Gofal Sylfaenol
Nodau
Gofal Sylfaenol yw lle mae mwyafrif y cysylltiadau â chleifion yn digwydd, a bydd yn chwarae rôl gynyddol yng ngofal cleifion â chyflyrau tymor hir (fel arthritis, asthma a chlefyd y galon) ac atal clefydau a diagnosis cynnar.
Prif nod y Tîm Gofal Sylfaenol yw cynyddu nifer y cleifion sy’n cael eu recriwtio neu eu cynnwys mewn treialon clinigol, ac astudiaethau gofal sylfaenol eraill sydd wedi cael eu cynllunio’n dda. Bydd y tîm yn dod ag amrywiaeth eang o ymarferwyr gofal sylfaenol at ei gilydd, gan gynnwys meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac ymwelwyr iechyd, a bydd yn cynnig bod cleifion mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn astudiaethau clinigol o ansawdd uchel sy’n ymwneud ag arloesiadau mewn atal, diagnosis, trin a chyflwyno gofal iechyd yn y gymuned.
Y Tîm Gofal Sylfaenol
Mae’r Tîm Gofal Sylfaenol yn rhan o Rwydwaith Ymchwil NISCHR CRC ac mae’n cynnwys gweithwyr ymchwil proffesiynol sy’n ymroddedig i gynorthwyo portffolio ymchwil NISCHR. Mae’r astudiaethau a gynorthwyir yn cynnwys prosiectau gofal sylfaenol penodol yn ogystal ag ymchwil i feysydd clefydau arbenigol.
Cymorth
Gall y Tîm Gofal Sylfaenol ddarparu amrywiaeth o gymorth i ymchwilwyr, sydd yn amrywio o brosiect i brosiect. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith clinigwyr, cyfranogwyr posibl ac ymchwilwyr
- Cysylltu â thimau iechyd a gofal cymdeithasol lleol ac ymweld â chlinigau i recriwtio ymchwilwyr a chydweithwyr newydd
- Amlygu cyfranogwyr ymchwil posibl trwy chwilio cronfeydd data, sgrinio nodiadau a chyswllt uniongyrchol â chlinigwyr ac ymarferwyr
- Sgrinio a gwirio cymhwysedd
- Cynnal asesiadau ac apwyntiadau dilynol
- Cymryd samplau (tynnu gwaed)
- Sicrhau bod gan gyfranogwyr posibl ddigon o wybodaeth am astudiaeth i wneud penderfyniad gyfan gwbl hysbys ynglŷn â chymryd rhan ai peidio
- Recriwtio cyfranogwyr
- Cyfathrebu, rhoi gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys lledaenu canlyniadau
- Gweinyddu ymchwil a sicrhau bod yr ymchwil yn cydymffurfio â gofynion rheoli a llywodraethu ymchwil, a gofynion moesegol ac ICH-GCP.
Astudiaethau
Am fanylion ynglŷn ag astudiaethau Gofal Sylfaenol,
cliciwch yma.
Dolenni Defnyddiol
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
15/05/2012