![]() |
![]() |
||
| Mae'r wefan hon wedi cael ei huwchraddio. I gael mynediad i'r safle newydd, ewch i http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/ | |||
|
Addo cefnogaeth i’r YmgyrchMae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i’r Ymgyrch drwy ansio mur addewidion arbennig. ![]() Gofynnir i staff, cleifion ac ymwelwyr lofnodi bricsen fel addewid i chwarae rhan bersonol yn y gwaith o sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn bodloni amcanion yr Ymgyrch. Mae’r mur, sy’n mesur 8 x 8 troedfedd, wrthi’n cael ei hadeiladu yng nghyntedd Ysbyty Gwynedd, Bangor, gyda briciau newydd yn cael eu hychwanegu wrth iddynt gael eu llofnodi. Y nod yw cwblhau’r mur gyda 1000 o friciau – i gynrychioli nifer y bywydau y mae’r Ymgyrch yn gobeithio eu hachub. Rhoddir taflen yn esbonio nodau’r Ymgyrch i bawb sydd am lofnodi bricsen. Meddai Uwch Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwella Gwasanaethau, Craig Barton, “Mae’r syniad arloesol hwn wedi ein helpu i roi bywyd newydd yn yr ymgyrch o fewn yr Ymddiriedolaeth ar ôl yr achlysur lansio cychwynnol. Mae’n ffordd syml ond effeithiol o ddangos ein hundod o ran ceisio gwella diogelwch cleifion ac ansawdd. Caption for photo: Craig Barton, Uwch Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwella Gwasanaeth ac Elfed Roberts, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yn lansio’r mur addewidion
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 26/01/2009 |
|