Osgoi'r Gwe-lywio
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English

Maes y Rhaglen: Trawsnewid Gofal

 
Trosolwg: Lleihau gwastraff a gwella ansawdd, diogelwch a’r ffocws ar gleifion.
Pan fydd cleifion a’u teuluoedd ynmynd i’r ysbyty, dylent fod yn hyderus y byddant yn cael gofal o ansawdd uchel sydd wedi ei gynllunio ar sail eu hanghenion.
Mae Trawsnewid Gofal yn rhaglen sy’n seiliedig ar y ward sy’n grymuso timau ward i wella ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth maent yn ei ddarparu.
 
Amcanion penodol:
1. Cynyddu’r amser y mae staff gofal iechyd yn ei dreulio yn gofalu’n uniongyrchol am gleifion /rhoi gofal ag iddo werth ychwanegol i 70%
2. Sicrhau gostyngiad o 50% mewn digwyddiadau niweidiol wedi eu diffinio’n lleol
3.Cynyddu boddhad cleifion i o leiaf 95%
4. Cynyddu boddhad staff i o leiaf 95%
 
Adnoddau Cyffredinol:
Cyflwyniad Fideo  i gynnwys y maes hwn (Ymgyrch 1000 o Fywydau)
Sefydliad y GIG
Sefydliad ar gyfer Gwella Gofal Iechyd – Lliniaru’r pwysau ar staff a lleihau niwed
(Mae’r adnoddau uchod ar gael yn Saesneg yn unig)
 
Darperir y dolenni allanol hyn er gwybodaeth. Nid yw 1000 o Fywydau a Mwy yn gyfrifol am gynnwys gwefannau neu adnoddau sydd wedi eu cyhoeddi gan sefydliadau eraill.
 
Rheolwr y Rhaglen:
Cysylltwch â Claire Lloyd yn yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd ar (01443) 233 333.
 
I gysylltu â rhywun sy’n ymwneud â’r maes hwn, e-bostiwch 1000livesplus@wales.nhs.uk
 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 30/07/2011