![]() |
![]() |
||
| Mae'r wefan hon wedi cael ei huwchraddio. I gael mynediad i'r safle newydd, ewch i http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/ | |||
|
Maes y Rhaglen: Lleihau Cwympiadau yn y GymunedDolenni cyflym: Adnoddau 1000 o Fywydau a Mwy; adnoddau cyffredinol Trosolwg: Nod y Rhaglen Gydweithredol Amlasiantaeth Cymru ar Leihau Cwympiadau yw cefnogi ymarferwyr a thimau cymunedol i wella gofal i gleifion sydd wedi cwympo. Mae cwympiadau’n un o brif achosion anabledd a marwolaethau ymysg pobl hŷn yn y DU, ac maent yn arwain at gost ddynol sylweddol o ran poen, a cholli hyder ac annibyniaeth. Mae yna hefyd gost ariannol sylweddol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ymdrin â chanlyniadau cwympiadau. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall rhaglen atal cwympiadau arwain at ostyngiad o rhwng 15% a 30% yn nifer y cwympiadau, ac y gall gwasanaethau sydd wedi eu trefnu’n dda, yn seiliedig ar Safonau Cenedlaethol a chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, atal cwympiadau a lleihau marwolaethau ac anableddau yn sgil torri esgyrn. Nod y rhaglen gydweithredol yw lleihau marwolaethau a niwed i oedolion sydd mewn perygl o gwympo eto, drwy ddarparu strwythur ar gyfer alinio a datblygu gwasanaethau cymunedol. Rheolwr y Rhaglen Julie Boyd, Asiant dros Newid, AGAAGI Mae Julie yn nyrs gofrestredig a chanddi 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn gofal iechyd. Mae ei chefndir clinigol wedi bod yn y meysydd gofal critigol ac yn bennaf mewn unedau damweiniau ac achosion brys, gyda rhywfaint o brofiad mewn meddyginiaeth gyffredinol a gofal yr henoed. Mae ei swyddogaethau eraill wedi cynnwys Rheoli gwelyau, Rheolwr Llywodraethu Clinigol, a Rheolwr Canolfan Gyswllt Galw Iechyd Cymru. Mae Julie wedi bod yn rhan o Dîm Asiant dros Newid yn AGAAGI ers mis Mai 2009, gan weithio gydag ystod eang o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac ymarferwyr ledled Cymru, a’u cynorthwyo i wella a datblygu'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Adnoddau 1000 i Fywydau a Mwy Diweddariadau fideo ar waith ym maes cwympiadau o amgylch Cymru (Mehefin 2011) · Tîm Ardal Dwyrain Caerdydd (CELT) – gweithio mewn partneriaeth i leihau cwympiadau · Grŵp Tai Coastal – atal cwympiadau mewn gofal preswyl · Bwrdd Iechyd Addysg Powys - Ysbytai dydd i leihau cwympiadau · Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru- y gost emosiynol ac ariannol Offer a Argymhellir (Noder, mae’r offer uchod ar gael yn Saesneg yn unig) Cyflwyniadau’r rhaglenni cydweithredol bach Adnoddau cyffredinol Gwasanaeth Ansawdd a Gwybodaeth Gofal Sylfaenol. Quality improvement toolkit on the secondary prevention of falls for older adults. (I’w ddefnyddio gan feddygon teulu) Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru. 2006. Adran Iechyd yn Lloegr. Pecyn Atal ar gyfer Pobl Hŷn. (Saesneg yn Unig) Sefydliad Orthopedig Prydain. The care of patients with fragility fracture. 2007. (PDF) Cymdeithas Genedlaethol Osteoporosis. Protecting fragile bones: A strategy to reduce the impact of osteoporosis and fragility fractures in Wales. 2009. (PDF) Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol. Falls: the assessment and prevention of falls in older people. Clinical guideline 21. 2004. Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol. Bisphosphonates (alendronate, etidronate, risedronate), selective oestrogen receptor modulators (raloxifene) and parathyroid hormone (teriparatide) for the secondary prevention of osteoporotic fragility fractures in postmenopausal women. Gwerthusiad Technoleg 87. 2005. Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol. Alendronate (review), etidronate (review), risedronate (review), raloxifene (review) strontium ranelate and teriparatide (review) for the secondary prevention of osteoporotic fragility fractures in postmenopausal women. Gwerthusiad Technoleg 161. 2008. Uned Effeithiolrwydd a Gwerthuso Clinigol Coleg Brenhinol y Ffisgwyr, Llundain. National Audit of Falls and Bone Health for Older People. 2009. Uned Effeithiolrwydd a Gwerthuso Clinigol Coleg Brenhinol y Ffisgwyr, Llundain. National Clinical Audit of Falls and Bone Health in Older People. 2007. Uned Effeithiolrwydd a Gwerthuso Clinigol Coleg Brenhinol y Ffisgwyr, Llundain. National Audit of the Organisation of Services for Falls and Bone Health for Older People. 2009. Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi - Falls audit. Coleg y Therapyddion Galwedigaethol – Falls Management (PDF) Darperir y dolenni allanol hyn er gwybodaeth. Nid yw 1000 o Fywydau a Mwy yn gyfrifol am gynnwys gwefannau neu adnoddau sydd wedi eu cyhoeddi gan sefydliadau eraill. Cyswllt Os hoffech gysylltu â rhywun ynglŷn â’r maes hwn, e-bostiwch 1000 Lives Plus
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 30/07/2011 |
|