Bwrdd Rheoli
Diben Bwrdd Rheoli’r Ganolfan Genedlaethol Cydweithredu dros Ganser (CGC-G) yw i gynnal gweithrediad y CGC-G, yn cynnwys adolygiad rheolaidd o’r canllawiau canser wrth iddynt gael eu datblygu.
Swyddogaethau Bwrdd Rheoli’r CGC-G
Mae’r Bwrdd Rheoli yn cwrdd bob tri mis ac mae ei swyddogaethau’n cynnwys:
- Monitro gweithrediad y CGC-G, yn unol â’r contract rhwng Ymddiriedolaeth GIG Felindre a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE)
- Helpu i benodi Cyfarwyddwr y CGC-G
- Cymeradwyo prosiectau canllaw newydd ar gyfer y CGC-G
- Cymeradwyo adolygiadau chwarterol y mae’r CGC-G yn eu llunio ac yn eu cyflwyno i NICE
- Adolygu gwaith y grwpiau datblygu canllawiau (GDCau)
- Adolygu’r broses o ddatblygu canllawiau ar ddiwedd pob canllaw
- Cynghori’r CGC-G ynghylch trafod newidiadau i faterion gwaith ac ansawdd cytûn gyda NICE
- Sicrhau rheolaeth ariannol gadarn o’r CGC-G.
Aelodaeth o Fwrdd Rheoli’r CGC-G
Ar hyn o bryd mae aelodaeth Bwrdd Rheoli’r CGC-G fel a ganlyn:
| Enw | Cynrychiolaeth |
| Yr Athro Geraint Williams | Cadeirydd |
| Dr Lynn Hirschowitz | Coleg Brenhinol y Patholegwyr |
| Dr Diana Tait | Coleg Brenhinol y Radiolegwyr |
| Yr Athro Malcolm Mason | Prifysgol Caerdydd |
| Yr Athro Ceri Phillips | Swansea University |
| Dr Thomas Round | Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol |
| Mr Richard Stephens | Ymddiriedolaeth GIG Felindre |
| Mr David Ardron | NCRI Consumer Liaison Group |
| Dr Cathy Hughes (Is-gadeirydd) | Coleg Nyrsio Brenhinol |
| Dr Mark Taubert | Cyngor Cenedlaethol dros Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol Arbenigol |
| Mrs Carolyn Morris | Macmillan Cancer Voices |
| Ms Moira Tomlinson | Clinical Effectiveness Forum of Professions Allied to Medicine |
| Yr Athro Robert Mansel | Royal College of Surgeons of England |
| Dr Adam Dangoor | Royal College of Physicians |
| Dr John Graham | CGC-G |
| Yr Athro Mark Baker | NICE |
Dyddiadau Cyfarfodydd Bwrdd Rheoli’r CGC-G yn y dyfodol
Mae dyddiadau cyfarfodydd Bwrdd Rheoli’r CGC-G yn y dyfodol fel a ganlyn:
- 26 Ionawr 2012
- 30 Ebrill 2012
- 24 Gorffennaff 2012
- 31 Hydref 2012
- 31 Ionawr 2013
Mae mwy o wybodaeth am waith Bwrdd Rheoli’r CGC-G ar gael yn Cylch Gorchwyl Bwrdd Rheoli'r CGC-G.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
01/02/2013