Osgoi'r Gwe-lywio
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English
 

Cymru a’i Byrddau Iechyd Lleol: Proffil Demograffeg

 

Cyflwyniad                                     

Poblogaeth

            Amcanestyniadau newid yn y boblogaeth                 

            Poblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig 

            Genedigaethau                                        

    • Disgwyliad oes

    • Amddifadedd                                             

    • Anabledd a gofalwyr

    • Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain               

    • Marwolaethau

 

            Cyfarwyddiadau ar sut i we-lywio a defnyddio offer y proffil demograffeg

 

 

Eglurhad:

 

Lle gwelir yr eiconau hyn wrth ymyl testun, bydd clicio arnynt yn mynd â chi at wybodaeth bellach
 

Data gyda sylwebaeth  Data gyda sylwebaeth        Geirfa   Geirfa                   Dulliau a nodiadau   Dulliau a nodiadau            

Mapiau Iechyd Cymru  Mapiau Iechyd Cymru          Adnoddau ychwanegol Adnoddau ychwanegol

 

  

   Cyflwyniad

Mae gan Gymru, sy’n cwmpasu arwynebedd o 20,780 km sgwâr, saith o fyrddau iechyd lleol (BILl) amrywiol. Mae ffiniau BILl yn disgrifio ardaloedd y mae eu maint daearyddol yn amrywio o dan 500 km sgwâr, yn achos BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i dros 6,000 km sgwâr yn achos BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 
Mae ardaloedd mwy trefol ac ôl-ddiwydiannol deheuol a dwyreiniol Cymru, sy’n cynnwys BILlau Aneurin Bevan, Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cynnwys 60 y cant o boblogaeth Cymru, ond dim ond 17% o arwynebedd Cymru yw’r ardaloedd hynny. Mewn cyferbyniad, ardaloedd mwy gwledig yn bennaf a geir yn BILlau  Addysgu Powys, Prifysgol Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.

Map rhyngweithiol o’r ardal         

Gellir defnyddio Mapiau Iechyd Cymru i weld lleoliad ysbytai acíwt yn ogystal â ffiniau BILl, awdurdodau lleol (neu unedol). Cyflwynir dadansoddiadau ar lefel ardal fach ar gyfer nifer o ddangosyddion, gan gynnwys ardal cynnyrch ehangach haen uwch (USOA), ardal cynnyrch ehangach haen ganolig (MSOA) ac ardal cynnyrch ehangach haen is (LSOA).

Geirfa  Adnoddau ychwanegol  Mapiau Iechyd Cymru

 

 

 

 

 

Maint ardal

Cilomedrau Sgwâr,

2007          

 

Dulliau a nodiadau  Adnoddau ychwanegol 

Cymru

  BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a'r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

DU

20,780

6,172

5,196

5,781

1,071

471

535

1,553

244,168

           

 

   Poblogaeth

Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn

Cynhyrchir amcangyfrifon poblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), ac maent yn ystyried genedigaethau, marwolaethau, ac amcangyfrif o fudo rhwng y cyfrifiad diwethaf a chanol y flwyddyn gyfredol. [1]

Amcangyfrifir mai poblogaeth Cymru oedd 2.98 miliwn yn 2007. Ar lefel ardal Bwrdd Iechyd Lleol (BILl), mae poblogaethau’n amrywio o 132 o filoedd yn BILl Powys i 679 o filoedd yn BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Amcangyfrifon Poblogaeth  Canol Blwyddyn

Miloedd, 2007

 

Geirfa  Dulliau a nodiadau  Adnoddau ychwanegol  Mapiau Iechyd Cymru

Data gyda sylwebaeth, Excel (1.5 MB)

Cymru

  BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro 

  BILl Cwm Taf 

  BILl Aneurin Bevan

DU

2,980.0

678.5

132.0

375.2

499.4

445.0

289.4

560.5

60,975.0

Cyfeiriadau

1. Ystadegau Gwladol. Population estimates. A short guide to population estimates. Llundain:SYG; 2004  Ar gael yn: http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_population/Short_Guide_revision_Nov_04_final.pdf [mynediad 2 Mehefin 2009]

 

