Telerau ac Amodau
Mae’r rhan fwyaf o swyddi yn y GIG wedi cael eu gwerthuso a’u rhoi mewn band cyflogau rhwng 1 a 9. Mae gan bob band cyflogau fynedbwynt a nifer o gamau wedyn nes cyrraedd pen y band cyflogau. Gelwir pob cam yn gynyddiad cyflog neu bwynt ar y golofn dâl. Mae cyflogedigion boddhaol yn symud ymhellach i fyny’r llwybr cynyddiadau hwn bob blwyddyn. Bydd y cyflogedig yn derbyn codiad cyflog blynyddol felly, a hynny fel rheol ar benblwydd y dyddiad yr ymunodd â’r GIG , nes cyrraedd pen y band cyflogau. Adolygir cyflogau yn y GIG bob blwyddyn, ym mis Ebrill.
Mae staff amser llawn yn gweithio 37½ awr yr wythnos. Yn achos rhai rolau mae’n bosibl y gellir gweithio goramser. Mae’r GIG wedi ymrwymo i ddylunio swyddi sy’n ffafriol i fywyd teuluol ei weithwyr ac mae’n ymlynu wrth Gyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd ar Amser Gweithio sy’n cyfyngu ar gyfanswm nifer yr oriau y gellir gofyn i bobl weithio.
Rhoddir Seibiant Blynyddol (gwyliau) o 27 diwrnod y flwyddyn; mae hyn yn cynyddu i 29 diwrnod ar ôl pum mlynedd a 33 ar ôl 10, ynghyd ag wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus y flwyddyn. Rhoddir seibiant pro rata i weithwyr rhan amser. Mae gan y GIG gynlluniau seibiant salwch a seibiant mamolaeth hefyd.
Mae cynllun pensiwn y GIG yn rhoi hawl i’w aelodau i:
-
- bensiwn sy’n gysylltiedig â’u cyflog a hyd eu haelodaeth ac yn indecs-gysylltiol â chwyddiant
- swm un taliad di-dreth pan fyddant yn ymddeol
- yswiriant bywyd tra’u bod yn gweithio
Mae’r GIG yn gwerthfawrogi ei staff. Mae’n cynnig hyfforddiant ar lawer o lefelau ac yn annog ei staff i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u gyrfaoedd. Mae gwaith rhan amser yn arfer cyffredin ac mae’n bosibl cydrannu swyddi. Mae rhai aelodau staff clinigol yn gweithio sifftiau fel y gellir darparu gwasanaeth 24/7. Mae swyddi eraill yn caniatáu gweithio yn ystod y dydd. Gall rhai swyddi gynnig taliadau am weithio oriau sy’n gymdeithasol anghyfleus.
Mae hawl gan bob aelod o staff i ymuno â’r undeb llafur a/neu’r gymdeithas broffesiynol sy’n negodi ar ei ran ar y lefelau lleol a chenedlaethol.
I weld gwybodaeth fanylach am delerau ac amodau cliciwch yma. I weld gwybodaeth am y graddfeydd cyflog cyfredol, cliciwch yma a detholwch y ddogfen gyflogau berthnasol.
Cysylltwch ag nhswalescareers@wales.nhs.uk os oes gennych chi ymholiadau/sylwadau ynghylch y dudalen hon.