Osgoi'r Gwe-lywio
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English

Y Canllaw Gwella Ansawdd: Mesur a Dibynadwyedd

I grynhoi’r adran ddiwethaf, nid oes modd gwneud gwelliannau  heb ddulliau mesur.
·        Ni allwn roi cynnig ar ateb nes i ni ddeall y broblem.
·        Ni allwn brofi ateb oni fyddwn yn mesur ei effaith.
 
Astudiwch y system i weld pa gam sy’n cynnig y gwerth mwyaf. Defnyddiwch daenlen i gyfrif pob elfen hollbwysig o’r broses. Fel arall, defnyddiwch ddull o ‘fapio proses’, sy’n troi proses yn ddiagram gweledol, cam wrth gam, neu archwiliadau presennol neu adroddiadau diweddar.
 
Fodd bynnag, cofiwch fod archwiliadau ac adroddiadau yn debygol o astudio darnau bach o’r wybodaeth sydd ar gael a gallant fod yn anghywir. Am y rhesymau hyn, gallant arwain at gasgliadau ffug. Nid oes dim sy’n well nag edrych ar y system yn bersonol, gweld o le y daw’r dulliau mesur a sut y cânt eu defnyddio.
 
Sut rydym yn mesur
Mae’r diagram ar y dudalen nesaf, ‘Saith cam y broses fesur’ yn dangos y broses gyfan.
 
 
 
Soniwyd eisoes am y tri cham cyntaf yn adrannau  blaenorol y canllaw hwn. Trafodir ‘Penderfynu ar y nod’ (cam 1) dan ‘Beth rydym yn ceisio ei gyflawni?’, a thrafodir camau 2 a 3 yn ‘Dod o hyd i ddull o fesur canlyniad.’
 
Mae camau 4 i 6 yn creu’r cylch ‘Casglu-Dadansoddi-Adolygu’. I ddechrau dylech gasglu gwybodaeth (cam 4), yna ei dadansoddi a’i chyflwyno mewn ffordd sy’n briodol er mwyn ei throi’n wybodaeth ddefnyddiol (cam 5) ac yn olaf adolygu’r wybodaeth i weld pa benderfyniadau y mae angen eu gwneud (cam 6). Yna mae’r cylch Casglu-Dadansoddi-Adolygu yn dechrau eto (cam 7).
 
Saith cam y broses fesur
 
<>
 
1 Penderfynu ar y nod
2 Dewis mesurau
3 Diffinio mesurau
4 Casglu data
5 Dadansoddi a chyflwyno
6 Adolygu’r mesurau
7 Ailadrodd camau 4-6
 
Bydd y cylch casglu-dadansoddi-adolygu cyntaf yn darparu ‘llinell sylfaen’ o berfformiad cyfredol (y man cychwyn). Os byddwch yn casglu gwybodaeth tua 20 i 25 o weithiau ac yn nodi’r canlyniadau ar siart, bydd hyn yn darparu’r nifer delfrydol o bwyntiau i greu llinell sylfaen neu i nodi tuedd. Un ffordd o gael rhagor o bwyntiau yw mesur yn amlach.
 
Yn aml nid yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn cael ei chasglu. Felly, dechreuwch gasglu eich gwybodaeth ar unwaith. Ond  nid oes rhaid i ni aros cyn dechrau gwneud newidiadau  bach. Ni fyddant yn effeithio ar y sefyllfa gyffredinol o ran creu’r llinell sylfaen.
Mae defnyddio ‘siartiau dilyniant’ yn ffordd syml o helpu i ddadansoddi gwybodaeth, a bydd siart rheoli proses ystadegol yn eich helpu i edrych ar eich gwybodaeth a deall unrhyw amrywiad yn y broses yr ydych am wneud gwelliannau iddi. Mae ‘plotio’r pwyntiau’ hefyd yn effeithiol iawn oherwydd mae’n eich helpu i weld y tueddiadau a’r patrymau.
 
Pa mor aml y mesurir - ac yn aml mesurir yn wythnosol yma - yw’r ffactor sy’n gwneud gwahaniaeth mawr rhwng mesur er mwyn gwneud gwelliannau a ffurfiau mwy traddodiadol o fesur.
 
Yn draddodiadol, caiff y ffigurau eu hunioni er mwyn amlygu’r ‘duedd sylfaenol’ drwy edrych ar gyfartaledd y cyfnod. Mae problem yn codi pan gymerir y cyfartaledd blaenorol gyda’r cyfartaledd presennol er mwyn gweld a fu gwelliant. Mae cymharu dau rif gan wybod y bydd un yn fwy na’r llall yn rhoi siawns o 50% y bydd y canlyniad yn well (neu’n waeth)! Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, mae rheolau’n gysylltiedig â siartiau dilyniant a siartiau rheoli proses ystadegol sy’n rhoi hyder i rywun pan welir newid ei fod yn newid go iawn.
 
