Osgoi'r Gwe-lywio
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English

Maes y Rhaglen: Dulliau Adnabod Cleifion

Dolenni cyflym: adnoddau
Trosolwg: Nod y rhaglen adnabod cleifion yw cynorthwyo sefydliadau i leihau niwed yn sgil camgymeriadau wrth adnabod cleifion. 
Bydd y Rhaglen Adnabod Cleifion yn gwneud newidiadau a fydd yn gwella diogelwch cleifion ac yn lleihau achosion o niwed drwy wella cywirdeb ac ansawdd y wybodaeth am gleifion. Mae gwybodaeth gywir ac amserol yn ganolog, nid yn unig i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau clinigol ar sail yr holl ffeithiau, ond hefyd er mwyn lleihau gwastraff, amrywiadau a niwed.
Drwy ddwyn ynghyd yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â gofal y claf mewn un lle, bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu gwneud penderfyniadau cywir a hyddysg yn seiliedig ar ddealltwriaeth well o hanes meddygol blaenorol a phresennol y claf. 
 
Bydd y rhaglen yn cyrraedd ei nod drwy ganolbwyntio ar yr ymyriadau canlynol:
·     Defnyddio bandiau arddwrn safonedig â chodau bar arnynt,
·     Sefydlu prosesau cofrestru a chwilio cadarn ar gyfer cleifion mewn sefydliadau, a;
·     Creu cysylltiadau rhwng gwahanol sysytemau clinigol sy’n cadw gwybodaeth glinigol wahanol mewn systemau clinigol gwahanol (gyda chymorth Prif Fynegai Cleifion Mentrau sydd ar gael gan Hysbysu Gofal Iechyd).
 
Adnoddau 1000 o Fywydau a Mwy
 
Cyswllt
I gysylltu â rhywun ynglŷn â’r maes hwn, e-bostiwch 1000 o Fywydau a Mwy


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 19/07/2011