Gwybodaeth amlinellol ynglŷn â rôl y GIG

Pam dewis gyrfa gyda'r GIG yng Nghymru?

Mae gan y gwasanaeth iechyd, sef y cyflogwr mwyaf yng Nghymru, dros 200 o wahanol gyfleoedd gwaith i’w cynnig. Mae’r yddi’n cwmpasu meysydd sy’n amrywio o fferyllwyr i barafeddygon, gynaecolegwyr i beirianwyr clinigol, radiograffyddion i fydwragedd. Neu mae’n bosib y byddai’n well gennych ymuno ag un o’r gwasanaethau cymorth hanfodol, e.e. gwaith gweinyddol a cherigol, ystadau, rheolaeth gyffredinol/ariannol, arlwyo, gwaith domestig neu hybu iechyd.

Beth bynnag yw’r sgiliau, y profiadau neu’r cymwysterau sydd gennych, bwriad y wefan yma yw dangos i chi pa swyddi sydd ar gael o fewn y gwasanaeth iechyd a rhestru’r cymwysterau a’r hyfforddiant angenrheidiol sy’n ofynnol. Fe welwch gyfeiriadau hefyd fel y gallwch ysgrifennu neu e-bostio i ofyn am fwy o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais. 
 

A  B  C  CH  D  DD  E  F  FF  G  NG  H  I  L  LL  M  N  O   P  PH  R  RH  S  T  TH  U  W  Y

Ariannol

disgrifiad gyrfa
Mae timau o staff cyfrifon a chyflogau yn dadansoddi rhaniad adnoddau; yn nodi gwir gostau gwasanaethau ac yn cyfrannu at gynllunio ansawdd a maint gofal cleifion yn y dyfodol
 
y gofynion addysg
Dylai ymgeiswyr gael TGAU gradd C neu gyfatebol yn cynnwys mathemateg neu gymhwyster ariannol neu brofiad. Mae croeso i staff GIG wneud cais.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ceir hyfforddiant mewn swydd ac mae gan y GIG enw da am ddatblygu staff trwy gynnig iddynt ddilyn cyrsiau coleg.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 

Awdiolegwyr

disgrifiad gyrfa
Darganfod a mesur problemau clyw, problemau â chydbwysedd (y glust fewnol) a chlefydau niwrolegol. Cynnig triniaeth a chymhorthion.
 
y gofynion addysg
Yn amrywio. Lefel A neu’i debyg i wneud gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG bellach yn noddi cyrsiau gradd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Biocemegydd

disgrifiad gyrfa
Datblygu a rheoli dulliau ar gyfer dadansoddi a dehongli data a rhoi cyngor ar ddiagnosio a thrin clefydau, mewn ysbytai ac yn y gymuned.
 
y gofynion addysg
Gradd mewn biocemeg neu gemeg.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Bydwragedd

disgrifiad gyrfa
Mae bydwragedd yn cynghori menywod sy’n feichiog ac sydd wedi esgor a’u teuluoedd, yn gofalu amdanynt ac yn eu helpu i gynllunio. Maen nhw’n arbenigwyr mewn genedigaethau normal, ond maen nhw hefyd wedi’u hyfforddi i adnabod problemau.
 
y gofynion addysg
Bydd llawer ohonynt yn Nyrsys Oedolion neu. Os nad ydych yn nyrs, bydd angen lefel A arnoch i astudio am y radd.
hyfforddiant a chymwysterau
Naill ai gradd 18 mis i nyrsys sydd â diploma/gradd neu. Gradd tair blynedd

mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 
 

Cardiograffydd

disgrifiad gyrfa
Yn dadansoddi delweddau o’r galon. Yn gweithio fel rhan o dîm gyda’rFfisiolegydd Cardiaidd.
 
y gofynion addysg
Dim gofynion ffurfiol ond dylech ymaelodi â’r Society for Cardiological Science and Technology a sefyll arholiad mewn Electrocardiograffi.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae hyfforddiant mewn swydd ar gael (e.e. Yn arwain at Lefel 2 NVQ).
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG:www.jobs.nhs.uk
 
 

Cynorthwy-ydd Rheoli

disgrifiad gyrfa
Mae Gwasanaethau Cymorth Rheoli fel cyllid, adnoddau dynol, cyflenwadau a chynllunio yn hanfodol i reoli’r Gwasanaeth Iechyd yn effeithiol. Darllenwch hefyd Gweinyddol a Chlerigol, Cyllid a Rheoli.
 
y gofynion addysg
Mae angen TGAU, GNVQ, NVQ, lefel A, gradd neu gymhwyster proffesiynol addas neu brofiad perthnasol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG yn helpu ymgeiswyr i ddilyn cyrsiau i ennill amrywiaeth o gymwysterau rheoli proffesiynol a chyffredinol.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG: www.jobs.nhs.uk
 
 

Cytogenetegydd Clinigol

disgrifiad gyrfa
Yn astudio cromosomau o waed, meinwe a hylif corfforol y claf i ganfod clefydau a chyflyrau genetig.
 
y gofynion addysg
Gradd mewn geneteg neu wyddor bywyd ag elfen o eneteg ynddi.
 
hyffrddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi, Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Darlifiedydd

disgrifiad gyrfa
Aelod pwysig iawn o dîm llawdriniaeth y galon. Mae’r darlifiedydd yn cynnal offer cynnal bywyd, yn pwmpio gwaed yn ystod llawdriniaethau’r galon ac eraill.
 
y gofynion addysg
O leiaf 2 lefel A neu eu cyfatebol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddiant ac astudio mewn swydd i ennill Gradd BSc yn y Gwyddorau Clinigol (Darlifiad).
 
mwy o wybodaeth
Society of Clinical Perfusion Scientists, 5th Floor
The Royal College of Surgeons of GB and Ireland
35-43 Lincolns Inn Fields, Llundain WC2A 3PN
Ffôn: 020 7869 6891
Gwefan: www.scps.org.uk
Ewch at wefan Swyddi’r GIG: www.jobs.nhs.uk
 
 

