e-Fwletin AGAAGI Gorffennaf 2012

Ar ran GIG Cymru, enillodd Rhaglen Systemau Gwybodaeth y Gweithlu (WfIS) Wobr Rhagoriaeth mewn Rheoli Adnoddau Dynol y Gymdeithas Rheoli Pobl mewn Gofal Iechyd (HPMA) yn y categori Arfer Gorau ac Arloesedd o ran y defnydd o’r Cofnod Staff Electronig (ESR) gyda’r prosiect “Un Weledigaeth, Un System, Un Genedl”.
 
Mae prosiect Hunanreoli am Oes (SM4L) Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint sy’n cael ei dreialu gan Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP) Cymru ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda yn gyfle i gymryd rhagor o gamau i wella hunanreolaeth o’r clefyd hwn.
 
Dim Prinder Heriau i Raddedigion y GIG
Cynlluniwyd y Rhaglen Ddatblygu Uwch i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, a chyflwyno darpar arweinwyr i’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i reoli staff ac adnoddau ariannol mewn gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y claf.
 
Mae AGAAGI wedi datblygu rhaglenni addysgol newydd sbon i nyrsys sy’n gweithio ym maes endosgopi a gaiff eu lansio ar 28ain Medi.
 
Mae helpu cleifion i wella’n gynt ar ôl llawdriniaeth, gwella gofal diwedd oes a datblygu rhaglen arbenigol i helpu pobl i golli pwysau ymysg y gwaith sydd wedi cael ei gydnabod yng ngwobrau GIG Cymru eleni.
 
Newyddion eraill:
Cydgyflwynodd Ian Govier bapur ymchwil ynghylch effeithiolrwydd rhaglenni e-Fentora AGAAGI gyda Dr Stephen Gibb (Prifysgol Strathclyde) yng Nghynhadledd Ymchwil Cyngor Mentora a Hyfforddi Ewrop (EMCC) 2-12 ym Mhrifysgol Sheffield Hallam ar 4ydd Gorffennaf.
 
 

 
 
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 26 Gorffennaf 2012