Ystafell Ffau’r Llewod i blant
| |
Ystafell Ffau’r Llewod i blant Agorodd yr ystafell i blant am y tro cyntaf ym 1999. Amlygodd ymchwil pa mor bwysig oedd i deuluoedd dreulio amser o ansawdd da gyda’i gilydd pan fydd canser ar riant neu ar nain neu taid. Roeddem eisiau creu amgylchedd sy’n gyfeillgar i blant a heb fod yn fygythiol lle gallai plant o bob oedran ymweld â pherthnasau a threulio amser o ansawdd da gyda’i gilydd. Bu’r prosiect yn llwyddiant aruthrol a hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl deuluoedd am eu haelioni a’u cefnogaeth. Cofir am yr holl deuluoedd a’n helpodd ar ein bwrdd storïau y tu allan i’r ystafell.  Ar ôl 10 mlynedd o ddefnydd, roedd y plant yn eithaf di flewyn ar dafod ynglŷn â rhoi gwybod i ni fod angen i’r ystafell gael eu hailwampio a’i diweddaru er mwyn bodloni eu hanghenion yn y 21ain ganrif! Yn 2008 daeth teulu a ffrindiau Sefydliad Ed Evans atom ac arweiniodd eu rhodd hael at ailwampio’r ystafell yn llwyr. Daeth rhoddion ychwanegol gan: • Ffermwyr ifanc Pontsenni • Leighton Griffiths • Rhanbarth Bandiau Jas Cymru • Clwb Rygbi Rhiwbeina • Cronfa Elusennol Pendragon  Sicrhaodd y cymorth ychwanegol bod gan yr ystafell newydd y goleuadau a’r consolau gemau diweddaraf ar gyfer ein hymwelwyr ifanc. Gwnaethom ailenwi’r ystafell a gafodd ei hailwampio yn 'Ffau’r Llewod'. Cafodd ei hailagor yn swyddogol gan seren rygbi Cymru Martyn Williams ar 1 Ebrill 2009. Rydym wrth ein bodd gyda’r adborth cadarnhaol gan deuluoedd sydd wedi defnyddio’r ystafell. Roedd y plant (a’r rhieni/neiniau a theidiau!) yn arbennig o hoff o’r consol gemau Wii a’r amgylchedd llachar.  Mae Ffau’r Llewod ar gael i gleifion Felindre a’u teuluoedd a gellir ei harchebu drwy unrhyw aelod o’r staff nyrsio neu dderbynyddion y ward. Caiff yr ystafell ei harchebu ar gyfer un teulu ar y tro. Nid yw’n gyfleuster meithrinfa - mae’n rhaid i blant gael eu goruchwylio drwy’r amser. Hefyd gellir archebu’r ystafell i ddathlu digwyddiadau teuluol arbennig megis pen-blwyddi. Mae cyfleusterau te a choffi ar gael am ddim. Rydym yn gobeithio y mwynhewch defnyddio Ffau’r Llewod!  Gadewch sylw i ni am eich ymweliad yn ein llyfr ymwelwyr. Cofion gorau, Michele Pengelly a Clare Boobier | Ystyriwch hefyd |
| yn ol i’r brug | Tudalen o werth? |
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
18/01/2012