![]() |
![]() |
||
| Mae'r wefan hon wedi cael ei huwchraddio. I gael mynediad i'r safle newydd, ewch i http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/ | |||
|
Ceisio Ansawdd – dydd Mercher 13 Ionawr 2010Caerdydd - Theatr Reardon Smith, yr Amgueddfa Genedlaethol Yn dechrau gyda lluniaeth ysgafn am 5.30pm; gorffen am 7.30pm Mae Uned Gwella Gofal Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Genedlaethol er Diogelwch Cleifion, yn cyflwyno’r cyntaf mewn cyfres o seminarau Gwella Gofal Iechyd. Fe’ch gwahoddir i wrando ar arbenigwyr blaenllaw mewn gwelliant wrth iddynt gyflwyno maniffesto ysbrydoledig er newid yn y ffordd yr ydym yn cyflawni gofal iechyd: Yr Athro Donald M. Berwick KBE, Llywydd a PSG, yr Athrofa er Gwella Gofal Iechyd, Boston Syr Ian Carruthers OBE, Prif Weithredwr Awdurdod Iechyd Strategol y De Orllewin Mr Gerry Marr, Prif Swyddogol Gweithredol Gwasanaethau Gofal Aciwt a Sylfaenol Integredig yn Tayside, yr Alban Cadeirydd yr Athro Mansel Aylward CB, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru “Mae’n rhaid i ni lwyddo ym mhob un o’r tri maes – gwastraff, niwed, amrywiad – cyn i ni ddechrau trafod dogni gofal iechyd.” Gerry MarrYn ystod y digwyddiad hwn gyda’r nos, cewch wybod…
Pwy ddylai fynychu?
“Gwnewch ‘gwelliant yn strategaeth' – mae hyn yn nodwedd y cwmnïau gorau.” Don BerwickYn y seminar carreg filltir hwn, byddwch yn clywed sut y bydd cyflawni ansawdd mewn gofal iechyd yn galluogi’r GIG yng Nghymru i yrru nodai allweddol y Cynllun Gwasanaeth 5 Mlynedd, Gweithlu ac Ariannol i GIG Cymru. Bydd y panelwyr yn cyflwyno astudiaethau achos bywyd go iawn o sut mae ansawdd wedi’i gyflawni mewn systemau gofal iechyd o gwmpas y byd, a dangos sut fydd ceisio ansawdd yn fuddiol i bawb sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru, ac yn cael eu gwasanaethu ganddo, wrth iddynt fynd i’r afael â:
I weld y llyfryn cliciwch yma Cymerwch ran yn y drafodaeth drwy ebostio eich cwestiwn i’r panel heddiw. Cadwch eich lle - drwy archebu arlein heddiw!Sylwer: Gellid ffilmio’r digwyddiad hwn a thynnu lluniau o’r gynulleidfa a’r siaradwr. Os nad ydych yn fodlon ar hyn, soniwch wrth gofrestru. Cefnogir y seminar Gwella Gofal Iechyd gan yr Ymgyrch 1000 o Fywydau
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 15/12/2009 |
|