Poblogaethau Cofrestredig

Mae rhyw 3,119,700 o unigolion sydd â’u preswylfan yng Nghymru wedi cofrestru gyda meddygfa deulu yng Nghymru; mae 20,200 arall o unigolion sydd â’u preswylfan yn Lloegr wedi cofrestru gyda meddygfeydd teulu yng Nghymru hefyd. Mae rhagor o wybodaeth a sylwadaeth ar gael yn:

http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-page.cfm?orgid=568&pid=38926

Dwysedd Poblogaeth

Mae dwysedd poblogaeth yn rhoi mesur o nifer y bobl sy’n byw mewn ardal. Fe’i cyfrifir trwy rannu’r boblogaeth yn ôl yr ardal ddaearyddol mewn cilomedrau sgwâr. Mae dwysedd poblogaeth yn uwch mewn ardaloedd trefol, ac yn is mewn ardaloedd gwledig.

Mae gan Gymru, sy’n cwmpasu arwynebedd o 20,780 km sgwâr, ac â phoblogaeth, yn 2007, o ryw 2.98 miliwn, ddwysedd poblogaeth o 143 o bobl fesul cilomedr sgwâr. Mae Parciau Cenedlaethol dros 20 y cant o’r arwynebedd tir. Ar lefel ardal Byrddau Iechyd Lleol (BILlau), mae dwysedd y boblogaeth yn amrywio o 25 o bobl yn unig fesul cilomedr sgwâr yn BILl mwy gwledig, a phrin ei boblogaeth Addysgu Powys, i dros 900 o bobl fesul cilomedr sgwâr yn BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn bennaf oherwydd prifddinas Cymru, Caerdydd.

Dwysedd Poblogaeth

Pobl fesul cilomedr sgwâr,

 2007

 

  Geirfa  Dulliau a nodiadau   Adnoddau ychwanegol  Mapiau Iechyd Cymru

Cymru

BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

DU

 

 143.4

109.9

25.4

64.9

466.3

944.8

540.8

360.9

251.0

 

   Amcanestyniadau newid yn y boblogaeth

Mae amcanestyniadau poblogaeth wedi’u seilio ar ragdybiaethau; maent yn dangos beth allai ddigwydd pe bai tueddiadau diweddar o ran genedigaethau, marwolaethau a niferoedd yn mudo yn parhau. [1]

Mae amcanestyniadau cyfredol yn gweld cynnydd ym mhoblogaeth hŷn (75 oed a hŷn) trigolion Cymru, o 252,000 (9 y cant o’r boblogaeth gyfan) yn 2006 i 452,000 (14 y cant o’r boblogaeth gyfan) yn 2031. Mae’r cynnydd cymharol yn uwch mewn rhai ardaloedd gwledig, fel Powys, ac yn is mewn ardaloedd mwy trefol, yn enwedig Caerdydd. Mae’r cynnydd yn nifer y bobl hŷn yn debygol o achosi cynnydd mewn cyflyrau cronig, fel clefydau cylchredol a chlefydau resbiradol, a chanserau. Bydd diwallu anghenion yr unigolion hyn yn her allweddol i’r byrddau iechyd lleol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, bydd y cynnydd cymharol (ac absoliwt) yn y boblogaeth sy’n ddibynnol yn economaidd, ac, mewn rhai achosion, poblogaethau sy’n ddibynnol ar ofal, yn creu heriau penodol i gymunedau.

 

 

 

 

 

 

 

 

Nifer

 

 

% newid

Amcanestyniadau poblogaeth

Cynnydd/gostyngiad rhagamcanol yng nghyfanswm y boblogaeth o 2006 i 2031

 

Geirfa  Dulliau a nodiadau   Adnoddau ychwanegol  Data gyda sylwebaeth,  Excel (668 KB)

Cymru

  BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro 

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

UK

 330,000

75,900

23,100

63,600

79,000

101,400

19,500  

50,200  

10,500,000

 (+11.1%)

(+11.2%)

(+17.6%)

(+17.1%)

(+15.9%)

(+23.0%)

(+6.7%)

(+9.0%)

(+17.4%)

Cyfeiriadau

1. Welsh Assembly Government. Local Authority Population Projections for Wales (2006-based): Summary Report. Caerdydd: LlCC; 2008.  Ar gael yn: http://new.wales.gov.uk/statsdocs/population/popproj08/popprojsum08e.pdf [mynediad  19th Mai 2009]   

         

   Poblogaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

Mae gan bob sefydliad GIG ddyletswydd statudol i hyrwyddo cydraddoldeb hil.  Nid yn unig y gall ethnigrwydd adlewyrchu anghenion penodol o ran iaith a diwylliant, ond o ran anghenion iechyd yn ogystal. Mae pobl o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn fwy tebygol o ddod o deuluoedd incwm isel, o ddioddef amodau byw salach, ac o ennill cymwysterau addysgol lefelau is o gymharu â phoblogaethau gwyn.  [1] Yn ogystal, mae gan rai grwpiau BME gyfraddau uwch o rai cyflyrau iechyd.  Er enghraifft, mae risg sylweddol uwch o ddatblygu diabetes gan boblogaethau o dras De Asiaidd a Charibïaidd; mae poblogaethau o dras Bangladeshaidd yn fwy tebygol o osgoi alcohol, ond yn fwy tebygol o ysmygu.  [2]

Dengys ffigurau o Gyfrifiad 2001 fod y boblogaeth BME yng Nghymru yn 2.1 y cant, o gymharu â 7.9 y cant yn y DU gyfan.  Mae gan boblogaethau BME, yn gyffredinol, strwythur oed ieuengach o gymharu â phoblogaethau gwyn, ac mae hynny’n adlewyrchu patrymau mewnfudo a ffrwythlondeb y gorffennol.  Rhagwelir y bydd poblogaethau BME yn heneiddio’n gynyddol yn y dyfodol, ond bydd yn dibynnu ar lefelau ffrwythlondeb, cyfraddau marwolaethau a niferoedd net yn mudo yn y dyfodol. [3] 

Ar y lefel ardal byrddau iechyd lleol (BILl), mae’r ffigurau’n amrywio o 0.9 y cant yn BILl Addysgu Powys, i 6.7 y cant yn BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae effaith mewnfudo er Cyfrifiad 2001 yn anoddach ei mesur. Nid oes un set ddata unigol sy’n cadw gwybodaeth am yr holl fewnfudwyr, ac mae llawer o ddiffiniadau a chategorïau gwahanol o ‘fudwyr’.  Mae’r GICC wrthi’n gweithio ar ddadansoddiadau o bobl sy’n cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru, nad ydynt wedi cofrestru felly’n flaenorol yn y DU, ac y mae eu man geni y tu allan i’r DU.  Mae’r dadansoddiadau hyn yn fwy perthynol i niferoedd na mynychder, er gyda rhai cyfyngiadau, ac maent yn dangos tueddiadau demograffig a thymhorol cyfrifiadau cyn 2001, llawer ohonynt o bosibl yn rhagddyddio’r niferoedd mwy diweddar sy’n mewnfudo.

 

Gellir gweld data ar lefel Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Ganolig (MSOA) ar gyfer Casnewydd, Caerdydd, Abertawe a Bro Morgannwg yn eu dogfennau penodol i awdurdodau lleol yn

 

[http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgId=719&pid=22797]. Nid yw data ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol eraill wedi’i gynnwys oherwydd y nifer fach o bobl o gefndir BME sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.

Poblogaeth Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

% y bobl nad ydynt yn bobl wyn, 2001

Geirfa  Dulliau a nodiadau   Adnoddau ychwanegol  

Cymru

BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf 

  BILl Aneurin Bevan

DU

2.1%

1.0%

0.9%

1.0%

1.6%

6.7%

1.1%

1.9%

7.9%

Cyfe

1. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru [ar-lein], 2008. Black and Ethnic Minority Population. Ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=719&pid=23574 [mynediad 20 Mai 2009]

2. Canolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol  [ar-lein], 2005. Health survey for England 2004: the health of minority ethnic groups – headline tables. Ar gael yn: http://www.ic.nhs.uk/statistics-and-data-collections/health-and-lifestyles-related-surveys/health-survey-for-england/health-survey-for-england-2004-health-of-ethnic-minorities-headline-tables  [mynediad 20 Mai 2009].

3. Ystadegau Gwladol  [ar-lein], 2004., Focus on Ethnicity and Identity Age/Sex Distribution Non-White groups are younger. Ar gael yn: http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=456 [mynediad 19 Mai 2009].

 

   Y gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol

Mae’r gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol (GFR) yn fesur o lefelau ffrwythlondeb cyfredol ac mae’n dynodi nifer y genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod 15-44 oed. Er bod y GFR yn ystyried dosbarthiad y boblogaeth yn ôl oed a rhyw, nid yw’n caniatáu ar gyfer carfannau o feintiau gwahanol o fenywod o oed magu plant.

