![]() |
![]() |
||
| Mae'r wefan hon wedi cael ei huwchraddio. I gael mynediad i'r safle newydd, ewch i http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/ | |||
|
Mr Hamish Laing BSc (Anrh) MB BS FRCS(Plst)Hamish Laing BSc (Anrh) MB BS FRCS (Plast) Lleihau Cymhlethdodau Llawfeddygol a Lleihau safle datblygu Briwiau GwasgeddMae Hamish yn Llawfeddyg Cosmetig ac Adlunio Ymgynghorol yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Gosmetig Cymru, ac mae wedi ei leoli yn Abertawe. Mae hefyd yn Ymgynghorydd sy’n ymweld ag Ymddiriedolaethau GIG Caerdydd a’r Fro a Gwent. Cymhwysodd yn Ysbyty King’s College ym 1984, a chafodd brofiad o amrywiaeth o unedau ac arbenigeddau llawfeddygol, yn cynnwys Ysbytai Royal Marsden a Great Ormond Street, cyn arbenigo mewn Llawfeddygaeth Gosmetig ac Adlunio. Cafodd BSc dosbarth cyntaf mewn Ffisioleg ac MB BS ym Mhrifysgol Llundain. Mae’n gymrodor Coleg Brenhinol Meddygon Lloegr, ac ef yw deiliad yr FRCS rhyng-golegol mewn Llawfeddygaeth Gosmetig, FRCS (Plast). Hamish yw Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt (Gwella Perfformiad) Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol ABM, mae’n gynghorydd i Gomisiwn Iechyd Cymru, cynrychiolodd Lywodraeth Cynulliad Cymru yn yr Asiantaeth Moderneiddio’r GIG a chadeiriodd bwyllgor gwaith sy’n cynhyrchu arweiniad i gomisiynwyr ynghylch gweithdrefnau blaenoriaeth isel mewn llawfeddygaeth gosmetig yn 2005. Trwy ei waith gydag MA y GIG, mae Hamish wedi sefydlu cydweithrediaeth gyffrous a thra effeithiol gyda chydweithwyr ym maes gofal clwyfau a pheirianneg feddygol i greu PUPIS (Gwasanaeth Atal ac Ymyrraeth Briwiau Gwasgedd).
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 12/03/2009 |
|