Sgipio mordwyaeth
 

Amdanom Ni

Mae asesu'r effaith ar iechyd (HIA) yn broses sy'n helpu sefydliadau i asesu goblygiadau posib eu penderfyniadau ar iechyd a lles pobl. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ei defnydd fel rhan allweddol o'i strategaeth i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
 
Mae asesu’r effaith ar iechyd yn darparu fframwaith systematig ond hyblyg ac ymarferol y gellir ei ddefnyddio i ystyried effeithiau ehangach polisïau neu fentrau lleol a chenedlaethol a sut y gallen nhw, yn eu tro, effeithio ar iechyd pobl. Mae asesu’r effaith ar iechyd yn gweithio orau pan fydd yn cynnwys pobl a sefydliadau sy'n gallu cyfrannu gwahanol fathau o wybodaeth a safbwyntiau perthnasol. Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i gynnwys mesurau sy'n cyflwyno'r cyfleoedd gorau ar gyfer iechyd a chyn lleied o beryglon â phosib. Mae hefyd yn cynnig ffordd o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy'n parhau i fodoli yng Nghymru.
 
Uned Gymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU)
 

Mae'r WHIASU wedi'i lleoli yn Sefydliad Cymdeithas, Iechyd a Moeseg Caerdydd sy'n rhan o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ac yng Nghanolfan Iechyd Cymru yn Wrecsam. Canolfan Iechyd Cymru sy'n gyfrifol am WHIASU ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Swyddogaethau allweddol WHIASU yw:
 
·     Cefnogi datblygiad a defnydd effeithiol o'r dull asesu effaith ar iechyd yng Nghymru trwy greu partneriaethau a chydweithio gyda sefydliadau statudol, gwirfoddol, cymunedol a phreifat Cymru;
 
·     Darparu gwybodaeth a chyngor uniongyrchol i'r rhai sydd wrthi'n gwneud asesiadau o'r effaith ar iechyd;
 
·     Cyfrannu at y ddarpariaeth o waith ymchwil newydd, a sicrha ei bod hi'n hawdd dod o hyd i'r dystiolaeth sy'n bodoli'n barod, a fydd yn goleuo ac yn gwella barn pobl am effeithiau posib polisïau, rhaglenni a phrosiectau.
 
 


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 27/04/2012