Darlunydd meddygol/Ffotograffydd Meddygol

disgrifiad gyrfa
Mae darlunwyr meddygol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ffotograffig i’r rheini sy’n gofalu am gleifion ac i arbenigwyr meddygol a pharafeddygol. Byddant yn gweithio’n agos gyda gwyddonwyr, doctoriaid, nyrsys a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n rhoi gofal iechyd i gleifion.
 
y gofynion addysg
Mae angen gradd, HND neu gyfatebol mewn ffotograffiaeth, dylunio graffig neu fideo fel arfer. Hefyd, mae yna gwrs carlam i ymgeiswyr sydd heb y cymwysterau hyn.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Rhaglen hyfforddiant mewn swydd i ennill BSC mewn Darlunio Meddygol. Cwrs dysgu o bell am flwyddyn i staff â chymwysterau addas, i ennill Tystysgrif ôl-brofiad mewn Darlunio Meddygol.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG:
www.jobs.nhs.uk
Skillset, Sector Skills Council for the Audio
Visual Industries
Ffôn: 0800 012 1815
Gwefan: skillset.org/photo/careers
 
 

Deietegydd

disgrifiad gyrfa
Mae deietegwyr yn defnyddio’u harbenigedd mewn maetheg, y gwyddorau meddygol a chymdeithasol i greu patrymau bwyta addas i’w cleifion.
 
y gofynion addysg
Lefel A neu gyfatebol gan gynnwys pynciau gwyddonol penodol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Gradd wedi’i noddi gan y GIG ar gael bellach.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi, Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Deintydd

disgrifiad gyrfa
Gweithwyr gofal iechyd sy’n arbenigo mewn darganfod a thrin amrywiaeth o broblemau sy’n effeithio ar y dannedd a’r geg. Mae angen sgiliau diagnostig, clinigol a chymdeithasol.
 
y gofynion addysg
Safonau academaidd uchel. Amrywiaeth eang o TGAU, a 3 lefel A neu gymwysterau cyfatebol gan gynnwys cemeg a dau o blith mathemateg, ffiseg, bioleg neu swoleg, yn ogystal â Phrawf Cymhwyster Clinigol y DU.
 
hyfforddian t a chymwysterau
Cwrs pum mlynedd mewn ysgol ddeintyddol prifysgol, ac yna hyfforddiant galwedigaethol mewn practis hyfforddi cymeradwy.
 
mwy o wybodaeth
Ysgol Ddeintyddiaeth
Prifysgol Caerdydd
Parc yr Heath
Caerdydd CF14 4XY
Gwefan: www.cardiff.ac.uk
Cymdeithas Ddeintyddol Prydain
Gwefan: www.bda-dentistry.org.uk
Am wybodaeth am gyrsiau
 
 

Doctor

disgrifiad gyrfa
Yn rhoi gofal meddygol sylfaenol a pharhaus i gleifion. Yn ystyried ffactorau corfforol, seicolegol a chymdeithasol wrth roi diagnosis o salwch, wrth argymell a rhoi triniaeth ac wrth ymarfer meddygaeth ataliol.
 
y gofynion addysg
Safonau academaidd uchel. Amrywiaeth eang o TGAU, a 3 lefel A neu gyfatebol a ddylai gynnwys cemeg a dau o blith mathemateg, ffiseg, bioleg neu swoleg. Prin yw’r cyfleoedd i fyfyrwyr â lefel A yn y celfyddydau. Am wybodaeth am gyrsiau www.ucas.com
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddi trwy gwrs gradd rhwng 5‑6 mlynedd mewn ysgol feddygol prifysgol. Mae cyrsiau byr ar gael i raddedigion a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd â’r cymwysterau priodol. Ar ôl cofrestru, rhagor o hyfforddiant i ddod yn feddyg teulu neu’n arbenigwr. Cyfanswm o 9‑14 mlynedd.
 
mwy o wybodaeth
British Medical Association
Gwefan: www.bma.org.uk/ap.nsf/content/
HubCareersandeducation
General Medical Council
Gwefan: www.gmc‑uk.org
Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd
Ffôn: 029 2087 4000
Gwefan: www.cardiff.ac.uk
Am wybodaeth am gyrsiau:
 
 

Embryolegydd Clinigol

disgrifiad gyrfa
Yn gweithio mewn canolfannau atgenhedlu yn trin cyplau diffrwyth. Yn trafod wyau, sberm ac embryonnau dynol.
 
y gofynion addysg
Gradd mewn gwyddor fiolegol neu ffiseg a pheirianneg sy’n gysylltiedig â meddygaeth.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Fferyllydd

Disgrifiad gyrfa
Fferyllwyr sy’n rheoli fferyllfeydd ysbytai ac sy’n gofalu bod presgripsiynau yn gywir ac yn ddiogel. Maen nhw’n ymweld â wardiau ac yn rhoi cyngor i staff meddygol a nyrsys ar gyffuriau, ac yn cynghori cleifion ar beth i’w wneud i gael y gorau o’u meddyginiaethau.
 
y go fynion addysg
Lefel A mewn cemeg, a dau o’r tri a ganlyn: bioleg, mathemateg a ffiseg i fynd ar gwrs gradd.
 
hyfforddian t a chymwysterau
Cwrs amser llawn i ennill gradd prifysgol mewn fferylliaeth, ac yna cwrs ymarfer am flwyddyn cyn cofrestru. Arholiad ar ddiwedd y flwyddyn i ddod yn aelod o’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.
 
mwy o wybodaeth
Royal Pharmaceutical Society
of Great Britain
Ebost: wales@rpsgb.org.uk
 
 

Ffisegwyr Meddygol

disgrifiad gyrfa
Mae ffisegwyr meddygol yn defnyddio egwyddorion ffiseg i ddiagnosio a thrin cleifion, gan ddefnyddio yn aml ymbelydredd ioneiddio ac an-ioneiddio i wneud delweddau o gleifion ac wrth roi therapi. Yn gweithio gyda chleifion, staff meddygol a thechnegol a pheirianwyr.
 
