Dydd Mercher, 15 Awst 2012
Bydd ymgyrch newydd i annog staff y GIG o bob cwr o Gymru i fod yn iachach ac i annog eu cleifion a’r cyhoedd i wneud yr un fath yn cael ei lan
.jpg)
Efallai bod y Gemau Olympaidd wedi dod i ben, ond gofynnir i staff GIG Cymru godi’r baton ac ymuno â her chwe mis i wella eu hiechyd.
Nod yr ymgyrch Pencampwyr Iechyd yw recriwtio 1,000 o staff o bob cwr o Gymru i ddewis dau newid iach o ran eu ffordd o fyw ac ymrwymo i’w cyflawni a’u gwella.
Bydd unigolion yn gallu monitro eu cynnydd eu hunain drwy gydol yr ymgyrch a gobeithio ar ddiwedd y cyfnod chwe mis, dangos bod eu hiechyd wedi gwella.
Un o brif amcanion Pencampwyr Iechyd yw galluogi staff i ddod yn fodelau rôl ar gyfer iechyd da, a dyma un o’r rhesymau pam y mae Sarah Wynne-Jones, Pennaeth Iechyd Galwedigaethol a Lles ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi ymuno â’r ymgyrch.“Mae rhan o’r rheswm yn ymwneud â bod yn fodel rôl yn yr hirdymor,” eglura. “Dw i eisiau gallu siarad am yr hyn a fu’n llwyddiannus i mi.”
Un o’r meysydd y mae Sarah yn canolbwyntio arnynt yw yfed yn ddiogel. “Dw i ddim yn yfed rhyw lawer, ond pan fydda i’n gwneud hynny mae’n hawdd iawn yfed mwy o unedau o alcohol na’r lefel ddiogel ddyddiol,” eglura.
“Bydd llawer ohonom yn y GIG yn yfed yn gymdeithasol neu’n mynd adref ac yn yfed gwin ar ddiwedd wythnos brysur. Mae’n hawdd mynd i’r arfer o yfed mwy o unedau na’r nifer a argymhellir bob hyn a hyn, ond gwn y gall hynny fod yn niweidiol.”
Nodiadau i’r Golygydd
- Caiff yr ymgyrch ei harwain gan Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru a’i chefnogi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r rhaglen genedlaethol 1000 o Fywydau a Mwy.
- Bydd rhagor o fanylion ar gael ar www.championsforhealth.wales.nhs.uk o ddydd Mercher 15 Awst 2012 ymlaen.
- Bydd Pencampwyr Iechyd hefyd ar Twitter @C4H_Wales o ddydd Llun 13 Awst 2012 ymlaen.
Ffynhonnell:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr