Staff
Staff
Nid yw hon yn Bartneriaeth Gyfyngedig
Mae Tîm y Feddygfa’n cynnwys:
Dr Mark Walker MBCLB MRCGP
Dr Nefyn Williams PhD MRCGP FLCOM
Dr Cath Hughes MBBS
Dr Sally Dougherty MRCGP Dr Louise Lomax MB ChB
Mrs Jayne Westmoreland yw Rheolwr y Feddygfa ac mae hi’n gyfrifol am gynnal y Feddygfa o ddydd i ddydd ac mae’n hapus i helpu gydag unrhyw faterion. Mae’n derbyn cymorth Mrs Cindy Dean-Knowles.
Mae’r tîm nyrsio’n cynnwys Mrs Maria Evans, Carole Pye a Mrs Nicky Whiting. Gofynnwch i’r croesawydd am fanylion. Mae’r cyfan yn gweithio’n rhan amser, ond gyda’i gilydd yn cynnig apwyntiadau rhwng 9.00am - 6.00pm. Maent yn cynnal nifer o glinigau hefyd (gweler yr uchod am fanylion). Cefnogir gan Mrs Jane Tomlinson, Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd a Ms Lynne Roberts y Fflebotomydd ar gyfer profion gwaed.
Mae gennym ddau safle, ond rydym yn ceisio gweithio fel un uned, rhennir gwybodaeth rhwng y safleoedd ar y cyfrifiadur. Rydym yn hapus i gleifion fynd i unrhyw safle os byddant yn dymuno gweld meddyg arbennig. Rydym yn cyfrannu at hyfforddi meddygon iau. Rydym yn derbyn meddygon iau, sydd wedi cwblhau astudiaethau sylfaenol ac sy’n derbyn amryw o swyddi meddygol gyda rhywfaint o oruchwyliaeth a hyfforddiant. Hefyd, mae gennym Fyfyrwyr Meddygol yn atodedig yn achlysurol. Yn achlysurol, gofynnir i chi weld Meddyg Locwm sy’n hysbys i’r Feddygfa ac sy’n helpu i gynnal ein gwasanaeth i chi.
Ymddygiad ymosodol tuag at staff
Yn unol â gweddill y GIG, gweithredir polisi Dim Goddefgarwch ar gyfer unrhyw gamdriniaeth gorfforol neu ar lafar tuag at staff. Bydd unrhyw ddigwyddiad yr adroddir amdano gan staff yn cael ei ymchwilio’n llawn ac mae’n bosibl y gofynnir i’r unigolyn dan sylw adael rhestr y Feddygfa. Mae’r Partneriaid yn teimlo’n gryf am y mater hwn a byddant yn cefnogi’r tîm.
Diweddarwyd ddiwethaf: 24/10/2006
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
13/10/2010