Hyfforddi yn y DU
Bwriedir y wybodaeth hon ar gyfer y rhai sy’n dymuno hyfforddi fel nyrsys neu fathau eraill o weithwyr iechyd proffesiynol yn y DU sydd â dinasyddiaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. I gael gwybodaeth am gymwysterau mynediad derbyniol, ymwelwch â gwefan y brifysgol neu wefan UCAS.
Nid yw’r rhan fwyaf o ddinasyddion Ewropeaidd yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth yn ystod eu hyfforddiant yn y DU. Rhoddir manylion yr eithriadau yn adran y 'Rhagair’ yn y llyfryn Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr Gofal Iechyd yng Nghymru. I gael cyngor personol cysylltwch â’r brifysgol neu Uned Ddyfarniadau Myfyrwyr y GIG ; cliciwch yma i weld y manylion.
I astudio neu weithio yng Nghymru fel Nyrs neu Fydwraig gymwysedig
Rhaid ichi fod wedi cofrestru yn y DU. Ewch at Adran yr UE o wefan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth; cliciwch yma i weld y manylion.
I weithio yng Nghymru fel Gweithiwr Proffesiynol Iechyd neu Wyddonydd Gofal Iechyd cymwysedig
Rhaid ichi fod wedi cofrestru yn y DU. Cyn cyflwyno unrhyw gais, cysylltwch ag Adran Gofrestru Cyngor y Proffesiynau Iechyd; cliciwch yma i weld y manylion.
Cysylltwch ag nhswalescareers@wales.nhs.uk os oes gennych chi ymholiadau/sylwadau ynghylch y dudalen hon.