Yn olaf, mae cam 6 yn ein hatgoffa ei bod yn hollbwysig neilltuo amser i edrych ar yr hyn y mae’r mesurau’n ei ddweud wrthym. Mae pa mor aml y caiff y wybodaeth ei chasglu, ei dadansoddi a’i hadolygu yn pennu’r cyflymder ar gyfer cyflwyno newid.
 
Pan fyddwn yn anelu at wella ansawdd, mae’n bwysig bod y broses fesur yn deg ac agored. Fodd bynnag, os yw pobl yn credu y bydd eu mesur yn cael ei ddefnyddio i’w beirniadu, yna byddant yn amharod i gasglu gwybodaeth.
 
Mae tri phrif reswm dros gasglu gwybodaeth:
  • gwelliannau – i helpu i ddarganfod ffyrdd o wella;
  • atebolrwydd – i ddwyn pobl i gyfrif a sicrhau eu bod yn gweithio i safon dderbyniol;
  • ymchwil – er mwyn darganfod rhywbeth newydd.
Mae ffigur 3 yn dangos sut y bydd y ffordd o fesur pethau yn newid, yn dibynnu ar gyfer beth y defnyddir y mesur. (Solberg et al, 1997 wedi’i addasu)
 
 
Gwelliannau
Atebolrwydd
Ymchwil
Nod
Gwella gofal
Cymharu, dewis, sicrwydd
Gwybodaeth newydd
Dull o brofi
Profion dilyniannol bach
Dim profion – dim ond gwerthuso perfformiad
Un prawf mawr wedi’i gynllunio’n ofalus
Gogwydd barn
Derbyn gogwydd barn cyson
Addasu’r hyn rydych yn ei gasglu i leihau gogwydd barn
Cynllunio i ddileu gogwydd barn
Maint y sampl
Samplau bach dilyniannol
Sampl mawr o bosibl – angen casglu’r holl wybodaeth berthnasol
Mawr – angen gwybodaeth i gwmpasu pob sefyllfa
Hyblygrwydd rhagdybiaeth
Rhagdybiaeth yn sgil yr hyn a ddysgir
Dim rhagdybiaeth
Rhagdybiaeth sefydlog
Math o ddadansoddiad a chyflwyniad
Siartiau dilyniant neu siartiau rheoli proses ystadegol
Tablau cynghrair, cyflawni targed
Profion ystadegol traddodiadol
Cyfrinachedd y wybodaeth
Gwybodaeth i’w defnyddio gan y rhai sy’n ymwneud â’r prosiect gwella yn unig
Gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd
Canlyniadau ar gael yn eang ond y bobl a gymerodd ran yn yr ymchwil yn ddienw
 

Mae mesurau cyson hefyd yn ein galluogi i gyfrifo dibynadwyedd: sawl gwaith y gwnaethon ni’r hyn a fwriadwyd fel cyfran o gyfanswm y cynigion? Er enghraifft, os oes gennym brotocol ar gyfer sgrinio pob claf a dderbynnir i’r ysbyty, pa gyfran a sgriniwyd o blith y cyfanswm? Pan fyddwn yn ceisio gwneud dau beth mewn proses, mae dibynadwyedd yn mynd anos. Pa gyfran o’r rhai a sgriniwyd a gafodd yr ymyriad dilynol? Os yw’r ddau gam 80% yn ddibynadwy, yna 64% yw dibynadwyedd y broses (80% o 80%).
 
Yn nodweddiadol, pan fyddwn yn mesur dibynadwyedd am y tro cyntaf, mae’r canlyniadau’n siomedig. Mae 80% yn nodweddiadol ar gyfer un cam: llai na 50% ar gyfer bwndeli o gamau lle mae cyswllt rhwng pedwar cam neu fwy.
 
Yn aml mae’n bosibl cyrraedd dibynadwyedd o 95% ar gyfer camau unigol drwy roi hyfforddiant, cymhorthion cof a nodiadau atgoffa awtomatig er enghraifft i weithredwyr sy’n fodau dynol. Os oes angen cyfran uwch o ddibynadwyedd neu os nad yw’r newidiadau hyn yn sicrhau dibynadwyedd o 95%, mae angen ailgynllunio’r system ei hun. Dylunio yw’r offeryn gorau ar gyfrer sicrhau dibynadwyedd.
 
I gael rhagor o wybodaeth am fesur a dibynadwyedd, mae canllaw ‘Sut i Wella’ a gyhoeddwyd gan 1000 o Fywydau a Mwy yn trafod hyn yn fanylach.
 
 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 14/04/2011