y gofynion addysg
Fel arfer, mae angen gradd anrhydedd mewn peirianneg neu wyddor ffisegol. Gallai gradd uwch neu brofiad diwydiannol fod yn ddefnyddiol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddiant mewn swydd am ddwy flynedd, o bosibl yn arwain at MSc ac fel arfer yn cyfrif at statws Siartredig (CPhys).
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Ffisiolegwyr Cardiaidd

disgrifiad gyrfa
Yn gweithio â chleifion ag anhwylderau cardiofasgiwlar. Yn cofnodi ac yn dadansoddi data ecg, yn monitro cleifion yn ystod llawdriniaethau, gofal dwys a phrofion.
 
y gofynion addysg
Lefel A neu’i debyg i wneud gradd.
 
hyfforddian t a chymwysterau
Mae’r GIG bellach yn noddi cyrsiau gradd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Ffisiolegydd Clinigol – Anadlu

disgrifiad gyrfa
Yn mesur cyflwr ysgyfaint a systemau anadlu’r claf pan fydd yn fywiog, yn gorffwys ac yn cysgu.
 
y go fynion addysg
Lefel A neu’i debyg i wneud gradd.
 
hyfforddian t a chymwysterau
Mae’r GIG bellach yn noddi gradd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Ffisiotherapydd

disgrifiad gyrfa
Mae ffisiotherapyddion yn helpu ac yn trin pobl o bob oed sydd â phroblemau corfforol oherwydd damwain, oed neu salwch. Yn eu helpu i wella trwy ddatblygu ac adfer gweithgarwch y corff.
 
y gofynion addysg
Lefelau A neu eu cyfatebol i fynd ar gwrs gradd.
 
hyfforddian t a chymwysterau
Mynediad trwy radd a noddir gan y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Fflebotomydd (Gwaedydd)

disgrifiad  gyrfa
Mae’r Fflebotomydd yn casglu gwaed cleifion ar gyfer cynnal profion.
 
y gofynion addysg
Dim gofynion ffurfiol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddiant mewn swydd i ennill Tystysgrif Cymhwysedd.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
National Association of Phlebotomists
 
 

Genetegydd Moleciwlar

disgrifiad gyrfa
Mae Genetegyddion Moleciwlar yn astudio’r DNA mewn celloedd i gael hyd i abnormaleddau genetig cyn genedigaeth, ac i adnabod carwyr ac unigolion sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr.
 
y gofynion addysg
Gradd mewn geneteg neu wyddor bywyd ag elfen o eneteg ynddi.
 
hyfforddiant a chymwysterau 
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Glanweithydd Deintyddol

disgrifiad gyrfa
Yn glanhau’r dannedd a’r geg. Yn cynnwys glanhau cegau cleifion ynghyd â rhoi cyngor addysgol ar sut i osgoi clefydau a phydredd y dannedd a’r gymiau.
 
y gofynion addysg
2 lefel A a 5 TGAU gradd A‑C (gan gynnwys Saesneg ac 1 pwnc gwyddonol) neu gyfatebol, neu gymhwyster cydnabyddedig i nyrsys deintyddol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Cwrs dwy flynedd amser llawn yn arwain at Ddiploma mewn Hylendid Deintyddol. Mae’r cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel anatomi, imiwnoleg, clefydau periodontol, sgiliau ymarferol a theori addysg.
 
mwy o wybodaeth
Swyddog Gwybodaeth
The British Dental Hygienists Association
10 Vermuyden Way
Fen Drayton Caergrawnt
Cambs CB4 5TA
Ffôn/Ffacs: 01954 231599
Ebost: enquiries@bdha.org.uk
  
 

Gwasanaethau Arlwyo

disgrifiad gyrfa
Mae staff arlwyo’n gyfrifol am baratoi bwyd maethlon i gleifion i’w helpu i wella. Maent yn gwneud bwyd i staff hefyd.
 
y gofynion addysg
Rheolwyr: Gradd, HND/BTEC neu gymhwyster HCIMA cyfatebol neu brofiad ymarferol yn y maes. Mae gwaith ar bob lefel ar gael, ar gyfer pobl â phob lefel o brofiad.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Rheolwyr: Rhaglen Datblygu Gwasanaethau Gwesty. Goruchwylwyr: City & Guilds 706/1 a 2, neu Dystysgrif Bwrdd Arholi Cenedlaethol Astudiaethau Goruchwylio, neu brofiad perthnasol fel goruchwylydd. Staff arall – hyfforddiant yn y gwaith.Mae’r GIG yn dda am ddatblygu staff trwy gynnig iddynt ddilyn cyrsiau coleg.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
Hotel and Catering International Management
Association
Ffôn: 020 86614900
Ebost: recep@hcima
Gwefan: www.hcima.org.uk
  
 

Gwasanaethau Golchi

disgrifiad gyrfa
Gwasanaethau Golchi a Rheolwyr Golchdai a’u gweithwyr sy’n gyfrifol am y rhain.
 
y gofynion addysg
Rheolwyr: Pedwar TGAU gan gynnwys mathemateg, gwyddor ffisegol a Saesneg, a lefel A yn o leiaf un ohonynt. Dim angen cymhwyster ffurfiol ar gyfer y swyddi eraill. Profiad yn fantais.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Rheolwyr: Hyfforddiant mewnol ac allanol ar gael. Goruchwylwyr: Hyfforddiant mewnol ac allanol ar gael Gweithwyr y Golchdy: Hyfforddiant mewnol.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG: www.jobs.nhs.uk
 
 

Gwasanaethau Gwesty

disgrifiad gyrfa
Rheolwyr sy’n gyfrifol am gynllunio a threfnu goruchwylwyr sy’n arwain y tîm sy’n glanhau ac ati er lles cleifion a staff.
 
y gofynion addysg
Rheolwyr: Gradd, HND/BTEC neu gymhwyster HCIMA cyfatebol neu brofiad ymarferol o wasanaethau domestig. Bydd profiad yn fantais.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Rheolwyr: Rhaglen Datblygu Gwasanaethau Gwesty. Goruchwylwyr: City & Guilds 764 mewn Gwyddor Glanhau, NEBSS neu brofiad perthnasol fel goruchwyliwr Mae’r GIG yn noddi hyfforddiant ar bob lefel.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
Institute of Hospitality
Ebost: info@instituteofhospitality.org
 
