Gwobrau 2013

Bwriad Cynhadledd a Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd yw gwella’r ddarpariaeth ddwyieithog mewn gofal iechyd. Bydd y digwyddiad eleni yn canolbwyntio ar weithredu “Mwy na Geiriau…”. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar y 11 o Orffennaf 2013 yn Venue Cymru, Llandudno. Bob blwyddyn, trwy’r gwobrau rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o lwyddiannau’r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwasanaethau dwyieithog, annog syniadau arloesol, a chodi proffil pwysigrwydd gwasanaeth dwyieithog drwy rannu arfer da ar draws Cymru.

 

Bydd y Gwobrau yn cael eu cyflwyno yng Nghynhadledd y Gymraeg mewn Gofal Iechyd sydd yn cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar y 11 o Orffenaf 2013.

Er mwyn gweld y categorïau ac i enwebu defnyddiwch y ffurflen enwebu arlein.

Croesewir enwebiadau gan:

  • Timau, grwpiau a sefydliadau yn y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol  
  • Sefydliadau gwirfoddol
  • Sefydliadau Addysg Uwch a Phellach
  • Awdurdodau Lleol 

Nodwch mae dim ond ar gyfer categori Dysgwyr y Flwyddyn y gellir enwebu unigolion.

   Poster y Gwobrau               Taflen y Gwobrau

Os hoffech enwebu trwy'r post anfonwch ar y cyfeiriad isod, cysylltwch â'r Uned yr Iaith 02920 82 3135 neu e-bostiwch uned-yr-iaith@wales.gsi.gov.uk

                                          

Uned Polisi Iaith Gymraeg

Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 04/03/2013