Mae cyfradd ffrwythlondeb gyffredinol Cymru yn is na chyfradd y DU, ar sail ffigurau 2007. Fodd bynnag, mae’r cyfraddau yn weddol debyg ar draws y BILlau yng Nghymru, lle mae’r gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol yn amrywio o 57.4 yn BILl Hywel Dda i 61.4 yn BILl Addysgu Powys.

 

Y Gyfradd Ffrwythlondeb Gyffredinol

Genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod (15-44 oed), 2007

 

Geirfa  Dulliau a nodiadau   Adnoddau ychwanegol  Mapiau Iechyd Cymru    
 
Data gyda sylwebaeth, Excel (694 KB)

Cymru

BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

DU

 

59.4

60.5

61.4

57.4

59.0

58.0

61.2

59.7

61.5

 

 

   Disgwyliad oes

Mae disgwyliad oes adeg geni yn y DU wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar gofnod ar gyfer gwrywod a benywod.  Fe allai baban newydd-anedig sy’n fachgen ddisgwyl byw 77.2 o flynyddoedd, a gallai baban newydd-anedig sy’n ferch ddisgwyl byw 81.5 o flynyddoedd pe bai’r cyfraddau marwolaethau yn aros yr un fath ag yr oeddent yn 2005-07. Mae benywod yn parhau i fyw’n hynach na gwrywod; ond mae’r bwlch yn culhau. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae’r bwlch wedi culhau o 6.0 o flynyddoedd i 4.3 o flynyddoedd. [1]

Mae disgwyliad oes yng Nghymru ychydig yn is na chyfartaledd y DU. Mae’n amrywio yng Nghymru o 75.1 (gwrywod) a 79.9 (benywod) yn BILl Cwm Taf i 78.6 (gwrywod) ac 82.2 (benywod) yn BILl Addysgu Powys.

 

Disgwyliad oes adeg geni

Pobl a anwyd rhwng 2005-07

Geirfa Dulliau a nodiadau Adnoddau ychwanegol 

 
  

 

 

Cymru

BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

DU

Gwrywod (blynyddoedd)

76.8

77.2

78.6

77.1

76.3

76.9

75.1

76.7

77.2

Benywod(blynyddoedd)

81.2

81.5

82.2

82.0

80.7

81.6

79.9

80.9

81.5

 

Cyfeiriadau

1. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol  (2009). Life Expectancy at birth. Ar gael yn   http://www.statistics.gov.uk/CCI/nugget.asp?ID=168  [mynediad 2 Mehefin 2009]

 

   Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

Gellir defnyddio mesurau amddifadedd ar sail ddaearyddol er mwyn dangos anghydraddoldebau mewn iechyd, ac i awgrymu ardaloedd sydd yn fwyaf tebygol o fod angen mesurau i wella iechyd ac i reoli afiechyd. Cynhyrchir Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 ar lefel ardal fach a elwir yn Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA), a deillir hwn o ystod eang o ffactorau.

Yng Nghymru, mae rhan fwyaf yr ardaloedd difreintiedig yng nghymoedd De Cymru, rhai rhannau o arfordir Gogledd Cymru a rhannau o Gaerdydd ac Abertawe. Fodd bynnag, mae pocedi o amddifadedd cudd o fewn ardaloedd llai difreintiedig yn aml.

 

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)

% yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (LSOAau) yn y 5ed mwyaf difreintiedig yng Nghymru, 2008

Geirfa  Dulliau a nodiadau  Adnoddau ychwanegol  Mapiau Iechyd Cymru 

 

Data gyda sylwebaeth, Excel (2.5MB)

Cymru

  BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

 20%

12%

4%

10%

27%

20%

39%

24%

 

 

   Anabledd a gofalwyr

Pobl ag Anabledd Corfforol/Synhwyraidd

Mae gan gyrff y GIG ddyletswyddau o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 i roi ystyriaeth ddyledus i hyrwyddo cyfle cyfartal, hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl ag anabledd, ac annog cyfranogiad pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus. [1] Diffiniad gwreiddiol Deddf 1995 o anabledd yw ‘nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu [unigolyn] i gyflawni gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd’. [2]

