Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon, a gallai fod rhai wedi cael eu gosod eisoes.
Os fyddwch yn parhau i ddefnyddio’r safle heb newid eich gosodiadau, byddwn yn tybio eich bod yn cytuno â hyn.
Darganfyddwch fwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio a pham

Cuddio'r neges hon

Newyddion Lleol

  • Sefydlu Grŵp Cefnogi Canser yr Ysgyfaint ar gyfer Ynys Môn/Gwynedd

    Dydd Iau, 19 Gorffennaf 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Ar 24 Gorffennaf bydd grŵp cefnogi newydd ar gyfer cleifion a gofalwyr agos cleifion canser yr ysgyfaint yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn dechrau cyfarfod.  
     

  • Cydweithio am Well Dyfodol

    Dydd Gwener, 29 Mehefin 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae’n bleser gan Fwrdd Gwasanaeth Lleol Conwy gyhoeddi fod ei Gynllun Integredig newydd ‘Un Conwy’ wedi’i gwblhau.

  • Hanfodion Gofal – Sut mae pethau’n dod yn eu blaen

    Dydd Iau, 28 Mehefin 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    O ran darparu gofal i gleifion, mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i wneud cynnydd o dan y 12 agwedd ar ofal y mae cleifion a gofalwyr wedi ei ddweud sydd bwysicaf iddyn nhw.

  • Ymgyrch newydd i Leihau Heintiau drwy wneud deunydd gwell o gathetrau wrinol a chanwlâu

    Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cefnogi ymgyrch newydd i wella diogelwch cleifion drwy ddeunydd priodol o gathetrau i gasglu wrin o’r bledren a nodwyddau canwla a osodir mewn gwythiennau i roi cyffuriau a dripiau.   

  • Wythnos Genedlaethol Bwydo ar y Fron Mehefin 25 – 30, 2012

    Dydd Llun, 25 Mehefin 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Gall bwydo ar y fron fod yn her weithiau, yn arbennig i famau newydd, gyda rhai’n ei chael hi’n anodd cael eu baban i fwydo’n iawn, ac yn pryderu a yw’n cael digon o laeth a bod eu bronnau’n boenus.

  • Diwrnod Gweithredu Diwydiannol y BMA - Mehefin 21

    Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio’n agos gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Feddygol Prydain  (BMA) ar gynlluniau cadarn i sicrhau gofal a diogelwch parhaol ein cleifion yn ystod y cyfnod 24 awr o weithredu diwydiannol gan ddoctoriaid.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau

    Dydd Gwener, 15 Mehefin 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Yr wythnos nesaf, mae staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau 2012 Age UK gydag arddangosfa fydd yn teithio o amgylch y pedwar ysbyty mwyaf yng Ngogledd Cymru.

  • Hawliau newydd i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru

    Dydd Llun, 11 Mehefin 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi cael hawliau newydd a fydd yn gwneud pethau’n rhwyddach iddynt dderbyn gofal os byddant yn teimlo fod eu cyflwr yn gwaethygu.

  • Meddyg Penodol ar gyfer Diogelu

    Dydd Llun, 11 Mehefin 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae’r Bwrdd Iechyd yn falch o gael cyhoeddi fod Dr Lindsay Groves wedi cael ei phenodi fel Meddyg Penodol ar gyfer Diogelu Plant i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
     

  • Tynnu’r Llen ar Theatrau newydd Ysbyty Glan Clwyd

    Dydd Mawrth, 29 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae llawfeddygon yn awr wedi dechrau cynnal llawdriniaethau yn y theatrau yn Ysbyty Glan Clwyd ar eu newydd wedd.  Y cyntaf i fanteisio ar y theatrau newydd modern oedd Ceri Jones o’r Rhyl.
     

  • Ein Harwr Iechyd Arbennig Ni

    Dydd Mawrth, 15 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Cafodd Bydwraig Cymuned sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr syrpreis ei bywyd yr wythnos ddiwethaf pan gyflwynodd  Dr Hilary Jones o’r rhaglen ITV ‘Daybreak’ ‘Dr Hilary’s Health Heroes Award’ iddi.

  • Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys – 12 Mai 2012

    Dydd Gwener, 4 Mai 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys eleni, cynhelir gwasanaeth i ddathlu gwaith caled ac ymrwymiad holl staff nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Eglwys Farmor Bodelwyddan ar 8 Mai. Mae'n cael ei drefnu gan y Parchedig Kathy Collins a Thîm Caplaniaeth Gofal Bugeiliol y Bwrdd Iechyd.