 

Gwasanaethau Steryllu

disgrifiad gyrfa
Mae rheolwyr yn gyfrifol am ddarparu cyflenwadau di-haint i ofalu am gleifion ac am steryllu offer i gleifion a meddygon. Cynorthwywyr sy’n paratoi cyfarpar ac offer.
 
y gofynion addysg
Rheolwyr: Pum TGAU Gradd C neu eu cyfatebol, gan gynnwys mathemateg, iaith Saesneg a phwnc gwyddonol. Cynorthwywyr: yn amrywio
 
hyfforddian t a chymwysterau
Rheolwyr: dwy neu dair blynedd o hyfforddiant mewn swydd – The Institute of Decontamination Sciences/City & Guilds. Cynorthwywyr: Mae hyfforddiant mewn swydd yn
cael ei gynnig.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
Gyrfa Cymru: www.gyrfacymru.com
The Institute of Decontamination Sciences
 
 

Gweinyddol a Chlerigol

disgrifiad gyrfa
Gall olygu gweithio mewn swyddfa neu ymhlith cleifion, wrth y dderbynfa, gyda chofnodion cleifion, i gefnogi uwch-reolwyr a chlinigwyr. Darllenwch hefyd ‘Cyllid a Rheoli’.
 
y go fynion addysg
Addysg yn amrywio yn ôl y swydd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae hyfforddiant mewn swydd yn cael ei gynnig. Mae’r GIG yn dda am ddatblygu staff trwy gyrsiau ‘mynediad i goleg’.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd

disgrifiad gyrfa
Yn gweithio mewn timau o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol cofrestredig ym mhob maes clinigol.
 
y go fynion addysg
Yn amrywio.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mewn swydd. Mae yna gyrsiau rhan‑amser neu amser llawn i ennill statws proffesiynol cofrestredig, yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 

Gwyddonwyr Awdiolegol

disgrifia d gy rfa
Yn datblygu ac yn defnyddio technegau ac offer i ddarganfod a lleddfu problemau clyw.
 
y gofynion addysg
Gradd wyddonol addas, gyda pheth gwybodaeth am wyddor ymddygiad neu ffiseg.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Gwyddonwyr Biofeddygol

disgrifiad gyrfa
Mae amrywiaeth eang o wyddonwyr yn cynnal gwaith ymchwil a diagnostig i helpu timau gofal iechyd i ddiagnosio a thrin clefydau.
 
y gofynion addysg
Gradd wyddonol addas.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
  
 

Gwyddonydd Clinigol mewn Haemotolegy

disgrifiad gyrfa
Yn dadansoddi celloedd ym mêr yr esgyrn, gwaed a hylifau eraill i helpu i ddiagnosio, monitro a thrin clefydau.
 
y gofynion addysg
Gradd mewn gwyddor fiolegol neu ffiseg a pheirianneg sy’n gysylltiedig â meddygaeth.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI, TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
Gwefan: www.gyrfaoeddgigcymru.com
 
 

Gwyddonydd Clinigol mewn Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg

disgrifiad gyrfa
Yn arbenigo mewn ‘profi meinwe’ ar gyfer trawsblannu organau a mêr esgyrn.
 
y gofynion addysg
Gradd mewn gwyddor fiolegol berthnasol a phrofiad o imiwnoleg.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI, Tyˆ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Imiwnolegydd Clinigol

disgrifiad gyrfa
Yn gweithio gyda chlinigwyr i ddatblygu profion a thriniaethau newydd i reoli’r system imiwnedd.
 
y gofynion addysg
Gradd mewn gwyddor fiolegol berthnasol; imiwnoleg, biocemeg, microfioleg.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI, TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
  
 

Llyfrgellwyr

Disgrifiad gyrfa
Sicrhau mynediad i wybodaeth drwy lyfrau, cylchgronau a ffurfiau electronig
 
y gofynion addysg
Lefelau A neu gyfatebol i fynd ar gwrs gradd
 
hyfforddiant a chymwysterau
Gradd neu ddiploma ôl radd neu Radd Meistr mewn Astudiaethau Llyfrgell
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi, Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn:01443 233 472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Microfiolegydd Clinigol

disgrifiad gyrfa
Yn chwarae rhan bwysig wrth ddiagnosio, atal a rheoli heintiau a datblygu profion diagnostig.
 
y go fynion addysg
Gradd mewn microfioleg neu bwnc tebyg.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Niwroffisiolegyddion Clinigol

disgrifiad gyrfa
Yn asesu’r hyn mae’r system nerfol yn ei wneud er mwyn gallu rhoi diagnosis, darparu gofal dwys a gofal cyn, yn ystod ac ar ôl llawdriniaeth.
 
y gofynion addysg
Yn amrywio. Lefel A neu’i debyg i wneud gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG bellach yn noddi gradd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Nyrs Ddeintyddol

disgrifiad gyrfa
Paratoi’r feddygfa, cael yr offer yn barod, cymysgu deunyddiau, cadw’r cofnodion a gofalu am y claf.
 
y gofynion addysg
Nid oes gofynion addysgol penodol, ond fe fydd angen 2 TGAU gradd A‑C o leiaf fel arfer i ymgymryd â’r cwrs Tystysgrif.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Trwy waith ymarferol ac astudio’n rhan‑amser, neu gwrs blwyddyn neu ddwy amser llawn i ennill Tystysgrif Genedlaethol.
 
mwy o wybodaeth
Gyrfa Cymru
Gwefan: www.gyrfacymru.com
Cyngor Dysgu a Gyrfaoedd
Ffôn: 0800 100 900
 
 

Nyrsys

disgrifiad gyrfa
Yn cynnwys: Nyrsys Cofrestredig yn yr arbenigeddau canlynol: Oedolion, Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a Phlant.
 
y gofynion addysg
Lefel A neu’i thebyg i wneud gradd. 5 TGAU neu gyfatebol mewn pynciau penodol i astudio am y diploma.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Cwrs gradd 3 blynedd wedi’i ariannu gan y GIG – 50% ohono’n ymarfer. Dim ond graddau sydd ar gael yng Nghymru. Mae rhai lleoedd yn Lloegr ar gyfer y diploma.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Optegydd (Dosbarthau)

disgrifiad gyrfa
Yr Optegydd Dosbarthu sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ar ôl cynnal y prawf llygaid, gan baratoi’r sbectols a’r lensys cyffwrdd yn ôl y presgripsiwn.
 