Mae llawer o bobl sydd â namau corfforol neu synhwyraidd yn byw’n gwbl annibynnol, ond gall anabledd olygu bod mwy o angen am gymorth a gofal iechyd anffurfiol, ac anghenion gofal a chostau hirdymor. [2] Er nad yw’n ganlyniad anochel heneiddio, mae oed cynyddol yn cael ei gysylltu’n gyffredin ag anabledd cynyddol a cholli annibyniaeth, a namau gweithredol fel colli symudedd, y golwg a’r clyw. [3]

Mae’r term anabledd corfforol/synhwyraidd yn cynnwys namau gweledol, namau ar y clyw a namau corfforol; caiff y Gofrestr o Anabledd Corfforol/Synhwyraidd ei llunio o gofrestrau awdurdodau lleol o bobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd yng Nghymru sydd yn 18 oed neu’n hŷn.  Mae’r rhain yn cynnwys pobl sydd wedi cofrestru o dan Adran 29 Deddf Cymorth Gwladol 1948 sydd yn byw yn yr awdurdod lleol fel arfer. Mae cofrestru’n wirfoddol, ac ni fydd pawb ag anableddau yn dewis cofrestru. Nid yw’r cofrestru felly yn ganllaw dibynadwy i fynychder anabledd corfforol a synhwyraidd ymhlith y boblogaeth. [4] Gallai’r cyfrannau uwch o bobl sydd wedi cofrestru adlewyrchu demograffeg yr ardal leol, er enghraifft, poblogaeth breswyl hŷn. Gallai gwahaniaethau mewn gweithdrefnau awdurdodau lleol ddylanwadu ar hyn hefyd, ynghyd â gallu’r awdurdodau lleol hynny i gofrestru pobl fel pobl ag anabledd corfforol/synhwyraidd.

Mae ffigurau’n dangos bod 81,823 o bobl wedi cofrestru ar y Gofrestr Anableddau Corfforol/Synhwyraidd yng Nghymru ar 31 Mawrth 2008.

 

Pobl ag Anabledd Corfforol/Synhwyraidd

Nifer y bobl ar gofrestr ALl o bobl ag anabledd corfforol/synhwyraidd, 2007-08

 

Dulliau a nodiadau  Adnoddau ychwanegol        

Cymru

  BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

 81,823

26,799

7,867

9,344

11,094

6,416

4,700

15,603

References

1. Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus. Disability Discrimination Act 2005. Ar gael yn:  http://www.opsi.gov.uk/Acts/acts2005/ukpga_20050013_en_1 [mynediad 26 Mai 2009]

2. Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Pennod 50. Llundain : Llyfrfa Ei Mawrhydi; 1995. Ar gael yn: http://www.opsi.gov.uk/acts/acts1995/ukpga_19950050_en_1

[mynediad 3 Mehefin 2009]

3. Llywodraeth Cynulliad Cymru 2006. Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru. Ar gael yn

http://www.wales.nhs.uk/sites3/documents/439/NSFforOlderPeopleInWalesEnglish.pdf [mynediad 4 Mehefin 2009]

4. Uned Ddata Llywodraeth Leol http://dissemination.dataunitwales.gov.uk/webview/index.jsp?language=en  [mynediad 28 Mai 2009] 

Gofalwyr

Mae ymchwil yn dangos bod gofalwyr di-dâl, hynny yw, ffrindiau a chymdogion, yn darparu rhyw 70 y cant o ofal yn y gymuned. [1] Mae newidiadau mewn patrymau priodi, cynnydd yn nifer y cartrefi pobl sengl, teuluoedd unig riant a symudedd ymhlith aelodau teulu yn debygol o leihau’r gofal anffurfiol sydd ar gael.  Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd pobl hŷn yn mynd yn sâl, yn anabl, yn fregus neu’n agored i niwed.  Mae gostyngiad yn nifer y gofalwyr anffurfiol yn debygol o gynyddu’r galw am wasanaethau iechyd a chymdeithasol statudol. Wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, mae risg y gall gofalwyr barhau â’u rolau gofalu am gyfnodau hwy o lawer. Gallant hefyd fod yn gofalu am bobl ag anghenion lluosog ac anghenion cynyddol gymhleth. [1]

Mae awdurdodau lleol yn cofnodi’r nifer o ofalwyr (16 oed a hŷn) sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal sylweddol yn rheolaidd ar gyfer unigolyn arall 18 oed neu hŷn. Cymerir y diffiniad hwn o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. [3] Ar ôl eu nodi, efallai y cynigir asesiad i ofalwyr er mwyn pennu eu hangen am wasanaethau a thaliadau am ddarparu gwasanaethau iddynt. [2]

