd gael mynediad i wybodaeth amgylcheddol nad yw wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi.  Amlinellir yn gryno isod manylion am sut y gall aelodau'r cyhoedd wneud ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol i’r Bwrdd Iechyd a'r math o wybodaeth sydd ar gael iddynt.
 
Yn gyffredinol, bydd y Bwrdd Iechyd yn darparu’r holl Wybodaeth Amgylcheddol i’r person a wnaeth y cais, er bod rhai cyfyngiadau arbennig ynglŷn â hawl mynediad i gategorïau gwybodaeth penodol.  Nid yw’’r Bwrdd Iechyd yn cymryd i ystyriaeth pwy sy’n gofyn amdano na pham maent ei eisiau. 
 
Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar.  Mae ein tudalen Cysylltwch â Ni yn darparu manylion ar gyfer gohebu a'r gwasanaeth ceisiadau ar-lein. 
 
Wrth wneud cais am wybodaeth, byddwch mor glir â phosibl gan roi manyliom am y wybodaeth benodol sydd ei angen i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ymateb i’r cais.  Cadarnhewch ym mha ffurf fyddai’n well gennych dderbyn yr wybodaeth, er enghraifft, ar lafar, yn electroneg neu fel copi caled.
 
Bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i geisiadau cyn gynted â phosibl, o fewn 20 diwrnod gwaith.  Gall:
  • ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani;
  • hysbysu’r person a wnaeth y cais os nad yw’r wybodaeth yng ngofal y Bwrdd Iechyd;
  • hysbysu’r person a wnaeth y cais os yw corff cyhoeddus arall yn gofalu am yr wybodaeth;
  • cyflwyno ‘Rhybudd Costau’ yn hysbysu’r person a wnaeth y cais bod Costau yn berthnasol i'r cais gwybodaeth arbennig hwnnw;
  • gwrthod darparu’r wybodaeth, ac egluro’r rhesymau pam;
  • hysbysu'r person a wnaeth y cais bod y Bwrdd Iechyd angen rhagor o amser a chadarnhau pryd y dylid disgwyl ymateb.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi Siarter Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth Cyfrifol. Gall y siarter hwn eich helpu wrth wneud ceisiadau am wybodaeth gan y Bwrdd Iechyd; mae hefyd yn cynnwys ceisiadau a wneir dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Cwynion

Os nad ydych chi’n hapus â’r modd y trafodwyd eich cais gan y Bwrdd Iechyd, mae gennych hawl i gwyno trwy Gysylltu â Ni.
 
Bydd pob cwyn yn cael ei drafod yn unol â ‘Pholisi Cwynion Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol' y Bwrdd Iechyd.  Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i'ch cwyn, mae gennych yr hawl wedyn i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
 

Cofrestr Datgeliadau

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi paratoi Cofrestr Datgeliadau i gynorthwyo'r cyhoedd, sy'n amlinellu'n gryno'r ceisiadau blaenorol a dderbyniwyd gan y sefydliad, ynghyd â'r ymatebion perthnasol a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. 
 
 

Gwybodaeth bellach

 
 
 
Sylwer os gwelwch yn dda: ffurfiwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 1 Hydref 2009 drwy uno Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru gynt), Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a chwe Bwrdd Iechyd Lleol Gogledd Cymru.

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 18 Hydref 2012