Cynhadledd ryngwladol yng Nghaerdydd i drafod yr her i ofal iechyd mewn cyfnod o gyni

Dydd Mawrth, 7 Awst 2012
Bydd Canolfan Ymchwil ac Arloesedd Seilwaith Iechyd a Gofal (HaCIRIC ) yn cynnal ei chynhadledd ryngwladol flynyddol ‘Trawsnewid Seilwaith a Gwasanaethau Gofal Iechyd mewn Oes o Gyni’ yng Nghaerdydd rhwng 20-21 Medi.
Mae HaCIRIC yn darparu gwaith ymchwil o safon fyd eang i gefnogi gofal iechyd drwy wella seilwaith. Bydd y gynhadledd ryngwladol yn cynnwys mwy na 25 o gyflwyniadau ymchwil newydd ynghyd â siaradwyr blaenllaw yn edrych ar bersbectif y DU, Ewrop a Chymru o sut y gall arloesedd mewn seilwaith a gwasanaethau arwain at ofal iechyd mwy costeffeithiol o safon uwch yn yr oes hon o gyni.
Agorir y gynhadledd gan Jan Williams OBE, a benodwyd yn ddiweddar fel cadeirydd Bwrdd Arferion Gorau ac Arloesedd Cymru mewn Iechyd a Lles. Bydd yn arwain tîm o arbenigwyr GIG Cymru mewn prynhawn arbennig o weithdai lle y byddant yn ymuno ag ymchwilwyr blaenllaw HaCIRIC i fynd i’r afael â’r prif heriau sy’n wynebu sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru.
Ymysg y prif siaradwyr bydd:
  • Yr Athro Terry Young, Cadeirydd Systemau Gofal Iechyd, Prifysgol Brunel, a sylfaenydd Menter Cumberland
  • Steve Wright, Cyfarwyddwr Gweithredol, Canolfan Asedau a Phensaerniaeth Iechyd Ewrop
  • Yr Athro James Barlow, Prif Ymchwilydd a Chyd-gyfarwyddwr, HaCIRIC
Cynhelir y gynhadledd yn St David’s Hotel and Spa ac mae’n argoeli i fod yn achlysur pwysig ar gyfer rhwydweithio a chyfnewid gwybodaeth yn ystod y cyfnod allweddol hwn yn y cylch polisi. Bydd yn cynnwys Cinio Gala nos Iau 20 Medi.
Ffynhonnell: 1000 o Fywydau a Mwy