Osgoi'r Gwe-lywio
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English

Cyfres NEWYDD o Seminarau WebEx: Gweithredu Mewn Amgylcheddau Risg Uchel

Dysgwch o ddiwylliant diogelwch hedfan i’r gofod a’i gymhwyso i’ch gweithle gofal iechyd er mwyn lleihau gwallau a gwella perfformiad.

Hoffai 1000 o Fywydau a Mwy eich gwahodd i gyfres o seminarau WebEx yn ystod yr haf gyda Dr Dafydd Williams o Ganada sy’n ofodwr i NASA.
 
Yn ystod tair sesiwn ar-lein arbennig, byddwch yn dysgu o ddiwylliant diogelwch hedfan i’r gofod a’i gymhwyso i’ch gweithle gofal iechyd er mwyn lleihau gwallau a gwella perfformiad. Gallwch ‘fynychu’ fel tîm, ar eich pen eich hun, yn eich swyddfa, neu o’ch cartref! Trefnwch i’ch tîm clinigol fynychu - dim ond cyfrifiadur, taflunydd a ffôn cynadledda sydd ei angen arnoch!
 
Bydd y llinellau archebu ar agor o ddydd Mawrth 31 Mai 2011.
 
E-bostiwch Sarah.Puntoni@wales.nhs.uk heddiw i roi gwybod i ni os hoffech fynychu.

Dydd Mercher 20 Gorffennaf 2011: 4.00-5.00pm
 
Tuag at Systemau Mwy Diogel
 
Yn tynnu ar ei brofiad o ddiwylliant diogelwch yn NASA, bydd Dr Williams yn edrych ar sut i wneud system mor ddiogel â phosibl, a beth y mae angen ei wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.
·     Ffactorau sy’n gysylltiedig â systemau, sut i ddadansoddi ac ailgynllunio systemau i osgoi camgymeriadau.
·     Sut i wneud newidiadau effeithiol i system yn ystod cyfnod o bwysau economaidd.
·     Dysgwch am yr elfennau allweddol i newid system yn effeithiol.  

Dydd Llun 15 Awst 2011: 4.00-5.00pm
 
Deall Arweinyddiaeth, Dilyniaeth a Pherfformiad Tim
 
Gydag enghreifftiau go iawn o’r meysydd gofal iechyd a hedfan i’r gofod, bydd Dr Williams yn egluro sut i greu timau dynamig sy’n canolbwyntio ar lwyddiant. 
·     Ymunwch â thrafodaeth am sgiliau arweinyddiaeth effeithiol. Ydyn ni wedi cael ein geni gyda’r sgiliau hyn ynteu a ydynt nhw’n rhywbeth y gallwn ei ddysgu?
·     Arwain heb ddilynwyr? Dysgwch am bwysigrwydd a pherthynas y ddwy rôl.
·     Dysgwch sut i sicrhau cydbwysedd cadarnhaol ac agored o fewn y tîm a chadw’r cydbwysedd hwnnw.

Dydd Mercher 14 Medi 2011: 4.00-5.00pm
 
Perfformio Hyd Eithaf Eich Gallu
 
Mewn amgylchedd gofal iechyd lle rydych dan bwysau, mae bod ar eich gorau drwy’r amser yn anodd. Wrth gyfeirio at ei hyfforddiant gyda NASA, bydd Dr Williams yn egluro sut i berfformio hyd eithaf eich gallu dro ar ôl tro.
·     Dysgwch beth yw perfformiad o’r radd flaenaf.
·     Dysgwch sut i gynnal perfformiad o’r radd flaenaf heb chwythu’ch plwc.
·     Perfformiwch hyd orau eich gallu mewn amgylchedd dan bwysau

Cyflwyniad i Dr Dafydd Williams
 
Wedi ei eni yn 1954, mae Dr Williams yn Ymgynghorydd Adran Damweiniau ac Achosion Brys,  yn ofodwr ac yn nofiwr tanddwr. Ef yw’r unig berson o Ganada sydd wedi gweithio yn y gofod ac yn y cefnfor, ac mae’n hynod falch o’i dreftadaeth Gymreig (ymfudodd ei dad o Fargoed i Ganada).
 
Gyda drwy radd - un o Montreal ac un o Gaerdydd - cafodd Dr Williams Wobr Gwasanaeth Eithriadol gan NASA, a Medal Arweinyddiaeth Eithriadol NASA.  Ym 1998 roedd yn rhan o griw o saith a gwblhaodd 26 o wahanol arbrofion gwyddor bywyd yn ystod taith 16 niwrnod mewn gwennol ofod.
 
Yn 2007, gwasanaethodd fel arbenigwr taith NASA ar y wennol ofod Endeavour lle y cymerodd ran mewn tair allan o’r pedair taith gerdded yn y gofod.
 
Mae Dr Williams yn Gyfarwyddwr Canolfan McMaster ar gyfer Roboteg Meddygol yng Ngofal Iechyd St. Joseph’s Hamilton, ac yn Athro Llawdriniaeth yn Ysgol Feddygol Michael G. DeGroote.
 
Pum rheswm i beidio â methu’r seminarau WebEx hyn
1.  Gallwch wrando ar brofiadau unigryw clinigwr sydd wedi gweithio yn y gofod.
2.  Gallwch edrych ar rôl arweinyddiaeth a dilyniaeth mewn perthynas â gwella perfformiadau tîm.
3.  Gallwch glywed sut i gyflawni perfformiadau unigol a’u cynnal mewn amgylchedd dan bwysau.
4.  Gallwch ofyn cwestiynau i Dr Williams am yr heriau rydych yn eu hwynebu.
5.  Gallwch wrando ar y sesiynau lle bynnag y mynnoch. ‘Mynychwch’ fel tîm, ar eich pen eich hun, yn eich swyddfa, neu gartref. Mae cymryd rhan yn rhwydd!
 
Beth sydd ei angen arnoch i fynychu sesiwn WebEx
·     Mae WebEx yn wasanaeth rhyngrwyd rhyngweithiol, rhad ac am ddim a fydd yn eich galluogi i glywed a gweld cyflwyniadau Dr Williams. Gellir cael mynediad iddo drwy unrhyw gyfrifiadur, heb fod angen gosodiadau cymhleth.
·     Yr unig beth sydd ei angen arnoch i fynychu yw cyfrifiadur/gliniadur â mynediad i’r we, ffôn neu ffôn â seinydd - os ydych yn trefnu i grŵp ‘fynychu’.
·     Does dim angen teithio! Gallwch osod gliniadur, taflunydd a seinydd yn y gwaith er mwyn mynychu gyda’ch cyd-weithwyr a dysgu gyda’ch gilydd. Neu gallwch fynychu o gysur eich desg eich hun neu o’ch cartref.


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 04/07/2011