Hyrwyddo cydraddoldeb hoyw i staff

Dydd Mercher, 8 Awst 2012
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymuno â rhaglen genedlaethol i hyrwyddo cydraddoldeb hoyw i staff
 
 
 
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r Bwrdd Iechyd diweddaraf i ymuno â rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall, sy’n hyrwyddo a datblygu arfer da i gyflogwyr. Mae’r rhaglen – sy’n cael ei rhedeg gan yr elusen cydraddoldeb hoyw – yn hyrwyddo amgylchedd gweithio da i’r holl weithwyr presennol a staff posibl ac mae’n ymrwymo aelodau i sicrhau triniaeth gyfartal i weithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
 
Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymuno â sefydliadau iechyd eraill megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru ar y rhaglen, sydd bellach yn cynnwys dros 600 o’r prif gyflogwyr, ac sy’n amrywio o Chwaraeon Cymru, Heddlu Gogledd Cymru i Lywodraeth Cymru.
  
‘Drwy gefnogi a datblygu ein staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol drwy’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth, rydym yn anfon neges gref at ein staff presennol a staff posibl yn ogystal â’r gymuned ehangach,’ dywed Martin Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. ‘Rydym yn falch o gael ymuno â’r rhaglen ac edrychwn ymlaen at gael datblygu ein gwaith ynghylch tueddfryd rhywiol.’
 
Dywed Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: ‘Drwy ymuno â’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydnabod fod pobl yn perfformio’n well pan fyddant yn gallu bod yn nhw eu hunain. Mae ein haelodau yn gyflogwyr o’r 21 ganrif, sy'n meddwl yn flaengar ac sydd eisiau cyflogi, cydnabod a chefnogi'r staff gorau un waeth beth fo'r cefndir. Rydym yn gobeithio y bydd y cyngor yn ysbrydoli awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i ddechrau mynd i’r afael â materion tueddfryd rhywiol yn y gweithle.