Plas Menai Surgery - Tudalen Hafan Plas Menai Surgery - Tudalen Hafan
.... darparir y wefan gan HOWIS 
 

Oriau a Gwasanaethau’r Feddygfa

Oriau’r Feddygfa a Gwasanaethau
 
Rydym yn ateb y ffôn rhwng 8.30am a 6.00pm ar ddyddiau’r wythnos, ond ynghau rhwng 1-2pm. Y tu allan i’r oriau hyn, mae gwasanaeth brys ar gyfer problemau difrifol sy’n methu aros tan y bore wedyn, a leolir mewn Canolfan Allan o Oriau a leolir yn Ysbyty Gwynedd. Gellir cael mynediad dros y ffôn a gallwch dderbyn cyngor (gan feddyg neu nyrs) neu gofynnir i chi fynd i’r ganolfan. Hysbysir y feddygfa am unrhyw gysylltiadau brys y bore wedyn trwy ffacs diogel. 
 
Ar gyfer argyfyngau difrifol, deialwch 999 am ambiwlans. 
 
NHS DIRECT - 0845 46 47
Cynhelir meddygfeydd bob bore yn ystod dyddiau’r wythnos rhwng 9.00am a 12.00 canol dydd ac yn y prynhawn rydym yn cynnig sesiynau buan a/neu hwyr tan 5.30pm.
Gall y meddygon, nyrsys a’r clinig sydd ar gael amrywio, ond bydd y croesawyr yn hapus i’ch cynghori.
Asthma, Diabetes a Chalon Iach
Cyn geni, Datblygu Iechyd Plant
Seitoleg Serfigol, Iechyd Rhywiol
Imiwneiddiadau Teithio, Clinig Arddegau
Imiwneiddiadau Oedolion a Phlant 
Mân lawdriniaethau/Cautery/Nitrogen hylif
Osteopathi, Profion Meddygol Preifat
 
I gael gwybodaeth am wasanaethau eraill, gallwch gysylltu â
Bwrdd Iechyd Lleol Conwy
Parc y Tywysog, Rhodfa’r Tywysog
Bae Colwyn   LL29 8PL
Ffôn: 01492 536586
 
Gan gydweithio gyda ni, rydym hefyd yn ffodus o gael y Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd canlynol:
 
Nyrsys Ardal, Ymwelwyr Iechyd, Bydwraig
Aseswyr Gofal Cymdeithasol
Nyrs Seiciatreg y Gymuned
Dietegydd, Cynghorydd Fferyllol BILl


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 12/01/2007