y gofynion addysg
5 TGAU (gradd A-C) neu gyfatebol mewn mathemateg neu ffiseg, Saesneg Iaith neu Lên, a thrydydd pwnc gwyddonol. Y ddau bwnc sy’n weddill yn ddewisol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Cwrs dwy flynedd amser llawn, a blwyddyn arall, wedyn, yn gweithio mewn practis o dan oruchwyliaeth. Neu dri diwrnod astudio gyda swydd addas. Neu gwrs gohebu tair blynedd gyda swydd addas.
 
mwy o wybodaeth
General Optical Council
41 Harley Street, Llundain W1N 2DJ
 
 

Optometrydd

disgrifiad gyrfa
Mae optometryddion yn cynnal profion llygaid ac yn rhagnodi lensys cywiro. Mae eu gwaith yn bwysig am eu bod yn adnabod cyflyrau meddygol.
 
y gofynion addysg
Lefelau A neu eu cyfatebol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG yn noddi cyrsiau gradd.
 
mwy o wybodaeth
General Optical Council
41 Harley Street, Llundain W1N 2DJ
 
 

Orthoptydd

disgrifiad gyrfa
Mae orthoptyddion yn diagnosio ac yn trin anhwylderau ar y golwg ac ar symudiadau’r llygad, fel llygaid tro a golwg wan.
 
y gofynion addysg
Lefelau A neu eu cyfatebol i fynd ar gwrs gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG yn noddi cyrsiau gradd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Orthotydd

disgrifiad gyrfa
Mae orthotyddion yn darparu fframiau, sblintiau ac esgidiau arbennig i drin anffurfiau, i helpu pobl i symud ac i leddfu poen.
 
y go fynion addysg
Lefelau A neu eu cyfatebol, i fynd ar gwrs gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG yn noddi cyrsiau gradd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Parafeddyg

disgrifiad gyrfa
Rhan bwysig iawn o’r gwasanaethau brys. Yn aml yn helpu mewn damweiniau trwy bwyso a mesur y sefyllfa, rhoi cymorth brys a chludo cleifion i’r ysbyty. Mae parafeddygon yn derbyn hyfforddiant arbenigol i roi triniaeth frys i gleifion cyn eu hanfon i’r ysbyty.
 
y go fynion addysg
Trwydded yrru, gan gynnwys yr hawl i yrru cerbydau C1 yn ddefnyddiol. Lefel A neu gyfatebol ar gyfer diploma/gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG bellach yn noddi diplomau/graddau.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Peiriannydd Clinigol

disgrifiad gyrfa
Yn defnyddio egwyddorion peirianneg i ddiagnosio, trin a gwella cleifion. Yn golygu dylunio offer arbenigol ac ymchwilio i agweddau mecanyddol a thrydanol ar y corff.
 
 
y gofynion addysg
Gradd
 
 
hyfforddiant a chymwysterau
Ymlaen i astudio ar lefel Meistr neu PhD gyda chefnogaeth y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Podiatrydd

disgrifiad gyrfa
Arbenigwr sy’n rhoi diagnosis neu driniaeth feddygol, llawfeddygol, mecanyddol ac eraill i wella clefydau, anhwylderau ac anafiadau’r droed.
 
y gofynion addysg
Lefel A neu’i debyg.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Gradd wedi’i noddi gan y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi, Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Porthor

disgrifiad gyrfa
Mae porthoriaid yn gwneud amrywiaeth o dasgau, fel mynd â chleifion o ward i ward, a chasglu a chludo amrywiaeth o gyflenwadau.
 
y gofynion addysg
Dim gofynion ffurfiol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae hyfforddiant mewn swydd yn cael ei gynnig.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 

Prosthetydd

disgrifiad gyrfa
Mae’r prosthetydd yn rhoi gofal a chyngor i gleifion sydd wedi colli coes neu fraich neu a aned hebddynt a ffitio’r offer artiffisial gorau posibl.
 
y gofynion addysg
Lefelau A neu eu cyfatebol i fynd ar gwrs gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mynediad trwy radd a noddir gan y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Radiograffydd

disgrifiad gyrfa
Mae’r Radiograffydd Diagnostig yn cynhyrchu delweddau o safon uchel ar ffilm a chyfryngau recordio eraill i helpu doctoriaid i ddiagnosio clefydau a dadansoddi anafiadau. Mae Radiograffyddion Therapiwtig yn gweithio gyda thîm o arbenigwyr meddygol i gynllunio triniaeth ac i drin tiwmorau neu ddiffygion drwg yn y meinwe gan ddefnyddio ymbelydredd cryf iawn.
 
y gofynion addysg
Lefelau A neu eu cyfatebol i fynd ar gwrs gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mynediad trwy radd a noddir gan y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Rheoli

disgrifiad gyrfa
Mae rheolwyr yn cyfrannu at gynllunio ansawdd a maint gofal cleifion yn y dyfodol. Mae gan y GIG enw da am helpu staff i ddatblygu’n rheolwyr. Mae’r Rhaglenni Hyfforddiant Rheoli yn cynnwys Cyffredinol, Adnoddau Dynol, Gwyddor Gwybodaeth Iechyd, Stadau a Chaffael
 
y gofynion addysg
Mynediad uniongyrchol: Gradd 2:2 Gradd neu gyfatebol. Mae gwahaniaeth mewn oedrannau, profiad a chefndir yn cael ei groesawu, neu os ydych yn gweithio yn barod yn y GIG neu’n meddwl am newid gyrfa. Mae croeso i weithwyr proffesiynol profiadol o faes iechyd neu faes rheoli arall ymgeisio.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Dros y Rhaglen Hyfforddiant Rheoli dwy flynedd byddwch yn astudio ar gyfer gradd lefel Meistr yn eich maes proffesiynol dewisol. Mae’r rhaglen ddwys hon yn cyfuno hyfforddiant, astudiaethau ôl-radd a phrofiad gwaith i roi cyflwyniad perffaith i reolaeth GIG fodern. Gall gweithwyr proffesiynol gyda phrofiad/ cymwysterau perthnasol fod yn gymwys i wneud cais am swyddi’n uniongyrchol.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi, Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
www.nliah.wales.nhs.uk
Hyfforddiant Rheoli yn GIG Lloegr
Ffôn: 0870 169 9731
Gwefan: www.come2life.nhs.uk
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 