Mae’r ffigurau hyn yn ymwneud â nifer y gofalwyr a nodwyd yn ystod cyfnod o 12 mis. Efallai nad yw’r ffigur yn adlewyrchu graddau gwirioneddol y rôl ofalu yn y gymuned, gan nad yw rhai pobl o bosibl yn nodi’u hunain fel gofalwr i wasanaethau’r awdurdod lleol. Gallai’r cyfrannau uwch o bobl y nodwyd hwy fel gofalwyr adlewyrchu demograffeg yr ardal leol, er enghraifft, poblogaeth breswyl hŷn. Gallai gweithdrefnau awdurdodau lleol ddylanwadu ar hyn hefyd, ynghyd â gallu’r awdurdodau lleol hynny i nodi unigolion fel gofalwyr.

  

Mae ffigurau’n dangos bod 9,262 o bobl yng Nghymru, sy’n 16 oed a hŷn, wedi’u nodi fel gofalwyr rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2008

Gofalwyr

Nifer y gofalwyr (16 oed a hŷn) a nodwyd yn ystod cyfnod o 12 mis,

2007-08

 

Dulliau a nodiadau  Adnoddau ychwanegol     

    

Cymru

  BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

9,262

1,825

327

673

3,229

463

765

1,980

 

 

References

1. Llywodraeth Cynulliad Cymru  2007. Cynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Cymru 2007. Ar gael yn  http://wales.gov.uk/dhss/publications/socialcare/carers/carers_strategy-e.pdf?lang=en

[mynediad 26 Mai 2009]

2. Uned Ddata Llywodraeth Leol 2009. Ar gael yn  http://dissemination.dataunitwales.gov.uk/webview/index.jsp?language=en [mynediad 2 Mehefin 2009]

3. Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2009. Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. Ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2000/ukpga_20000016_en_1 [mynediad 2 Mehefin 2009]

 

   Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain

Mae trefniadau byw yn bwysig gan y gall pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain roi mwy o alwadau ar wasanaethau cymdeithasol personol o gymharu â phobl hŷn â threfniadau byw eraill. [1] Mae mwy o annibyniaeth ariannol, gwelliannau mewn iechyd ac agweddau tuag at fyw mewn sefydliadau cymunedol yn cyfrannu at y gyfran gynyddol o bobl hŷn sy’n byw’n annibynnol. [2] Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun tueddiadau diweddar yn y boblogaeth, fel y cynnydd yn y gyfran o bobl hŷn sy’n ysgaru. Mae cyswllt agos rhwng tueddiadau felly ag angen cynyddol am gyfleusterau gofal y tu allan i’r teulu. [2]

Mae ffigurau o Gyfrifiad 2001 yn adrodd bod 43 y cant o bobl hŷn yn byw ar eu pennau’u hunain yng Nghymru, o gymharu â 43.7 y cant yn y DU gyfan. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae’r ffigurau’n amrywio o 41.3 y cant yn BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro i 44.5 y cant yn BILl Cwm Taf.

 

Pobl hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain

% o bobl 75 oed a hŷn sy’n byw ar eu pennau’u hunain, 2001

 

Geirfa  Dulliau a nodiadau  Adnoddau ychwanegol       

Cymru

  BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan

DU

43.0%

43.2%

42.4%

41.9%

43.1%

41.3%

44.5%

44.2%

43.7%

 Cyfeiriadau

1. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (2006) Health Needs Assessment 2006: Older People. Caerdydd; GICC. Ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgId=719&pid=22801
[mynediad 14 Mai 2009]

2. Tomassini, C. (2005) Pennod 2: Family and living arrangements. Yn: National Statistics, ed. Focus on older people. Llundain: Ystadegau Gwladol tud. 11-20. Ar gael yn  http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_compendia/foop05/Olderpeople2005.pdf  [mynediad 14 Mai 2009]

 

 

   Marwolaethau

Er bod marwolaeth yn rhan anochel o fywyd, gall archwilio marwolaethau sy’n digwydd cyn y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ddigwydd ddangos anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd. Bydd y marwolaethau hyn yn digwydd yn aml am resymau y gellir eu hatal i raddau helaeth, [1] er enghraifft, o ganlyniad i ysmygu tybaco. Mae cyfraddau marwolaethau uwch yn cael eu cysylltu ag amddifadedd yn aml. [2]

Mae ffigurau ar gyfer 2007 yn dangos bod y gyfradd marwolaethau ymhlith pobl o dan 75 oed yng Nghymru yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y DU gyfan. Mae amrywio  sylweddol yng Nghymru ei hun, gyda 255.8 yn unig fesul 100,000 yn BILl Addysgu Powys, a 413.9 fesul 100,000 yn BILl Cwm Taf. Yng Nghymru gyfan, mae’r gyfradd wedi gostwng bob blwyddyn o 1999 i 2006. O 2006 i 2007 mae cynnydd yn amlwg. Gellir gweld cynnydd tebyg o 2006 i 2007 yn y tri BILl yn y de ddwyrain (Cwm Taf, Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Aneurin Bevan) ond nid yn unrhyw un o’r lleill.

Nodiadau: Cynhwysir yr holl achosion marwolaeth yma, a gall hynny gynnwys marwolaethau na ellid fod wedi’u hatal. Mae’r dadansoddiad yn defnyddio’r dull safoni uniongyrchol yn ôl oed, yn seiliedig ar y boblogaeth safonol Ewropeaidd a ddefnyddir yn gyffredin.  Nid yn unig y caiff y cyfraddau a gynhyrchir gan y dull hwn eu haddasu i ystyried strwythurau poblogaethau lleol amrywiol, ond gellir eu cymharu’n uniongyrchol â’i gilydd, boed hynny rhwng blynyddoedd neu rhwng ardaloedd. Mae goroesi tan 75 oed wedi’i ddefnyddio ar gyfer cyfrifo marwolaeth cyn pryd, [3] a defnyddir cyfraddau marwolaethau Ewropeaidd yn ôl oed safonedig y rhai dan 75 oed ar gyfer rhai cyflyrau i gael Targedau Cynnydd mewn Iechyd ar gyfer Cymru.

 

 

 

Cyfradd

Cyfwng hyder 95%

Marwolaethau’r rhai o dan 75 oed

Cyfradd marwolaethau yn ôl oed safonedig fesul 100,000 o’r boblogaeth breswyl a chyfyngau hyder  95%, 2007

Geirfa  Dulliau a nodiadau  Adnoddau ychwanegol  Mapiau Iechyd Cymru  

 

Data gyda sylwebaeth, Excel (441 KB)

 

Cymru

  BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr

  BILl Addysgu Powys

  BILl Hywel Dda

  BILl Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg

  BILl Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  BILl Cwm Taf

  BILl Aneurin Bevan 

DU

332.1

310.1

255.8

297.3

344.9

336.7

413.9

349.7

307.1

 (325.9 – 338.5)

(297.7 – 322.8)

(230.9 – 282.6)

(281.3 – 314.0)

(329.4 – 361.0)

(319.3 – 354.7)

(391.5 – 437.3)

(334.9 – 364.9)

(305.8 – 308.5)

 

Cyfeiriadau

1. Wheller L, Baker A, Griffiths C & Rooney C (2007) Trends in avoidable mortality in England and Wales 1993-2005. Health Statistics Quarterly, 34. SYG: Llundain. Ar gael yn 

 http://www.statistics.gov.uk/articles/hsq/HS34Q-Mortality.pdf

2. Uren Z & Fitzpatrick J (2001) Analysis of mortality by deprivation and cause of death. Geographical Variations in Health – Decennial Supplement DS16. SYG:

Llundain. Ar gael yn: http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_health/DS16/DS16_cap11.pdf 

3. Wheller L, Baker A & Griffiths C (2006) Trends in premature mortality in England and Wales 1950-2004. Health Statistics Quarterly, 31. SYG:

Llundain. Ar gael yn http://www.statistics.gov.uk/articles/hsq/HSQ31premature_mortality.pdf

 
 

 

© 2009 Canolfan Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru

 

Gellir atgynhyrchu deunydd a gynhwysir yn y proffil hwn heb ganiatâd o flaen llaw cyhyd ag y gwneir hynny’n gywir ac na chaiff y deunydd ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid datgan cydnabyddiaeth i Ganolfan Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

Hawlfraint argraffyddol yn eiddo i Ganolfan Iechyd Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

 

 

 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 20/09/2009