Dydd Llun, 30 Gorffennaf 2012
Mae gofalwyr yn dod â chŵn i weld cleifion mewn canolfan ysbyty i’w helpu a’u cefnogi yn ystod eu triniaeth.
Mae PAT - Therapi drwy Anwesu Anifeiliaid yn ‘mynd â chŵn am dro’ o amgylch Canolfan Ganser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd i ddod â thipyn o gysur i gleifion yn y ganolfan.
Mae’r elusen genedlaethol yn darparu ymweliadau therapiwtig i ysbytai, hosbisau, cartrefi nyrsio a chartrefi gofal, ysgolion anghenion arbennig, a lleoliadau eraill, diolch i wirfoddolwyr sy’n dod gyda’u cŵn a’u cathod tawel eu natur ac wedi’u brechu, i ymweld â chleifion.
Yn aml iawn mae cleifion oddi cartref yn teimlo’n unig. Gall ci neu gath PAT eu helpu i ymlacio mwy drwy fwynhau cwmni anifail sydd efallai’n eu hatgoffa o’u cartref.
Gall y gwmnïaeth wneud claf yn fwy cyfforddus yn yr amgylchedd, a’i helpu i wella.
Yr wythnos hon galwodd Findlay, bleiddgi Gwyddelig, heibio’r ganolfan efo’i berchennog Elaine Mercer Jones a chydlynydd PAT, Ann Jones i gwrdd â chleifion a’r cyhoedd yn y ganolfan.
“Mae’n braf iawn ei gael o yma a gweld gwên ar wyneb cleifion. Gall cŵn PAT atgoffa claf o’i gartref cysurus, yn arbennig y rheiny sy’n gweld colli eu hanifeiliaid anwes yn ystod eu cyfnod yma” meddai Carmel Barnett Rheolwr Gwasanaethau Radiotherapi Dros Dro
“Roedd yn bleser gweld Findlay wrth ei waith heddiw ac rydym yn ddiolchgar iawn i PAT am eu cefnogaeth i’r cleifion yng Nghanolfan Ganser Gogledd Cymru”.

Ffynhonnell:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr