Diben
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r holl wybodaeth a gesglir neu a gyflwynir ar y wefan Iechyd yng Nghymru. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiad, cyflwynwch eich cais trwy'r Ffurflen Adborth gan ddyfynnu 'datganiad preifatrwydd'.
Fel y disgrifir yn narpariaethau Deddf Diogelu Data'r DU 1998, rydym yn cymryd camau priodol i gynnal diogelwch eich data ar ein gwefan. Caiff yr wybodaeth a gesglir ei llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn ac mae defnyddio’r wefan hon yn arwydd o’ch caniatâd.
Gwybodaeth Bersonol
Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y safle. Pan fyddwch yn cyflwyno data y gellir ei adnabod o’ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), caiff yr wybodaeth a gyflwynir ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben y’i bwriadwyd yn unig. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr gwe gyda thrydydd partïon.
Gwefannau Allanol
Nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i gysylltiadau allanol; mae casglu gwybodaeth gan safleoedd o’r fath yn amodol ar bolisïau preifatrwydd perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol ac mae defnyddio gwefannau o’r fath yn ôl eich disgresiwn chi.