Cydnabod proffil ieithyddol y gymuned

1. Menter Min Nos
Menter Cwm Gwendraeth, Llanelli
Janet Hague, Rheolwr Menter Min Nos
2008
 
Mae’r gwasanaeth yma yn darparu gweithwyr cymorth dwyieithog yn  Adran Damweiniau ac Achosion Brys mewn dau ysbyty yng Ngorllewin Cymru ar gyfer pobl hŷn y gymuned. Maent yno i gyfarch y cleifion, darparu gwybodaeth ddwyieithog a darparu cyfeillgarwch a chefnogaeth emosiynol. Fe allant hefyd drefnu trafnidiaeth i’r claf ar ôl iddynt gael eu rhyddhau ac asesu y cymorth fydd ar gael iddynt yn y cartref. Mae hyn o fudd i’r ysbyty hefyd gan bod gwelyau yr uned achosion brys yn cael eu rhyddhau.
 
Mae’r mwyafrif o’r gwaith yn cael ei wneud yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg a gan bod y gweithwyr yn wirfoddolwyr mae’n gynaliadwy a throsglwyddadwy iawn. Bwriad Menter Cwm Gwendraeth yw i ddatblygu drwy gynnig hyfforddiant pellach i’r gweithwyr a chael mynediad i adrannau eraill yr ysbytai.
 
2. Dysgwr – Tolis Kontes
Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
2010
 
Mae Tolis yn dod yn wreiddiol o Wlad Groeg ac mae’n gweithio yn y tîm offthalmoleg yn Nghlinig Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth ac yn cynnal clinigau yn Aberaeron ac Aberteifi. Ers cyrraedd Cymru, mae wedi cymryd diddordeb mawr mewn diwylliant Cymraeg a’r iaith Gymraeg. Mae wedi dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad drwy fynd i ddosbarthiadau nos ddwy waith yr wythnos ac mae wedi dangos datblygiad da iawn. Mae llawer o’i gleifion yn bobl hŷn sy’n siarad Cymraeg ac maent yn gwerthfawrogi’n fawr y ffaith ei bod yn gallu cael eu trin drwy gyfrwng y Gymraeg gan Tolis. Mae’n ymarfer ei Gymraeg ar bob cyfle posibl ac yn gwneud cynnydd gwych, ei obaith yw cario ymlaen i ddysgu Cymraeg tan y bydd yn hollol rhugl.


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 31/10/2011