![]() |
Adnabod arwyddion strôcDim ond prawf mewn ysbyty gall gadarnhau strôc yn bendant, ond mae’n bwysig gwybod beth yw’r arwyddion. Gall y prawf Wyneb Braich Lleferydd Amser (F.A.S.T.) eich helpu i’w hadnabod ar gyfer strôc neu TIA. Datblygwyd F.A.S.T. gan brif feddygon strôc ac fe’i defnyddir gan y gwasanaethau brys i’w helpu i adnabod yr arwyddion. ![]() Os yw’r person wedi methu unrhyw un o’r profion hyn, ffoniwch 999 am ambiwlans yn syth er mwyn iddynt fynd i’r ysbyty ar gyfer triniaeth frys. Mae parafeddygon a staff ambiwlans wedi’u hyfforddi i asesu cleifion â strôc bosib a mynd â nhw i’r ysbyty yn gyflym. Pam bod diagnosis cyflym yn hollbwysigMae diagnosis cyflym o strôc yn bwysig er mwyn deall yr hyn sydd wedi’i hachosi, y niwed a wnaed a pha driniaeth feddygol frys sydd ei hangen. Dylai cleifion yr amheuir eu bod wedi cael strôc gael sgan o’r ymennydd cyn gynted â phosib er mwyn pennu:
Y cynharaf y bydd rhywun yn derbyn diagnosis, y cynharaf y gellir eu trin a gorau oll yw’r gobaith o oroesi a gwella. Mae diagnosis cyflym o TIA yn caniatáu cymryd camau i leihau’r perygl o gael ail strôc a allai fod yn un ddifrifol.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 22/10/2009 |
|
|