Newyddion Lleol

  • Lansio Cronfa Betsi Fund
    9 Chwefror 2012
    Ar ddiwedd mis Ionawr cafodd Cronfa Betsi Fund ei lansio mewn seremoni yng Nghanolfan Fusnes Conwy o flaen cynulleidfa o bobl bwysig lleol, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, aelodau'r gymuned busnes a gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr grwpiau cymunedol.
  • Y Metron yn ôl
    1 Chwefror 2012
    Mae’r metron yn dod yn ôl i wardiau pob ysbyty dosbarth a chymuned yng Ngogledd Cymru wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ailgyflwyno Metronau.
  • 2 Aelod Annibynnol Newydd i’r Bwrdd Iechyd
    27 Ionawr 2012
    Mae’r Cadeirydd wedi croesawu dwy Aelod Annibynnol newydd ar fwrdd Betsi Cadwaladr – y Cynghorydd Liz Roberts a Mrs Marian Wyn Jones.
  • mwy o newyddion lleol >
  •  

Newyddion o GIG Cymru

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru.  Mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau cychwynnol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbyty llym ar gyfer poblogaeth o oddeutu 676,000 o bobl sy’n byw yn chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Sir Gaer, a Sir Amwythig.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi oddeutu 18,000 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.1 biliwn.  Mae’n gyfrifol am weithredu tri ysbyty cyffredinol (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 o ysbytai llym a chymunedol eraill, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl.  Mae hefyd yn cydlynu gwaith 121 o Feddygfeydd a gwasanaethau GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru.

 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 06 Chwefror 2012

Dewis Doeth

Os ewch chi'n sâl neu os cewch anaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y gwasanaeth GIG cywir er mwyn ichi gael y driniaeth orau.

Gwasanaethau Iechyd Lleol

Ymgyrch 1000 o Fywydau

Mae 1000 o Fywydau + yn gweithio gyda sefydliadau iechyd Cymru i sicrhau gofal ddiogel a dibynadwy - ar gyfer pob claf, ym mhob man yng Nghymru.