Lansio Cronfa Betsi Fund

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012
Ar ddiwedd mis Ionawr cafodd Cronfa Betsi Fund ei lansio mewn seremoni yng Nghanolfan Fusnes Conwy o flaen cynulleidfa o bobl bwysig lleol, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, aelodau'r gymuned busnes a gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr grwpiau cymunedol.
Cynhaliwyd y digwyddiad i gyhoeddi enw gweithredol newydd cangen elusennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Bydd y Gronfa yn cefnogi a chydlynu gweithgaredd codi arian mewn perthynas â'r Bwrdd Iechyd ar draws Gogledd Cymru, mewn perthynas â wardiau, adrannau ac ysbytai unigol sydd eisoes yn derbyn incwm  trwy godi arian a rhoddion ynghyd â phrosiectau penodol i wella'r ffordd mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn y rhanbarth.
 
Gwnaeth dau o noddwyr y Gronfa, y darlledwr Rhun ap Iorwerth a'r Athro Emeritws a Meddyg Ymgynghorol Bim Bhowmick OBE, siarad yn y digwyddiad lansio, ynghyd ag uwch staff o'r Bwrdd Iechyd.Noddwyr Rhun ap Iorwerth, Yr Athro Bim Bhowick, Prif Weithredwr Mary Burrows, Dr. Brendan Harrington, Cadeirydd Yr Athro Merfyn Jones
 
Cyhoeddodd y Paediatregydd Ymgynghorol Dr Brendan Harrington mai'r prosiect mawr cyntaf i Gronfa Betsi Fund fydd datblygu Canolfannau Plant ar draws Gogledd Cymru.  Esboniodd sut bydd y canolfannau sydd eisoes yn bodoli yn cael datblygu a'u huwchraddio i wella'r gwasanaethau maent yn eu darparu a bydd Canolfannau newydd yn cael eu creu i sicrhau bod plant ar draws y rhanbarth yn gallu cael budd o gael mynediad at y gwasanaethau hyn yn eu hardal.  
 
Meddai Dr. Harrington “Rwy'n falch i fod yn rhan o'r GIG yng Nghymru ac er mwyn datblygu rydym angen gwasanaeth iechyd sy'n gwneud mwy i stopio pobl rhag mynd yn sâl.   Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac eisiau gwell iechyd i'r boblogaeth, nid gwell triniaeth ar gyfer salwch yn unig.  Mae llawer o'r beichiau iechyd mwyaf (clefyd y galon, strôc, gordewdra, problemau iechyd meddwl) yn dechrau yn ystod plentyndod.  Os ydym eisiau atal ton anferth y problemau hyn rhag llethu'r gwasanaeth iechyd, ac osgoi'r niwed i les meddyliol a chorfforol unigolion a theuluoedd, mae'n rhaid i ni ddechrau â'n plant.  Maen nhw angen y dechreuad gorau posibl, i fynd i mewn i fywyd fel oedolyn ac, yn y pen draw, bod yn oedrannus yn yr iechyd gorau posibl.
 
“Rydym eisiau creu rhywle lle gall pob teulu gael help pan fyddan nhw ei angen.  Canolfan ar gyfer yr holl wasanaethau nad oes yn rhaid iddyn nhw fod mewn ysbyty.  Rhywle lle gall gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol ddod at ei gilydd i wasanaethau'r gymuned. 
 
“Y ffordd byddwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw yw gyda help pobl Gogledd Cymru, yn gweithio trwy Gronfa Betsi Fund.  Rydym eisiau i'n plant fod y gorau gallan nhw fod, wrth weithio gyda'n gilydd gallwn ni wneud hyn.”
 
Yn gyson â'r ffocws hwn ar blant a phobl ifanc, cafodd y gwesteion eu diddanu ar y noson gan gôr o Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.
 
                                                               Aelodau o Côr Ysgol Moelwyn