Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Canolfan Ymchwil Clinigol
 

Portffolio a Gweithgarwch

Mae NISCHR CRC yn credu y dylai cleifion a defnyddwyr gwasanaethau allu elwa ar astudiaethau ymchwil perthnasol, o ansawdd uchel.

 
 

Beth yw Portffolio Ymchwil Clinigol NISCHR?

 
Cofrestr o astudiaethau ymchwil iechyd a gomal cymdeithasol o ansawdd uchel yng Nghymru sy’n cwrdd â meini prawf cymhwysedd penodol. Mae cofrestru ar Bortffolio Ymchwil Clinigol NISCHR yn allweddol i gael costau cymorth y GIG gan Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol sy’n ganolog i ddyrannu adnoddau NISCHR CRC:
 
 
Mae Portffolio Ymchwil Clinigol NISCHR hefyd yn codi proffil ymchwil yng Nghymru. Bydd yr holl astudiaethau yn ymddangos ar gronfa ddata Rhwydwaith Ymchwil Clinigol y DU (UKCRN), gan godi’r ymwybyddiaeth am weithgaredd ymchwil yng Nghymru ym myd diwydiant ac ymysg cydweithwyr posibl ar draws y DU.
 

Pa astudiaethau y gellir eu cofrestru ar Bortffolio Ymchwil Clinigol NISCHR?

 
Astudiaethau sydd:
  • yn cynnwys cyswllt wyneb yn wyneb gyda chleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol neu bobl sy’n ymwneud â’u gofal;
  • yn cael eu hariannu drwy lif ariannu cystadleuol cenedlaethol, agored a adolygir gan gymheiriaid;
  • â chwestiwn/damcaniaeth ymchwil;
  • yn cael eu harwain a/neu’n recriwtio cyfranogwyr o Gymru.

 

Sut gallaf ychwanegu fy astudiaeth at Bortffolio Ymchwil Clinigol NISCHR?

 
Os yw eich astudiaeth yn cael ei hariannu gan lif ariannu cymwys, llenwch ffurflen gofrestru astudiaeth gychwynnol NISCHR a’i hanfon gyda phrotocol astudiaeth at portfolio@wales.nhs.uk
 
Os yw eich astudiaeth wedi cael ei hariannu ond nid gan ariannwr cymwys, gellir ei hystyried ar gyfer cael ei mabwysiadu ar y portffolio. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol i’r tîm portffolio (portfolio@wales.nhs.uk)
 
  • protocol yr astudiaeth
  • sylwadau adolygu cymheiriaid (gan ddau adolygydd annibynnol, arbenigol), eich ymateb i’r sylwadau adolygu cymheiriaid, a’r arianwyr yn derbyn yr astudiaeth yn y pen draw.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch Dogfen Cymhwyster Portffolio NISCHR
 
 

Gweithio ar draws y DU

Nid yw astudiaethau a gaiff eu derbyn i Bortffolio Ymchwil Clinigol SCYGCI yn gymwys yn awtomatig ar gyfer portffolios y Gwledydd Cartref eraill.

Er mwyn cael eich derbyn ar y portffolio SCYI yn Lloegr bydd angen i chi gyflwyno eich astudiaeth drwy System Gydlynol SCYI ar gyfer cael Caniatâd y GIG (CSP SCYI).

Fodd bynnag, os rhowch wybod i’r Tîm Gwybodaeth a Phortffolios eich bod yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer eich mabwysiadu i bortffolio’r Gwledydd Cartref eraill, byddwn yn helpu i hwyluso hyn. Cysylltwch â portfolio@wales.nhs.uk

 

Llwytho dogfennau recriwtio i fyny

Mae gofyn i bob astudiaeth ar  bortffolio NISCHR lanlwytho eu data recriwtio i gronfa ddata UKCRN yn fisol. Am fwy o wybodaeth ar y broses, ewch i http://www.crncc.nihr.ac.uk/about_us/processes/portfolio/p_recruitment  neu cysylltwch â thîm gwybodaeth NISCHR CRC ar portfolio@wales.nhs.uk 

 

Rhagor o wybodaeth

 
Am fwy o wybodaeth a chyngor ar Bortffolio NISCHR, cysylltwch â: portfolio@wales.nhs.uk


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 02/10/2012