Mae Tîm y Llyfrgell yn elfen ganolog o ofal iechyd modern. Yn debyg i dimau eraill yn y GIG , mae’n cynnwys pobl ag amrywiaeth o gymwysterau sy’n gweithio ar wahanol lefelau. Mae aelodau’r tîm yn gweithio gyda chydweithwyr a chyda’i gilydd i ddarparu gwybodaeth a chyfarwyddyd ar gyfer y rhai sy’n chwilio am wybodaeth. Yn debyg i lyfrgelloedd eraill, darperir gwybodaeth yma trwy gyfrwng llyfrau, cyfnodolion, mewn fformatau electronig a thros y rhyngrwyd.
Mae Llyfrgellwyr yn Rheolwyr Gwybodaeth: pobl sy’n hwyluso mynediad i rychwant eang o wybodaeth gyhoeddedig. Mae llyfrgelloedd y GIG wedi’u lleoli mewn ysbytai a sefydliadau cenedlaethol. Mae Llyfrgellwyr a’u staff mewn ysbytai’n cefnogi clinigwyr trwy sicrhau bod gwybodaeth gyfeiriadol ar gael i’w cynorthwyo i wneud diagnosis a rhagnodi triniaeth.
Yn ogystal mae llyfrgelloedd yn cynorthwyo staff y GIG i ddatblygu eu gwybodaeth, boed trwy ei diweddaru neu drwy symud ymlaen at lefel newydd. Yn aml mae llyfrgelloedd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ond mae’r staff yn arfer gweithio oriau craidd, er enghraifft o 9 yb tan 5 yp.
Arweinir y tîm gan Reolwr Proffesiynol y Gwasanaethau Llyfrgell sy’n rheoli’r gwasanaeth ar draws y Bwrdd Iechyd /yr Ymddiriedolaeth. Mae gan sefydliadau cenedlaethol y GIG eu llyfrgelloedd hefyd. Nifer fach o bobl sy’n staffio’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd y GIG .
ADDYSG A HYFFORDDIANT
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cwrs gradd tair blynedd sy’n arwain at BSc Econ mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth.
Y GOFYNION ARISAF AR GYFER MYNEDIAD
Bras esiamplau a roddir yma – cysylltwch ag y sefydliad ei hun i ddysgu am y gofynion manwl ar gyfer mynediad.
| Lefel A Graddau CCC (240 o bwyntiau UCAS) | TGAU Gradd C yn y Saesneg neu’r Gymraeg |
Gellir ystyried cymwysterau cyfatebol. Gofynnwch i’r sefydliad ei hun am gymorth.
SUT I YMGEISIO
NID UCAS sy’n delio ag ymgeiswyr. Dylid cyflwyno ceisiadau’n uniongyrchol i’r sefydliad.
CYFLEOEDD GYRFA
Mae cyfleoedd ar gael mewn Ymddiriedolaethau GIG /Byrddau Iechyd, mewn sefydliadau iechyd cenedlaethol, a mewn prifysgolion sy’n hyfforddi gweithwyr proffesiynol iechyd.
Annogir technegwyr llyfrgell i ennill cymhwyster yn y defnydd o gyfrifiaduron a meddalwedd gyfrifiadurol. Ar wefan Professionals Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth (CILIP) ceir gwybodaeth am gyrsiau byrion a sut i ennill Ardystiad, Siartredigaeth a Chymrodoriaeth gyda CILIP. Cliciwch yma i ddysgu rhagor.
Yn ogystal mae CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant i’r rhai sy’n gweithio yn y sector llyfrgelloedd yng Nghymru. Cliciwch yma i ddysgu rhagor.
Mae Llyfrgellwyr Cynorthwyol sydd newydd ymgymhwyso’n dod i mewn i’r proffesiwn ar Fand 5 o raddfa gyflogau’r GIG . Ar ôl cael profiad mae rhai llyfrgellwyr yn arbenigo neu’n symud i faes rheolaeth. Gall llyfrgellwyr ddewis ennill rhagor o gymwysterau academaidd megis gradd Meistr a/neu symud ymlaen gan ddefnyddio’r fframwaith o gymwysterau a gynigir gan Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth trwy Siartredigaeth a Chymrodoriaeth.
Mae’r sectorau cysylltiol y gallai llyfrgellwyr iechyd ystyried gweithio ynddynt yn cynnwys prifysgolion, cwmnïau fferyllol, llywodraeth, elusennau a chyrff sy’n ategu gwaith gweithwyr proffesiynol megis Coleg Brenhinol y Nyrsys neu Cymdeithas Feddygol Prydain.
| Band Agenda ar gyfer Newid | Enghreifftiau o Rolau |
| 2 | Technegydd Llyfrgell Lefel Mynediad |
| 3 | Technegydd Llyfrgell |
| 4 | Technegydd Llyfrgell Lefel Uwch |
| 5 | Llyfrgellydd Cynorthwyol |
| 6 | Llyfrgellydd Arbenigol; Llyfrgellydd Arweinydd Tîm |
| 7 | Llyfrgellydd Rheolwr Gwasanaeth |
| 8 | Rheolwr Proffesiynol Gwasanaethau Llyfrgell |
Cliciwch yma i weld manylion cyflogau a thelerau’r GIG .
Gweler cyfleoedd cyflogaeth ar wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk.
CYMORTH MYFYRWYR
Y myfyrwyr fydd yn gyfrifol am unrhyw ffioedd dysgu. Cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol i gael manylion y ffioedd dysgu presennol.
Gellir cael gwybodaeth am ffynonellau ariannu gan y sefydliad. Efallai y bydd benthyciadau i fyfyrwyr ar gael. I gael rhagor o fanylion cliciwch yma.
Gellir cael gwybodaeth am ffynonellau ariannu gan y sefydliad. Efallai y bydd benthyciadau i fyfyrwyr ar gael. I gael rhagor o fanylion cliciwch yma.
CYSYLLTIADAU YCHWANEGOL
Sefydliadau Academaidd
Cymdeithas Broffesiynol
Cysylltwch ag nhswalescareers@wales.nhs.uk os oes gennych chi ymholiadau/ sylwadau ynghylch y dudalen hon.