Rheolwyr Cyllid

disgrifiad gyrfa
Mae ein gweithwyr ariannol proffesiynol yn rheoli cyllidebau aml-biliwn i ddarparu gofal iechyd o safon fyd-eang i bawb yng Nghymru. Mae’n rôl ddylanwadol, hanfodol wrth redeg sefydliad enfawr yn arloesol ac effeithiol.
 
y gofynion addysg
Mynediad uniongyrchol: Gradd 2:2 Gradd neu gyfatebol. Mae gwahaniaeth mewn oedrannau, profiad a chefndir yn cael ei groesawu, neu os ydych yn gweithio yn barod yn y GIG neu’n meddwl am newid gyrfa. Mae croeso i weithwyr proffesiynol profiadol o faes iechyd neu faes rheoli arall ymgeisio.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Dros y Rhaglen Hyfforddiant rheoli tair blyneddbyddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster proffesiynol CIPFA i ddod yn aelod o CIPFA. Byddwch yn mireinio eich sgiliau arweinyddiaeth a chyfrifo technegol wrth ennill dealltwriaeth fanwl o’n gwaith ariannol a gwasanaethau gofal iechyd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi, Ffordd Penybont, Llanharan,
Morgannwg CF72 9RP
www.nliah.wales.nhs.uk
Hyfforddiant Rheoli yn GIG Lloegr
Ffôn: 0870 169 9731
Gwefan: www.come2life.nhs.uk
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 

Seicolegydd

disgrifiad gyrfa
Mae’r GIG yn cyflogi seicolegwyr mewn pedwar maes arbenigol: gwaith clinigol, cwnsela, gwaith fforensig a seicoleg iechyd.
 
y gofynion addysg
I gofrestru fel Seicolegydd Siartredig, mae angen Gradd a/neu ddiploma ôl‑radd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae llwybrau hyfforddi ôlradd gwahanol ar gyfer pedwar maes seicoleg. Mae’r GIG yn talu am nifer o leoedd hyfforddi ar gyfer seicolegwyr clinigol.
 
mwy o wybodaeth
The British Psychological Society
Ffôn: 0116 254 9568
  
 

Sgriniwr Cytoleg Ceg y Groth

disgrifiad gyrfa
Mae sgrinwyr yn archwilio samplau o geg y groth o dan feicrosgôp i chwilio am arwyddion cynnar o ganser.
 
y go fynionaddysg
Pedwar TGAU neu’u tebyg neu brofiad perthnasol. Nid oes gofynion ffurfiol eraill i fynd yn sgriniwr dan hyfforddiant.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddiant mewn swydd i ennill Tystysgrif y Rhaglen Sgrinio Ceg y Groth.
 
mwy o wybodaeth
Institute of Biomedical Science
12 Coldbath Square, Llundain EC1R5HL
Ffôn: 020 77130214
Ebost: mail@ibms.org Gwefan: www.ibms.org neu
National Association of Cytologists
 
 

Staff Gwybodeg Iechyd

disgrifiad gyrfa
Mae’r teulu swyddi hwn yn cynnwys staff sy’n gweithio mewn TGCh, Llyfrgelloedd, Cofnodion Iechyd, Archwilio Clinigol, Codio Clinigol, Ansawdd Data, Dadansoddi Gwybodaeth, Derbynfa a Chlercod Ward
 
y gofynion addysg
Addysg yn amrywio yn ôl y swydd
 
hyfforddiant a chymwysterau
Cyfleoedd i fynd yn eich blaen tra’n gweithio, o dan
nawdd y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi, Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn:01443 233 472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Staff Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

disgrifia gyrfa
Datblygu’r systemau TG a ddefnyddir ar draws y GIG a chefnogi staff wrth iddyn nhw eu defnyddio.
 
y gofynion addysg
Mae yna amrywiaeth o gyfleoedd i bobl â chymwysterau TGAU, NVQ a GNVQ hyd at lefel gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Cyfleoedd i fynd yn eich blaen tra’n gweithio, o dan nawdd y GIG.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG:
 
 

Storfeydd

disgrifia d gy rfa
Yn gofalu am gasglu a dosbarthu nwyddau’r storfa i wardiau ac adrannau, ac ailarchebu cyflenwadau.
 
y gofynion addysg
Ni fydd angen llawer o gymwysterau ar lawer o’r swyddi, ond bydd angen cymwysterau proffesiynol ar gyfer swyddi proffesiynol.
 
hyfforddian t a chymwysterau
Mae hyfforddiant mewn swydd yn cael ei gynnig.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
   
 

Swyddog Addysg Iechyd/Hybu Iechyd

disgrifiad gyrfa
Yn ymwneud â chynllunio a gweithredu polisïau; addysg a hyfforddiant; cyhoeddusrwydd a gwybodaeth; ymchwil a gwerthuso; a datblygu cynlluniau i hybu iechyd da ac atal clefydau.
 
y gofynion addysg
Gradd (mewn gwyddor fiolegol, cymdeithasol neu ymddygiadol) a/neu’n nyrs, ymwelydd iechyd, athro, gweithiwr cymdeithasol. Cymhwyster ar ôl graddio yn fantais.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddiant mewn swydd yn bennaf. Hefyd cwrs Diploma/Meistr mewn Addysg Iechyd.
 
mwy o wybodaeth
Gwefan: www.nhscareers.nhs.uk
Gweler Careers A-Z, H ar health education and
promotion officer
 
 

Technegydd Anifeileaid

disgrifia d gyrfa
Yn gyfrifol am ofalu am anifeiliaid sy’n cael eu magu i’w defnyddio mewn gwaith ymchwil.
 
