Gwasanaethau fferyllfa Mae’r fferyllfa ger yr uned cemotherapi yn Felindre ac mae’n darparu gwasanaeth fferyllol llawn i’r ganolfan ganser. Darperir gwasanaeth gweinyddu a fferyllfa glinigol hefyd i Holme Towers/Canolfan Marie Curie ym Mhenarth. Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:- - Cyngor i gleifion a staff ar ddefnyddio cyffuriau’n ddiogel ac yn effeithiol. Mae hyn yn digwydd ar lefelau amrwyiol.
- a) Cyngor uniongyrchol i gleifion ar eu therapi unigol gan gynnwys i gleifion allanol wrth ddosbarthu eu cyffuriau, i gleifion mewnol yn ystod ymweliadau â’r ward fferylliaeth glinigol a thrwy addysgu cleifion ar asiantau cemotherapi geneuol mewn clinigau addysg pwrpasol a gynhelir gan y fferyllfa.
- b) Cyngor i staff clinigol rheng flaen am broblemau penodol o ran cyffuriau neu gleifion naill ai o ganlyniad i ymholiad uniongyrchol, wrth weinyddu presgripsiwn neu yn ystod taith fferyllol o gwmpas y wardiau.
- c) Cyngor rhagnodi cyffredinol ar ffurf polisïau a gweithdrefnau ynglŷn â materion cyffuriau a therapiwteg.
- d) Cyngor i uwch staff ar feddyginiaethau – materion perthynol gan gynnwys gofyniadau statudol.
- e) Aelodaeth amrywiaeth o bwyllgorau ysbyty er mwyn sicrhau mewnbwn fferyllol ar faterion diogelwch cleifion, llywodraethu clinigol a rheoli risg.
- Mae rhagnodwyr nad ydynt yn feddygol sy’n annibynnol ar fferyllwyr yn gweithio fel rhan o’n timau amlddisgyblaeth, yn adolygu cleifion ac asesu eu haddasrwydd o ran parhau gyda chemotherapi. Mae’r rhagnodwyr sy’n annibynnol ar fferyllwyr yn rhagnodi cemotherapi a meddyginiaeth gefnogol ar gyfer grŵp eang o gleifion gan gynnwys y rhai sydd â chanser y fron a chanser y colon.
- Arweinyddiaeth ar gyfer cynnal a chadw’r system rhagnodi, sef ChemoCare. Caiff pob trefn gemotherapi ei rhagnodi’n electronig ac mae cyfrifoldeb ar y Fferyllfa bod pob trefn gyffuriau a roddir ar y system yn gywir ac yn ddiweddar. Rydym hefyd yn hyfforddi’r holl staff meddygol ar ei defnyddio.
- Darparu cemotherapi a meddygaeth gefnogol i ysbytai allgymorth Canolfan Ganser Felindre.
- Prynu, storio a dosbarthu’r holl gyffuriau, rhwymynnau sych ac arbenigol, nwyon meddygol, ychwanegion bwyd a deunydd fferyllol.
Gwasanaeth paratoi ar gyfer cemotherapi - Rydym yn paratoi dros 25,000 o eitemau bob blwyddyn ac mae hyn yn ffurfio rhan fwyaf ein gwaith. Mae gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) bolisïau llym o ran y ffordd mae gwasanaethau ‘n cael eu gweithredu. Caiff cyfleusterau, personél a swyddogaethau eu rheoleiddio i gyd. Mae’r MHRA yn ei wneud yn ofynnol i gofnodi gwaith papur yn ofalus iawn, ynglŷn â chynnal a chadw cyfarpar, tystiolaeth am sefydlogrwydd (dyddiadau dod i ben) a dogfennaeth ar gyfer pob eitem a baratoir.
Mae’r gwaith sydd ei angen er mwyn gweithredu hyn yn sylweddol. I rywun allanol efallai bydd hyn yn ymddangos yn rhy gymhleth, fodd bynnag, mae cemegau gwenwynig iawn yn cael eu gweini i gleifion bregus iawn. Gallai canlyniadau hyd yn oed y camgymeriad lleiaf fod yn farwol. Mae gan yr MHRA y pŵer i gau unrhyw gyfleuster nad ydynt y fodlon arno. Rheolaeth fferyllol treialon clinigol Ar unrhyw adeg benodol gall tuag 80 o dreialon fod yn cael eu cynnal gyda llawer mwy ar y ffordd. Mae’n rhaid asesu pob treial ar gyfer goblygiadau llwyth gwaith a chost. Pan gaiff treial ei gymeradwyo gan yr asiantaethau rheoleiddio, cynhyrchir canllaw rhagnodi manwl. Mae hyn yn sicrhau yr ymdrinnir â phob manylyn y broses. Wedyn caiff pob trefn ar gyfer treialon clinigol ei hychwanegu at system rhagnodi electronig ChemoCare. Mae hyn yn sicrhau y caiff ei ragnodi’n ddiogel a’i weini’n gywir yn unol â rheoliadau’r treial a’r cyrff llywodraethol. I gael rhagor o wybodaeth ar yr adran fferylliaeth, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi ar gyfer fferyllwyr, ewch i http://www.pharmacy.wales.nhs.uk/ | Ystyriwch hefyd |