  • Addo gwneud urddas a pharch yn flaenoriaeth

    Dydd Llun, 30 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae pawb yn haeddu urddas a pharch, ac mae rhoi hyn ar flaen ein gofal i gleifion yn un o flaenoriaethau’r Bwrdd Iechyd.  I atgyfnerthu hyn, mae’r Bwrdd Iechyd wedi addo gwneud yn siŵr fod cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch bob amser.
     

  • Gwasanaethau Llawfeddygol - Mae eich safbwynt yn bwysig

    Dydd Iau, 26 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Rydym yn dymuno gwahodd defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a’r gymuned leol i ddigwyddiad lle gallwn glywed eich barn ar wasanaethau posibl yn y dyfodol.
     

  • Dathlu Gwelliannau ar Wardiau

    Dydd Llun, 23 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Yn ddiweddar mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dathlu gwelliannau ar wardiau fel rhan o'r prosiect ‘Trawsnewid Gofal’, lle roedd cydnabyddiaeth yn cael ei roi i wardiau sydd wedi gwneud gwahaniaeth i ofal cleifion ac amgylchedd yr ysbyty.
     

  • Parc Caia ‘Anelu Am Aur’

    Dydd Iau, 12 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Dyfarnwyd y marc Ysbrydoli i Dîm Iechyd Parc Caia (rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) mewn partneriaeth ag adran Datblygu Chwaraeon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway, gan raglen Ysbrydoli Llundain 2012.

  • Llawlyfrau Cyfathrebu Ysbyty yn cyrraedd y wardiau yn Ysbyty Gwynedd

    Dydd Mercher, 11 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae llawlyfrau i wella cyfathrebu rhwng staff ysbyty â phobl ag anableddau dysgu bellach ar gael ar wardiau ac adrannau yn Ysbyty Gwynedd, diolch i help gan ddau ddefnyddiwr gwasanaethau.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymuno â Gwasanaeth Lladmeru a Chyfieithu Cymru

    Dydd Iau, 5 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn ymuno â phartneriaeth Gwasanaeth Lladmeru a Chyfieithu Cymru yn Ebrill 2012.

  • Gwasanaeth arferol yn ailddechrau yn Ysbyty Bryn Beryl

    Dydd Mawrth, 3 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn falch o gadarnhau fod gwasanaethau cleifion yn Ysbyty Bryn Beryl ym Mhwllheli yn ôl i’r drefn arferol, yn dilyn newidiadau dros dro a gyflwynwyd i gefnogi gwasanaethau brys ar draws Gogledd Cymru dros gyfnod y gaeaf.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y Rhestr Fer yng Ngwobrau GIG Cymru 2012

    Dydd Llun, 2 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dathlu heddiw (Ebrill 2, 2012) ar ôl cyrraedd rhestr fer Gwobrau GIG Cymru 2012.

  • Gwasanaethau Llygad H.M. Stanley yn symud i Ysbyty Abergele

    Dydd Llun, 2 Ebrill 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Ddydd Llun, 16eg Ebrill 2012, bydd y gwasanaethau Llygad a ddarparwyd yn Ysbyty H.M. Stanley yn Llanelwy yn y gorffennol yn cael eu darparu o'u cartref newydd yn Ysbyty Abergele

  • Statws Nyrs y Frenhines i ddwy nyrs iechyd meddwl

    Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae dwy nyrs iechyd meddwl o Ogledd Cymru wedi ennill teitl Nyrs y Frenhines. Mae Kerry Macdonald a Michelle Ford yn ddwy o’r naw nyrs yng Nghymru i gael y teitl anrhydeddus hwn. 

  • Theatrau Newydd ar agor yn Ysbyty Abergele

    Dydd Mawrth, 20 Mawrth 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Mae llawdriniaethau orthopedig mewn theatrau  newydd modern wedi dechrau yn Ysbyty Abergele.  Y claf cyntaf i gael budd ohonynt oedd Mrs Maureen Wragg, Tan Lan, Treffynnon, a dderbyniodd lawdriniaeth i amnewid clun.    

  • Seiciatrydd o Ogledd Cymru yn datblygu gwybodaeth gynorthwyol ar gyfer pobl sy’n teimlo eu bod “ar ymyl y dibyn”

    Dydd Iau, 15 Mawrth 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Seiciatrydd ymgynghorol sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw awdur taflen newydd sydd wedi ei chyhoeddi gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

  • Gwella profiad cleifion, diolch i Trawsnewid Gofal

    Dydd Mawrth, 6 Mawrth 2012, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    Nyrsys yn treulio mwy o amser wrth erchwyn y gwely, amgylcheddau gwell ar wardiau a lleihad sylweddol yn nifer y briwiau pwysedd yw rhai o'r buddiannau y mae cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi elwa arnynt, diolch i’r rhaglen Trawsnewid Gofal.