y gofynion addysg
Yn amrywio yn ôl y cyflogwr. Mae’r rhan fwyaf yn gofyn am 5 TGAU neu gyfatebol, gan gynnwys mathemateg, Saesneg a phwnc gwyddonol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae llwybr cam‑wrth‑gam ar gyfer yr yrfa hon, i dechnegwyr allu dod yn arbenigwyr cymwys trwy hyfforddiant mewn swydd ac addysg ran‑amser.
 
mwy o wybodaeth
Institute of Animal Technology (IAT)
5 South Parade, Summerton
Rhydychen OX2 7JL
Ebost: careers@iat.org.uk
   
 

Technegydd Clyweledol

disgrifia d gyrfa
Yn darparu deunydd dysgu ar gyfer amrywiaeth o feysydd o fewn y gwasanaeth iechyd.
 
y gofynion addysg
Tystysgrif Technegau Clyweledol y City & Guilds Rhif 7340 neu gymhwyster addas arall.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddiant mewn swydd.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 

Technegydd Deintyddol

disgrifiad gyrfa
Yn gweithio ar bob agwedd ar dechnoleg ddeintyddol;yn gwneud amrywiaeth o offer deintyddol gan gynnwys dannedd dodi, coronau a phontydd.
 
y gofynion addysg
Nid oes gofynion addysgol penodol, ond fe fydd angen 4 TGAU (gan gynnwys 2 bwnc gwyddonol) gradd A‑C fel arfer i wneud diploma. Bydd angen lefel A i wneud gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Dau lwybr: gweithio yn y GIG neu labordy masnachol gan ddilyn cwrs rhan‑amser 4‑5 mlynedd neu dilyn cwrs 3 blynedd amser llawn i ennill gradd neu ddiploma BTEC/EDEXEL.
 
mwy o wybodaeth
Dental Technicians Association
PO Box 6520, Northampton, NN3 9ZX
Ffôn: 08702 430 753
 
 

Technegydd Fferyllfa

disgrifiad gyrfa
Mae Technegwyr Fferyllfa yn paratoi ac yn rhoi cyffuriau, yn storio cyffuriau ac yn gwneud paratoadau di‑haint.
 
y gofynion addysg
Pedwar TGAU neu eu cyfatebol fel arfer, gydag o leiaf un ohonynt yn wyddonol, o ddewis cemeg.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddiant mewn swydd am ddwy i dair blynedd i ennill NVQ3 mewn gwasanaethau fferyllol.
 
mwy o wybodaeth
Adran fferylliaeth ysbyty/ymddiriedolaeth leol.
RPSGB (fel ar gyfer Fferyllwyr) Association of
Pharmacy Technicians
Ebost: wales@rpsgb.org.uk
 
 

Technegydd Meddygol/Technolegudd

disgrifiad gyrfa
Mae technegwyr meddygol yn gofalu am ac yn gweithio offer uwch‑dechnoleg fel sganwyr cyrff.
 
y gofynion addysg
Yn amrywio. Lefel A neu’i debyg i fynd ar gwrs gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG yn helpu ymgeiswyr i astudio ar lefelau gwahanol. Mae’r GIG bellach yn noddi cyrsiau gradd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Technegydd Patholeg Anatomegol

disgrifiad gyrfa
Mae Technegwyr Patholeg Anatomegol yn helpu patholegwyr gyda phostmortemau, yn cymrydsamplau o feinwe, yn gofalu am yr offer ac yn cadw cofnodion y marwdy.
 
y gofynion addysg
Nid oes gofynion penodol, ond byddai dangos bod gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth yn help.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Hyfforddiant mewn swydd i ennill tystysgrif mewn Technoleg Patholeg Anatomegol a chymwysterau eraill.
 
mwy o wybodaeth
Royal Institute of Public Health
28 Portland Place
Llundain W1B 1DE
Ffôn: 020 78502731
 
 

Technegydd Ystafell Dywyll

disgrifiad gyrfa
Yn helpu i brosesu ffilmiau a phlatiau pelydr‑X at bwrpas diagnosis a chofnodion.
 
y gofynion addysg
Nid oes angen cymwysterau penodol, ond fe fyddai addysg gyffredinol dda yn fantais.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae hyfforddiant mewn swydd ar gael.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 

Teleffonyddion

disgrifia d gyrfa
Yn delio ag ymholiadau dros y ffôn gan ddefnyddio offer sy’n tyfu’n fwy a mwy cymhleth.
 
y gofynion addysg
Yn amrywio.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae hyfforddiant mewn swydd yn cael ei gynnig. Swyddi’n cael eu hysbysebu yn y papurau lleol a’r Ganolfan Byd Gwaith.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG:
 
 
 

Tîm Ambiwlans

disgrifiad gyrfa
Ynghyd â gwasanaethau brys sy’n cael eu darparu gan barafeddygon, mae’r gwasanaethau ambiwlans yn darparu gofal di-frys a chludiant i gleifion, yn danfon post, cyfarpar, samplau a phelydr-x, yn danfon criwiau ambiwlans, yn cludo ac yn darparu cyngor gofal iechyd.
 
y gofynion addysg
Addysg yn amrywio yn ôl y swydd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Cynigir hyfforddiant mewn swydd. Mae gan y GIG enw da am ddatblygu staff.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi, Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233 472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 
 
 
 

Therapyddion Celf

disgrifia d gyrfa
I raddedigion celf, drama neu gerddoriaeth i ddefnyddio’u celfyddyd fel therapi i helpu pobl sydd â phroblemau corfforol, meddyliol, cymdeithasol neu emosiynol.
 
y g fynion addysg
Gradd neu’i thebyg mewn celfyddyd, drama neu gerddoriaeth.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Diploma ôl-radd neu Radd Meistr mewn Therapi Celfyddyd.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont, Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Therapydd Deintyddol

disgrifia d gyrfa
Yn gweithio’n bennaf mewn ysbytai neu yn y gymuned, rhoi gofal deintyddol i blant, cleifion ag anghenion arbennig a menywod beichiog. Yn gwneud peth gwaith clinigol ac yn dysgu pobl am gadw’r geg a’r dannedd yn lân.
 
y gofynion addysg
Pum pwnc TGAU (gan gynnwys un gwyddonol) neu gyfatebol, a naill ai 2 lefel A neu gymhwyster nyrsio deintyddol ag iddo statws cenedlaethol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Cwrs amser llawn o ryw 2 flynedd, yn arwain at Ddiploma mewn Therapi Deintyddol.
 
mwy o wybodaeth
British Association of Dental Therapists
92 Myfield Drive, Caversham Reading RC4 5JT
Ffôn: 01189 482651
 
 
Therapydd Galwedigaethol
disgrifia d gyrfa
Mae therapyddion galwedigaethol yn asesu ac yn trin pobl gan ddefnyddio gweithgarwch pwrpasol i rwystro anabledd a hybu annibyniaeth. Yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, problemau corfforol, seicolegol neu gymdeithasol, i’w helpu i ddygymod ac addasu i fywyd pob dydd.
 
y gofynion addysg
Lefelau A neu eu cyfatebol.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r GIG yn noddi cyrsiau gradd. Cyrsiau rhan amser ar gael mewn rhai mannau i’r rheini sy’n gweithio i’r GIG neu gofal cymdeithasol. Cwrs carlam 2 flynedd i raddedigion yn yr arfaeth.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Therapydd Lleferydd ac Iaith

disgrifiad gyrfa
Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn gweithio gyda phobl o bob oed sydd â phroblemau cyfathrebu a/neu lyncu.
 
y gofynion addysg
Lefelau A neu eu cyfatebol i fynd ar gwrs gradd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mynediad trwy radd a noddir gan y GIG.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 
 
 
 

Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau

disgrifiad gyrfa
Mae Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau yn aelod o dîm y theatr lawdriniaethau. Mae nhw’n helpu llawfeddygon ac anesthetwyr i wneud gwaith manwl a chymhleth.
 
y gofynion addysg
Mae gofynion cyrsiau’n amrywio, ond rhaid bod gennych ddigon i ymuno â chwrs addysg uwch.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Cwrs dwy flynedd i ennill Diploma mewn Addysg Uwch.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
 
 

Ymwelydd Iechydd

disgrifiad gyrfa
Mae ymwelwyr iechyd yn aelodau pwysig iawn o’r tîm sy’n darparu gofal iechyd yn lleol. Yn canolbwyntio ar iechyd yn hytrach nag ar afiechyd. Maen nhw’n rhoi help mawr a phwysig i deuluoedd â phlant dan oed ysgol.
 
y gofynion addysg
Nyrs â chymhwyster ar lefel diploma neu radd.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Gradd blwyddyn ychwanegol – o dan nawdd y GIG fel arfer ar gyflog llawn.
 
mwy o wybodaeth
AGAAOI
TŶ Arloesi
Ffordd Penybont
Llanharan CF72 9RP
Ffôn: 01443 233472
Ebost: nhswalescareers@nliah.wales.nhs.uk
  
 

Ysgrifenyddion

disgrifiad gyrfa
Mae ysgrifenyddion yn rhoi gwasanaeth pwysig iawn trwy helpu rheolwyr a chlinigwyr. Mae yna Ysgrifenyddion Meddygol hefyd, sy’n tueddu i weithio i arbenigwyr. Mae llawer o’r gwaith yn y GIG yn waith tîm a gallai hynny ehangu’r cyfrifoldebau ysgrifenyddol.
 
y gofynion addysg
Rhaid wrth sgiliau gweinyddol ac ysgrifenyddol da. Gan gynnwys bysellu, profiad o’r pecynnau cyfrifiadurol safonol, ac weithiau, llawfer.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae rhai ysbytai/ymddiriedolaethau yn rhoi hyfforddiant yn y swydd.
 
mwy o wybodaeth
Association of Medical Secretaries
Practice Managers and Receptionists (AMSPAR)
Tavistock House North
Tavistock Square, Llundain WC1H 9LN
Gwefan: www.amspar.co.uk
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
  
 

Ysgrifenyddion

disgrifiad gyrfa
Mae staff ystadau’n cynnwys: Crefftwyr, Garddwyr, Peintwyr ac Addurnwyr, Penseiri, Peirianwyr, Rheolwyr a Chynllunwyr Ystadau, Rheolwyr Prosiect, Staff Cynnal a Chadw, Staff Gweithredol, Syrfewyr a Thechnegwyr. Cyfrifoldebau’n cynnwys cynllunio strategol tymor hir; materion tir ac eiddo; cynllunio, dylunio a chodi adeiladau a gweithredu, cynnal a gwella’r ystad bresennol.
 
y gofynion addysg
Y gofynion yn amrywio, o’r hyn sydd ei angen i ddilyn prentisiaeth crefft, i TGAU, GNVQ, NVQ a City & Guilds amrywiol ac i gymwysterau technegol a phroffesiynol (e.e. graddau) i reolwyr. Mae Graddfa Hyfforddai Ystadau ar gael i’r rheini sy’n gymwys i ddilyn cwrs technegol BTEC, City & Guilds ac eraill ac sydd â’r potensial i godi i swydd uwch.
 
hyfforddiant a chymwysterau
Mae’r hyfforddiant sydd ei angen yn amrywio yn ôl y swydd, ond mae’r staff yn cael cyngor i wneud yn siwr bod yr hyfforddiant, y swydd a’r yrfa yn cyfateb. Mae help fel arfer ar gael i ymgeiswyr addas sydd am ennill cymwysterau technegol uwch i ddatblygu’u gyrfa. Gall cyfuno’r profiad yn y Gwasanaeth Iechyd a’r gwaith academaidd, arwain at gymhwyster proffesiynol.
 
mwy o wybodaeth
Ewch at wefan Swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk
 
 
 
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei pharatoi a’i diweddaru’n rheolaidd gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arweiniad ac Arloesedd dros Ofal Iechyd, www.nliah.wales.nhs.uk.
 
Cysylltwch ag nhswalescareers@wales.nhs.uk os oes gennych chi ymholiadau/sylwadau ynghylch y dudalen hon.
 

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 19 Mawrth 2013